Skip to main content

Beth yw ystyr hynny?

 
Pan fyddwch chi'n derbyn gofal, bydd oedolion yn defnyddio llawer o dermau a geiriau gwahanol. Gall fod yn anodd deall popeth. Mae modd i chi ddefnyddio'r dudalen yma i gael gwybod am beth mae pobl yn sôn. 

Os fyddwch chi ddim yn deall rhywbeth, a dydych chi ddim yn gallu dod o hyd iddo ar y dudalen yma, anfonwch neges e-bost i CarfanAdolyguPlantDanOfal@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Lletya

Mae'n golygu bod eich rhieni wedi cytuno i chi dderbyn gofal oddi cartref.

Rheolwr Materion Asesu Gofal

Mae'r Rheolwr Materion Asesu Gofal yn gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf. Mae ganddo lawer o brofiad o ran gweithio gyda theuluoedd, ond, nid gweithiwr cymdeithasol mohono.

Addysg bellach

Addysg bellach yw unrhyw addysg ar ôl 16 oed – addysg academaidd (ysgol) neu addysg alwedigaethol (gweithle).

Materion Mabwysiadu

Dyma broses gyfreithiol i newid rhieni'r plentyn. Pan fydd plentyn yn cael ei roi i'w fabwysiadu, mae'n golygu bod angen teulu newydd i ofalu amdano tan ei fod yn oedolyn. Bydd rhaid i'r rhieni newydd wynebu llawer o asesiadau a chyfweliadau, a bydd y llys yn penderfynu ydyn nhw'n cael bod yn rhieni newydd 

Eiriolwr

Mae eiriolwr yn rhywun annibynnol sy'n gallu'ch helpu chi i wneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed er mwyn i bobl wybod eich dymuniadau. Gall eich eiriolwr eich helpu chi gyda llawer o bethau gwahanol, er enghraifft, eich adolygiad, cynadleddau Amddiffyn Plant neu gwyno os byddwch chi'n teimlo eich bod chi'n cael eich trin yn annheg. Ddylai eiriolwr ddim mynegi barn ar beth ddylech chi ei wneud; bydd e/hi bob tro yn gefn i'r hyn rydych chi ei eisiau.

Asesu

Asesiad yw'r gwaith sy'n cael ei wneud pan fydd gweithwyr yn casglu gwybodaeth gan lawer o bobl i'w helpu nhw i benderfynu eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Fforwm Glasbrint

Mae'r fforwm ar gyfer pobl ifainc rhwng 14 a 25 oed sy'n derbyn gofal ac sy'n gadael gofal yn Rhondda Cynon Taf. Mae'n gyfle iddyn nhw ddweud eu dweud am bethau sy'n effeithio ar eu bywydau. Mae'r aelodau'n cyfarfod bob mis i drafod pynciau gwahanol. Os hoffech chi fod yn aelod o'r Fforwm, ewch i wefan Lleisiau o Ofal neu siaradwch â'ch gweithiwr cymdeithasol.

Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (‘CAFCASS’)

Mae'r Gwasanaeth yn gweithio gyda'r llysoedd teulu. Mae'n rhoi gwybodaeth a chyngor i farnwyr am ddyfodol plant mewn gofal. Mae gwarcheidwad y plentyn yn gweithio i'r Gwasanaeth. 

Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifanc (‘CAMHS’)

Dyma'r gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol sy'n cael eu darparu i blant a phobl ifainc. Mae'r gwasanaethau'n cynnig cymorth i bobl ifainc sydd ag anawsterau datblygiadol, ymddygiadol ac emosiynol.

Gofal i Weithio

Dyma raglen sy'n cynnig cymorth ac anogaeth i bob person ifanc dros 16 oed sy'n derbyn gofal yn Rhondda Cynon Taf. Mae'n gwneud yn siŵr eu bod nhw'n barod i weithio a'u bod nhw'n gallu darparu ar eu cyfer nhw eu hunain. Mae'r rhaglen yn cynnig amrywiaeth o hyfforddiant neu gyfleoedd cyflogaeth sy'n gweddu'n berffaith i'w hanghenion nhw. I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen Gofal i Weithio, ewch i'r adran ‘Cyflogaeth’ ar y wefan yma.

