Skip to main content

Teuluoedd yn Gyntaf

Roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf ymhlith yr awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i gael eu dewis gan Lywodraeth Cymru i ddarparu'r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, a hynny’n rhan o ddull cenedlaethol ehangach i fynd i'r afael â thlodi plant.

Mae rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn hyrwyddo datblygiad gwaith amlasiantaeth effeithiol a chydlynol sy'n canolbwyntio ar deuluoedd, gyda phwyslais eglur ar atal ac ymyraethau cynnar i osgoi ymyrraeth statudol.

Mae angen help llaw ar bawb o bryd i'w gilydd. Mae rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn gweithio gyda phobl, a'u plant, i'w helpu nhw i ddelio â materion cyn i'r materion hynny droi'n broblemau neu'n argyfwng. Byddwn ni'n gwneud hyn trwy weithio gyda'ch teulu er mwyn eich helpu chi i weld yr hyn sy'n gweithio a phenderfynu pa gymorth sydd ei angen arnoch chi er mwyn i chi ffynnu fel teulu.

Mae rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn nodi anghenion y teulu cyfan – yn ogystal â'r materion unigol mae aelodau o'r teulu dan sylw yn eu hwynebu. Mae'n cynnig cymorth, cefnogaeth a gofal pwrpasol i'r teulu hwnnw i sicrhau canlyniadau cadarnhaol.

Mae'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yn rhan o'r rhaglen yma'n rhoi ystyriaeth i'r egwyddorion canlynol:

  • Canolbwyntio ar y teulu – gwasanaethau sy'n edrych ar anghenion y teulu i gyd yn lle canolbwyntio ar aelodau unigol o'r teulu.
  • Unigryw – gwasanaethau sy'n bodloni anghenion penodol eich teulu.
  • Grymuso – gwasanaethau sy'n rhoi grym yn nwylo’'ch teulu i reoli’ch bywydau.
  • Integredig – gwasanaethau sy'n gweithio gyda'i gilydd er mwyn eich helpu mewn ffordd gydlynol.
  • Trylwyr – cymorth sydd â ffocws ond sydd hefyd yn ddigon hyblyg i’w addasu os yw amgylchiadau eich teulu yn newid.
  • Lleol – gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio i fynd i'r afael ag anghenion y gymuned leol.
  • Rhagweithiol – mae'n bwysig bod eich anghenion yn cael eu nodi cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau eich bod chi'n derbyn cymorth mewn da bryd.
  • Cynaliadwy – cymorth sy'n mynd i'r afael ag achos sylfaenol eich problemau er mwyn sicrhau bod eich teulu yn parhau i wneud cynnydd ar ôl i'r cymorth ddod i ben.

Yn ogystal â'r prif ddull, sef Carfan o Amgylch y Teulu, mae rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn Rhondda Cynon Taf hefyd yn comisiynu ac yn cefnogi amrywiaeth o gynlluniau a mentrau i helpu teuluoedd. Os dydy rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf ddim yn gallu bodloni anghenion eich teulu, efallai bydd modd i ni eich cyfeirio at wasanaeth arall.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: