Skip to main content

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd wedi lansio gwefan newydd i rieni, gwarcheidwaid, plant, pobl ifainc a'r gweithwyr proffesiynol sy'n eu cefnogi nhw. 

Beth sydd ar wefan TeuluoeddRhCT.co.uk?

Rhieni a gwarcheidwaid

  • Awgrymiadau Rhianta
  • Syniadau am weithgareddau i'w gwneud ar yr aelwyd a thu allan i’r aelwyd
  • Cyrsiau rhianta y mae modd cadw lle arnyn nhw
  • Gwybodaeth am ba wasanaethau sydd ar gael i deuluoedd, gan gynnwys cymorth ariannol, dod o hyd i ddarparwyr gofal plant a llawer yn rhagor
  • Gwybodaeth benodol ynglŷn â gwasanaethau CWRS

Plant a Phobl Ifainc

  • Cymorth a chanllawiau i blant a phobl ifainc hyd at 25 oed
  • Dangos y ffordd at wasanaethau perthnasol
  • Syniadau am weithgareddau i'w gwneud ar yr aelwyd a thu allan i’r aelwyd

Gweithwyr Proffesiynol

  • Gwybodaeth am wasanaethau CWRS, fel pwy sydd yn gymwys, sut rydych chi'n cael eich cyfeirio a beth sy'n digwydd pan gewch chi eich cyfeirio
  • Cyfarwyddiadau ar sut i wneud cais a chael eich cymeradwyo i fod yn gyflenwr gweithgareddau chwarae a'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid
  • Cyrsiau y mae modd cadw lle arnyn nhwCael gwybod am beth sydd gyda'n Canolfannau i Blant a Theuluoedd i’w gynnig i chi.
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Gwefan: www.teuluoeddrhct.co.uk

Rhadffon: 0800 180 4151

Rhadffon ar ffonau symudol: 0300 111 4151

E-bost: fis@rhondda-cynon-taf.gov.uk