Rhai sy'n gadael gofal

Mae'r rhai sy'n gadael gofal yn bobl ifainc sy'n rhan o'r broses gadael gofal neu sydd eisoes wedi gadael gofal. Yn swyddogol, byddwch chi'n gadael gofal pan fyddwch chi'n 18 oed ac yn troi'n oedolyn, ond, mae'r rhai sy'n gadael gofal rhwng 16 a 21 oed (neu 24 oed mewn rhai achosion e.e. os ydych chi yn y coleg neu brifysgol).

Gorchymyn gofal

Mae gorchymyn gofal yn cael ei roi gan farnwr yn y llys os yw e'n credu bod iechyd neu ddiogelwch y plentyn mewn perygl. Mae gorchymyn gofal yn rhoi cyfrifoldeb rhiant i Gyngor Rhondda Cynon Taf. Mae'n golygu bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn penderfynu sut bydd rhywun yn gofalu amdanoch chi.  

Cynllun Gofal a Chymorth

Bydd Cynllun Gofal a Chymorth gan bob plentyn sy'n derbyn gofal. Mae'n egluro beth yw eich anghenion a pha gefnogaeth sydd ei angen i ddiwallu'r anghenion hyn. Mae eich Cynllun Gofal a Chymorth yn dweud pwy sy'n gyfrifol am ddiwallu eich anghenion, a bydd yn cynnwys gwybodaeth am eich lleoliad, iechyd, addysg a chynlluniau tymor hir. Dylid trafod eich Cynllun Gofal a Chymorth yn eich cyfarfodydd adolygu, ac yn y cyfarfodydd hyn y dylai unrhyw newidiadau gael eu gwneud os oes angen.

Cadeirydd

Os bydd rhywun yn ‘gadeirydd’, fe/hi fydd y person sy'n cynnal y cyfarfod. Mae'r cadeirydd yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod pawb yn cael dweud ei ddweud ac am gadw trefn ar y cyfarfod. Yn eich cyfarfodydd adolygu, bydd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn Gadeirydd.

Cofrestr Amddiffyn Plant

Mae'r Gofrestr Amddiffyn Plant ar gyfer plant sy'n cael eu hystyried ‘mewn perygl o niwed’ ac sydd â Chynllun Amddiffyn Plant. Os ydy'ch enw chi ar y gofrestr, dydy hi ddim o reidrwydd yn golygu eich bod chi mewn gofal; mae'n bosibl dod oddi ar y gofrestr a chael eich cynnwys arni eto.

Deddf Plant 1989

Dyma ddarn pwysig o gyfraith gafodd ei chyflwyno gan y Llywodraeth ar gyfer Cymru a Lloegr ym 1989. Mae'n cynnwys llawer o agweddau ar y gyfraith am blant a theuluoedd.

Gwarcheidwad

Dyma rywun sy'n llais ar ran plant mewn llysoedd teulu. Mae'n ceisio gwneud yn siŵr bod eich barn a'ch buddiannau gorau yn cael eu cyfleu i'r barnwr pan fyddwch chi'n rhan o achos llys.

Cartrefi i blant

Dyma gartrefi ar gyfer plant sydd ddim yn byw gyda'u rhieni na gyda theulu maeth. I gael rhagor o wybodaeth am gartrefi i blant yn Rhondda Cynon Taf, ewch i'r adran ‘Ble bydda i'n byw’ ar y wefan yma. Weithiau, maen nhw'n cael eu galw'n ‘cartrefi preswyl’.

Gwasanaethau i Blant

Mae'r Gwasanaethau i Blant yn rhan o Gyngor Rhondda Cynon Taf. Mae'n cynnal gwasanaethau fel gweithwyr cymdeithasol sy yna i helpu plant, pobl ifainc a theuluoedd. 

Cyfrinachedd

Yn y bôn, mae cyfrinachedd yn golygu does neb yn cael gwybod am rywbeth, heblaw'r rhai sydd angen cael gwybod. Mae gwybodaeth amdanoch chi a'ch bywyd yn gyfrinachol ONI BAI eich bod chi'n dweud rhywbeth sy'n gwneud i rywun feddwl eich bod chi, neu rywun arall, mewn perygl o niwed neu os oes trosedd wedi cael ei chyflawni.

