Skip to main content

Canolfan hyfforddi - telerau ac amodau

Canolfan Hyfforddi Dechrau'n Deg - telerau ac amodau

Darllenwch y telerau ac amodau isod yn drwyadl, a chytuno iddyn nhw, cyn cadw lle.

Cyrsiau hyfforddi – telerau ac amodau

Y telerau a'r amodau canlynol yw'r unig delerau ac amodau y bydd Canolfan Hyfforddi Gwasanaethau y Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd, y cyfeirir ati fel ‘y Ganolfan’ o hyn ymlaen, yn eu defnyddio i ganiatáu i unigolyn neu sefydliad ddilyn y cyrsiau hyfforddi sy'n cael eu darparu. Wrth gyflwyno ffurflen cadw lle, byddwch chi'n dangos eich bod chi'n derbyn y telerau a'r amodau hyn.

1. Rhaid talu'r ffioedd cadw lle ar adeg cadw'r lle, a hynny mewn arian parod, ar ffurf siec (yn daladwy i CBSRhCT) neu drwy ofyn am anfoneb gennym ni. Bydd y manylion yn cael eu hychwanegu at ein rhestr anfonebu a'u prosesu ddiwedd y mis. Bydd anfoneb yn cael ei hanfon atoch chi a bydd modd i chi dalu â siec neu â cherdyn drwy ffonio'r adran cyllid. 

Fyddwn ni ddim yn ad-dalu ffioedd cadw lle. Byddwn ni dim ond yn eu had-dalu os bydd y Ganolfan yn canslo'r cwrs.

2. Bydd cadarnhad o'ch lle ar y cwrs yn cael ei anfon drwy e-bost. Os fyddwch chi ddim yn derbyn cadarnhad o fewn 14 diwrnod gwaith ers anfon y ffurflen cadw lle, yna cymerwch hi fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus.

3. Rhaid rhoi gwybod am ganslo lle o leiaf 14 diwrnod cyn dechrau'r cwrs er mwyn osgoi talu ffi. Os fyddwch chi ddim yn gallu mynd ar y cwrs, rhaid i chi roi gwybod i ni drwy e-bost neu anfon neges destun i 07717 432366. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cynnwys eich enw llawn, eich rhif Yswiriant Gwladol, teitl y cwrs a'r dyddiad, yn ogystal â'r rheswm dros beidio â mynd ar y cwrs.

Os fyddwn ni ddim yn derbyn neges, neu os byddwch chi'n canslo ar fyr rybudd a'n bod ni'n methu dod o hyd i rywun i gymryd eich lle, byddwn ni'n codi tâl cosb o £20.

4. Bydd modd i rywun arall fynd yn lle'r cynrychiolydd heb godi tâl ychwanegol, ar yr amod bod cadarnhad o hynny o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad dechrau'r cwrs.

Bydd presenoldeb ar gyrsiau yn cael ei fonitro. Os bydd aelodau unigol o staff yn methu â mynd ar gwrs heb roi gwybod i ni ymlaen llaw ar fwy nag un achlysur, bydd modd i hyn effeithio ar eich gallu i fynd ar gyrsiau hyfforddi yn y dyfodol a/neu codi tâl cosb.

5. Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni os bydd aelod o staff yn gadael ei swydd a fydd dim angen mynd ar y cwrs hyfforddi bellach. Os fyddwch chi ddim yn rhoi gwybod i'r ganolfan hyfforddi am hyn o leiaf 7 diwrnod gwaith cyn y cwrs, byddwn ni'n codi tâl ychwanegol arnoch chi.

6. Mae gan y Ganolfan hawl i newid lleoliad unrhyw gwrs hyfforddi. Cadwch hyn mewn cof wrth gadw lle oherwydd fydd dim modd i ni ad-dalu ffioedd cadw lle os fyddwch chi ddim yn gallu cyrraedd y lleoliad newydd.

7. Fydd cinio ddim yn cael ei ddarparu ar ein cyrsiau, ond bydd croeso i chi ddod â'ch pecyn bwyd eich hun. Erbyn hyn, dydy lluniaeth ddim yn cael ei ddarparu am ddim, ond mae bwyd a diod ar gael i'w prynu yn y rhan fwyaf o'r canolfannau.

8. Os bydd cwrs yn cael ei ganslo oherwydd achosion y tu hwnt i reolaeth y Ganolfan, byddwn ni'n cysylltu â'r cynrychiolwyr ac yn cynnig dyddiad arall lle bo modd. Pe bai'r dyddiad newydd yn anghyfleus, bydd y Ganolfan yn ad-dalu'r ffi.

9. Rhaid i aelodau o staff y rhaglen Dechrau'n Deg gael caniatâd ymlaen llaw gan eu rheolwr cyn gwneud cais.

Noder: eich cyfrifoldeb chi yw rhoi cyfeiriad e-bost cywir ac edrych ar eich negeseuon e-bost yn rheolaidd. Byddwn ni'n cysylltu â chi drwy e-bost / neges destun bob amser. Os bydd cwrs yn cael ei ganslo, bydd ein system yn anfon neges e-bost i roi gwybod i chi am hyn. Fyddwn ni ddim yn gyfrifol am negeseuon e-bost fydd ddim yn cael eu darllen.