Skip to main content

Ble bydda i'n byw

 
Pan fyddwch chi mewn gofal, byddwch chi'n byw yn rhywle sy'n gweddu i'ch sefyllfa unigol ac i'r hyn sy'n digwydd yn eich bywyd.

Gofal maeth

Os fyddwch chi ddim yn gallu byw gydag un o'ch rhieni, aelod o'ch teulu neu ffrind agos, efallai bydd angen i chi fyw gyda rhiant/theulu maeth i'ch cadw chi'n ddiogel. Mae'r rhieni maeth i gyd yn wahanol ac maen nhw'n dod o gefndiroedd gwahanol, ond, maen nhw i gyd wedi'u hyfforddi i ofalu am blant. Mae'r rhieni maeth i gyd wedi cael eu gwirio gan yr heddlu i wneud yn siŵr byddan nhw'n gallu gofalu amdanoch chi.

Yn ystod eich cyfnod mewn lleoliad maethu, gwaith y rhiant maeth yw gofalu amdanoch chi a'ch cadw chi'n ddiogel mewn tŷ cynnes a glân. Byddwch chi'n cael dod â'ch dillad, eich llyfrau, eich teganau a'ch pethau arbennig eraill gyda chi. Gobeithio byddwch chi'n hapus yn eich lleoliad maethu, ond, weithiau, mae'n cymryd ychydig o amser i ymgartrefu ac i deimlo'n gartrefol. Mae'n hollol normal!

Gallwch chi ddweud eich dweud am eich lleoliad maethu yn ystod eich adolygiad plant sy'n derbyn gofal neu drwy siarad â'ch gweithiwr cymdeithasol.

Gofal gan berthynas

Mae gofal gan berthynas yn golygu byddwch chi'n byw gydag aelod o'ch teulu neu ffrind i'ch teulu, os fyddwch chi ddim yn gallu byw gyda mam neu dad. Os byddwch chi'n dod i mewn i'r system gofal, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweld oes rhywun yn eich teulu yn gallu gofalu amdanoch chi. Mae rhai plant mewn gofal yn byw gyda'u teulu estynedig – fel mam-gu/tad-cu, modryb/ewythr, neu frawd/chwaer hŷn – ac maen nhw'n gyfrifol am ofalu am y plant.

Byddai'ch gweithiwr cymdeithasol yn parhau i ymweld â chi yn rheolaidd i wneud yn siŵr eich bod chi'n ddiogel ac yn derbyn gofal o safon dda.

Cartref preswyl (neu ‘cartref i blant’)

Mae rhai plant mewn gofal yn byw mewn cartrefi preswyl. Yn lle byw gyda'u teulu, mae'n golygu eu bod nhw'n byw mewn tŷ gyda phlant eraill sy'n derbyn gofal lle mae staff ar gael 24 awr y dydd. Mae'r cartrefi i gyd ychydig yn wahanol, ond, maen nhw i gyd yn gwneud yn siŵr bod y plant yn teimlo'n ddiogel ac yn derbyn gofal.

Mae'r Cyngor yn cynnal tri chartref preswyl yn Rhondda Cynon Taf

  • Cartref Cymunedol Beddau

Mae Cartref Cymunedol Beddau yn darparu lleoliadau tymor hir ar gyfer hyd at saith o bobl ifainc 13–16 oed.

  • Cartref Cymunedol Bryndâr

Mae Cartref Cymunedol Bryndâr yng Nghwmdâr, Aberdâr. Mae'n darparu gofal tymor hir ar gyfer chwech o bobl ifainc 13–17 oed ac un lleoliad brys ar gyfer person ifanc 11–17 oed.

Gallwch chi hefyd gael lleoliad mewn cartref preswyl sy'n cael ei gynnal gan asiantaeth. Gall y cartref yma fod y tu mewn i ffiniau Rhondda Cynon Taf neu mewn ardal arall.

seibiant byr dymor

  • Cartref arhosiad byr ydy Nantgwyn yng Nghwmdâr, Aberdâr.  Mae Nantgwyn yn rhoi seibiant byr dymor i blant a phobl ifainc rhwng 6 ac 18 oed sydd ag anableddau dysgu neu anableddau corfforol. Mae Nantgwyn yn rhoi cymorth i blant a theuluoedd ac yn cynnig seibiant dros nos. Rydyn ni'n helpu plant a phobl ifainc i gymryd rhan yn y gymuned,  manteisio ar gyfleusterau lleol, a hyrwyddo diddordebau. Rydyn ni hefyd yn annog plant i roi cynnig ar bethau newydd.

  • Mae Ash Square yn gartref Gweithredu dros Blant (Action for Children) sydd wedi'i leoli yn Rhydfelen. Mae'r cartref yn cynnig arhosiad tymor byr i blant rhwng 5 ac 18 oed sydd ag anableddau corfforol neu anableddau dysgu.  Mae Ash Square yn cynnig seibiant i blant/pobl ifainc er mwyn iddyn nhw ddatblygu sgiliau, creu ffrindiau a chael profiadau newydd, ac mae’r cartref hefyd yn cynnig cymorth i’r sawl yn y teulu sy'n gynhalwyr.

Lleoliad gyda rhieni

Mae rhai plant a phobl ifainc yn byw gyda'u rhieni, ond, maen nhw'n dal i fod yn blant sy'n derbyn gofal oherwydd mae ganddyn nhw Orchymyn Gofal.

Llety diogel

Gall rhai pobl ifainc sy'n derbyn gofal fyw mewn llety diogel. Bydd pobl ifainc yn symud i lety diogel pan fydd perygl niwed difrifol iawn iddyn nhw eu hunain neu i bobl eraill. Bydd y gweithiwr cymdeithasol bob tro yn ceisio helpu'r person ifanc i ddelio ag unrhyw broblem cyn ei symud i lety diogel.

Llety cadw ieuenctid

Mae rhai pobl ifainc yn cael eu rhoi mewn llety cadw ieuenctid os ydyn nhw ar remánd. Mae'n cynnwys: sefydliadau troseddwyr ifainc, unedau pobl ifainc yng Ngharchar Ei Mawrhydi, canolfannau hyfforddi diogel a chartrefi diogel i blant.