Ymgynghoriad

Mae ymgynghoriad yn gyfle i bobl fynegi barn mewn ffordd ffurfiol. Dylech chi fod yn rhan o ymgynghoriad ynglŷn ag unrhyw benderfyniad sy'n effeithio arnoch chi.

Dogfennau ymgynghori

Gweler ‘Llyfryn ymgynghori ar gyfer adolygiad’.

Cyswllt

Mae cyswllt yn golygu gweld neu gadw mewn cysylltiad â phobl rydych chi'n perthyn iddyn nhw, neu sydd yn bwysig i chi. Mae cyswllt yn bwysig iawn ar gyfer y rhan fwyaf o blant sy'n derbyn gofal. Mae cyswllt yn bwysig iawn ar gyfer y rhan fwyaf o blant sy'n derbyn gofal. Gallai cyswllt gynnwys cyfarfod teulu a ffrindiau mewn person, cyswllt dros y ffôn neu drwy ddefnyddio technoleg eraill megis gliniaduron a thabledi. Gall cyswllt gael ei oruchwylio (sy'n golygu gall gweithiwr proffesiynol fynd gyda chi) neu gall y cyswllt ddigwydd mewn canolfan ag aelodau o staff. Gall cyswllt hefyd fod heb oruchwyliaeth, sy'n golygu byddwch chi'n cael eich gollwng a'ch casglu ar amseroedd penodol.

Rhieni corfforaethol

Pan fyddwch chi'n blentyn sy'n derbyn gofal, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ‘rhiant corfforaethol’ i chi. Bydd disgwyl i'r Cyngor ofalu amdanoch chi a'ch cadw chi'n ddiogel. 

Swyddfa Cofnodion Troseddol (‘CRB’)

Swyddfa Cofnodion Troseddol (‘CRB’) Erbyn hyn, y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (‘DBS’) sy'n gwirio hanes oedolion. Gweler isod

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (‘DBS’)

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (‘DBS’) Mae'n sicrhau bod yr holl oedolion sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed yn cael gweithio gyda nhw.

Athro dynodedig

Mae gan bob ysgol yn Rhondda Cynon Taf athro dynodedig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Mae'r athrawon dynodedig hyn yn gwneud yn siŵr eich bod chi'n derbyn y cymorth sydd ei angen arnoch chi. Dylai'r athro dynodedig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal wneud yn siŵr bod eich Cynllun Addysg Personol wedi'i ddiweddaru, a'i fod e'n diwallu'ch anghenion.

Anabledd

Yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010, mae person anabl yn rhywun sydd â nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a thymor hir ar ei allu i gyflawni tasgau arferol o ddydd i ddydd. 

Lwfans Byw i'r Anabl (‘DLA’)

Mae'r Lwfans Byw i'r Anabl yn arian sy'n cael ei roi i rywun dan 65 oed sy'n cael ei ystyried yn anabl ac sydd angen cymorth yn ei fywyd o ddydd i ddydd. Gall swm yr arian amrywio yn ôl yr anabledd.

Carfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau (‘EDT’)

Mae'r rhan fwyaf o'r gweithwyr cymdeithasol yn gweithio rhwng 8.30am a 5pm, ond, mae grŵp bach o weithwyr cymdeithasol ar ddyletswydd rhag ofn bod pethau'n digwydd tu allan i'r oriau hyn. Os bydd problem yn ystod y nos, efallai bydd angen i chi ffonio'r Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau – 01443 743665.

Seicolegydd Addysg

Mae'r Seicolegydd Addysg yn arbenigwr sy'n rhoi cyngor i ysgolion a phenaethiaid ar sut i wella cyflawniad pobl ifainc yn yr ysgol. Gall Seicolegwyr Addysg fod yn rhan o bethau os bydd angen cymorth ychwanegol yn yr ysgol.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (‘EMA’)

yn lwfans wythnosol ar sail incwm. Mae'n cynnig hyd at £30 i helpu myfyrwyr sy'n aros mewn addysg ar ôl 16 oed.

Maethu

Maethu yw sefyllfa ble mae oedolyn yn gofalu am blentyn am gyfnod penodol. Dydy'r plentyn ddim yn fab/ferch i'r oedolyn. Mae'n wahanol i fabwysiadu oherwydd dydy rhieni maeth ddim yn rhiant cyfreithiol i'r plentyn.

Lwfans maethu

Dyma'r arian sy'n cael ei dalu i rieni maeth ar gyfer gofalu am blentyn. Mae swm yr arian yn amrywio o un lleoliad i'r llall, ac mae'n dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol.

Rhieni Maeth

Mae rhieni maeth yn aelodau o'r cyhoedd sy'n gofalu am blant sydd ddim yn fechgyn/ferched iddyn nhw. Mae rhieni maeth yn dod o gefndiroedd gwahanol. Maen nhw'n oedrannau gwahanol ac mae lefelau gwahanol o brofiad ganddyn nhw. Mae rhaid bod rhieni maeth gael eu cymeradwyo a'u cofrestru i wneud hyn. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn ceisio eich paru chi gyda rhieni mae e/hi yn meddwl byddwch chi'n ei hoffi.  Gofalwyr maeth neu gynhalwyr maeth ydy enwau eraill sy'n golygu'r un peth.

Gofalwr maeth

Mae rhieni maeth yn aelodau o'r cyhoedd sy'n gofalu am blant sydd ddim yn fechgyn/ferched iddyn nhw. Mae rhieni maeth yn dod o gefndiroedd gwahanol. Maen nhw'n oedrannau gwahanol ac mae lefelau gwahanol o brofiad ganddyn nhw. Mae rhaid bod rhieni maeth gael eu cymeradwyo a'u cofresrtu i wneud hyn. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn ceisio eich paru chi gyda rhieni mae e/hi yn meddwl byddwch chi'n ei hoffi.  Gofalwyr maeth neu gynhalwyr maeth ydy enwau eraill sy'n golygu'r un peth.

Lleoliad maethu (ar frys)

Mae lleoliad maethu ar frys yn cael ei ddefnyddio gan weithwyr cymdeithasol pan fydd angen cymryd plant i rywle diogel ar fyr rybudd. Mae'n debygol bydd y lleoliad yn para ychydig ddyddiau yn unig wrth i bobl geisio rhoi trefn ar y broblem sydd wedi achosi'r argyfwng.

Lleoliad maethu (tymor byr)

Mae'n golygu bydd rhiant maeth yn gofalu amdanoch chi am ychydig wythnosau neu fisoedd, ond, y bwriad bob tro yw eich symud chi ymlaen i rywle arall. Gallwch chi gael lleoliad maethu tymor byr am lawer o resymau gwahanol – efallai byddwch chi'n dod i mewn i'r system gofal ac yn mynd adref, neu byddwch chi'n disgwyl i ni ddod o hyd i riant tymor hir ar eich cyfer chi, neu efallai byddwch chi'n cael eich mabwysiadu.

Lleoliad maethu (tymor hir)

Mae'n golygu gallwch chi aros yn eich lleoliad maethu hyd at eich pen-blwydd yn 18 oed, neu pryd bynnag byddwch chi'n barod i symud allan – ar yr amod eich bod chi, eich gweithiwr cymdeithasol a'r rhiant maeth yn hapus.

Addysg bellach

Addysg bellach yw unrhyw addysg ar ôl 16 oed – addysg academaidd (ysgol) neu addysg alwedigaethol (gweithle).

Asesiad iechyd

Mae'r asesiad iechyd ar gyfer pobl ifainc. Mae'n cael ei gynnal gan nyrs neu feddyg sy'n gweithio ym maes plant sy'n derbyn gofal. Dylech chi gael asesiad iechyd unwaith y flwyddyn (ddwywaith y flwyddyn os ydych chi dan 5 oed).

Cynllun gofal iechyd

Mae rhaid i bob plentyn sy'n derbyn gofal gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gael cynllun gofal iechyd. Mae'n rhan o'ch cynllun gofal a chymorth. Mae'r cynllun yma'n nodi'ch anghenion iechyd a sut bydd y bobl yn eich bywyd yn diwallu'r anghenion hynny drwy wneud yn siŵr eich bod chi'n mynd i unrhyw apwyntiad iechyd.

Addysg uwch

Addysg uwch, fel arfer mewn coleg, yw unrhyw addysg ar ôl 18 oed, gan gynnwys gradd Baglor, gradd Meistr a doethuriaeth (‘PhD’).

Bwrsari addysg uwch

Mae'r bwrsari addysg uwch yn arian sy'n cael ei roi i blant sy'n derbyn gofal wrth iddyn nhw fynd ymlaen i astudio yn y brifysgol. Gall yr arian yma gael ei wario ar bethau sydd eu hangen arnyn nhw wrth astudio.

Byw'n annibynnol

Mae'n golygu gweithio tuag at fyw ar eich pen eich hun heb oedolion yn gofalu amdanoch chi. Gallwch chi ddechrau paratoi ar gyfer byw'n annibynnol pan fyddwch chi yn eich arddegau trwy ddysgu sgiliau defnyddiol, fel coginio a rheoli arian. Mae llawer o fathau gwahanol o gymorth ar gael i'ch helpu chi i fod yn fwy annibynnol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r adran ‘Gadael gofal’ ar y wefan yma.

Swyddog Adolygu Annibynnol (‘IRO’)

Dyma'r person sy'n cadeirio'ch cyfarfodydd adolygu chi. Mae'n gwneud yn siŵr bod eich gweithiwr cymdeithasol, a phobl eraill, yn gwneud yr hyn mae disgwyl iddyn nhw ei wneud. Bydd e/hi yn ceisio eich cynnwys chi mewn unrhyw newid i'ch cynllun gofal er mwyn i chi wybod beth sy'n digwydd. 

Ymwelydd Annibynnol (‘IV’)

Mae'r ymwelydd annibynnol yn wirfoddolwr. Mae'n dod yn gyfaill i blant a phobl ifainc mewn gofal, gan ddod i'w hadnabod nhw a rhoi cymorth iddyn nhw. Fel arfer, mae'r Ymwelydd Annibynnol yn cefnogi pobl sydd heb unrhyw gyswllt â'u teuluoedd, neu ychydig iawn o gyswllt â'u teuluoedd, ac sydd eisiau rhywun sy'n dewis treulio amser gyda nhw. Os ydy'r gwasanaeth yma o ddiddordeb i chi, siaradwch â'ch gweithiwr cymdeithasol neu ewch i'r adran ‘Eiriolaeth’ ar y wefan yma.

Cynllun Addysg Unigol (‘IEP’)

Mae'r cynllun yma ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig. Mae'n eu helpu nhw i osod targedau i weithio tuag atyn nhw yn yr ysgol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r adran ‘Fy addysg’ ar y wefan yma.

Cyfnod Allweddol

Efallai y byddwch chi'n clywed yr ymadrodd hwn yn yr ysgol a gweld pethau fel CA2 a CA3 yn ysgrifenedig ar y dogfennau. Cyfnod allweddol yw set o grwpiau blwyddyn o oedran penodol yn yr ysgol. Mae pedwar Cyfnod Allweddol: 

  • Cyfnod Allweddol 1 ar gyfer plant 5–7 oed
  • Cyfnod Allweddol 2 ar gyfer plant 7–11 oed
  • Cyfnod Allweddol 3 ar gyfer plant 11–14 oed
  • Cyfnod Allweddol 4 ar gyfer plant 14–16 oed

Gweithiwr Allweddol

Bydd gweithiwr allweddol gan bob plentyn neu berson ifanc sy'n byw mewn llety preswyl. Gwaith y gweithiwr allweddol yw gwneud yn siŵr bod y cynllun gofal yn cael ei ddilyn a bod y person ifanc yn ymgartrefu yn y lleoliad.

Gofal gan berthynas

Mae'n golygu byddwch chi'n derbyn gofal gan aelod o'ch teulu yn lle eich rhieni. Bydd yr Awdurdod Lleol yn rhoi cymorth i chi. Gall gofalwyr sy'n berthnasau fod yn unrhyw aelod addas o'ch teulu, er enghraifft; mam-gu/tad-cu, modryb/ewythr neu ffrind agos i'r teulu. 

Adolygiad plant sy'n derbyn gofal

Yn gyffredinol, mae'n cael ei alw'n ‘adolygiad’. Mae'n gyfarfod sy'n cynnwys y person ifanc. Bydd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn Gadeirydd y cyfarfod a dyma pryd bydd y cynllun gofal a chymorth yn cael ei adolygu i wneud yn siŵr bod eich holl anghenion yn cael eu diwallu a'ch bod chi'n hapus ac wedi ymgartrefu.

Gwaith Hanes Bywyd

Gall gwaith hanes bywyd helpu plant a phobl ifainc sy'n derbyn gofal oddi cartref i ddeall eu gorffennol. Gall gwaith hanes bywyd fod ar ffurf llyfr, llyfr lloffion, albwm lluniau neu gryno-ddisg.

Awdurdod Lleol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cael ei alw'n Awdurdod Lleol.

Plant sy'n Derbyn Gofal

'Plant sy'n derbyn gofal' yw'r enw a roddir i bob plentyn sy'n 'mewn gofal'. Mae'n cynnwys yr holl blant sydd ar orchymyn gofal a'r rhai sy'n cael eu lletya gyda chytundeb rhieni.

Cofnodion

Cofnodion yw'r nodyn ysgrifenedig o beth gafodd ei ddweud mewn cyfarfod, a gan bwy. Mae'n golygu bod eich gweithiwr cymdeithasol neu weithwyr eraill yn gallu edrych yn ôl a gweld pwy ddywedodd beth. Dylech chi gael copi o gofnodion unrhyw gyfarfod roeddech chi'n rhan ohono.

Prosiect Meisgyn

Mae Prosiect Meisgyn yn cefnogi pobl ifainc a theuluoedd ar draws Rhondda Cynon Taf sydd, efallai, yn agored i niwed, sy'n derbyn gofal neu sydd mewn perygl o fod yn blant sy'n derbyn gofal.

Cwricwlwm Cenedlaethol

Mae'r cwricwlwm cenedlaethol yn cael ei osod gan y llywodraeth i wneud yn siŵr bod ysgolion yn darparu addysg o'r un safon i bawb. Mae llawer o bynciau'n rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol, gan gynnwys Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.

Pobl sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (‘NEET’)

Pan fydd rhywun yn sôn am bobl sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, bydd hyn yn golygu pobl ifainc rhwng 16 a 24 oed.

Lleoliad y tu allan i'r sir

Weithiau, bydd plant yn cael eu lleoli y tu allan i ffiniau Cyngor Rhondda Cynon Taf. Gall hyn fod am resymau diogelwch neu dyma'r lleoliad mwyaf addas. Os byddwch chi'n cael lleoliad y tu allan i'r sir, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dal i fod yn gyfrifol amdanoch chi a bydd gennych chi'r un hawliau â pherson ifanc sydd â lleoliad yn Rhondda Cynon Taf.

Cyfrifoldeb Rhiant (‘PR’)

Mae'n golygu'r hawliau a'r pŵer sydd gan rieni i wneud penderfyniadau am eu plant. Os bydd gennych chi Orchymyn Gofal, Cyngor Rhondda Cynon Taf fydd yn gwneud penderfyniadau ar eich cyfer chi. Os byddwch chi wedi cael eich lletya, eich rhieni fydd â'r hawl i wneud penderfyniadau am eich bywyd.

Nifer sydd wedi cymryd rhan

Mae cyfrannu yn golygu cynnwys plant a phobl ifainc yn rhan o benderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw a gwaith llywio'r gwasanaethau sy'n effeithio arnyn nhw. Bydd sawl ffordd wahanol i chi ddweud eich dweud, er enghraifft, Fforwm Glasbrint neu Lleisiau o Ofal.

Cynllun Llwybr

Mae Cynllun Llwybr yn cael ei baratoi o amgylch eich pen-blwydd yn 16 oed. Mae'n nodi'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol ac mae'n eich helpu chi i geisio bod yn fwy annibynnol. Byddwch chi'n rhan o greu a diweddaru'ch Cynllun Llwybr gydag aelod o'r tîm 16+. I gael rhagor o wybodaeth am eich Cynllun Llwybr, ewch i'r adran ‘Gadael gofal’ ar y wefan yma.

Cynllun Addysg Personol (‘PEP’)

Mae'r Cynllun Addysg Personol yn rhan o'ch Cynllun Gofal a Chymorth. Mae'n esbonio sut mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn bwriadu'ch addysgu chi. Dylai'ch Cynllun Addysg Personol fod mewn lle o fewn 20 diwrnod ysgol cyn i chi ddod i mewn i'r system gofal. Dylai'r cynllun gael ei adolygu o fewn tri mis, a bob chwe mis ar ôl hynny. I gael rhagor o wybodaeth am eich Cynllun Addysg Personol, ewch i'r adran ‘Fy addysg’ ar y wefan yma.

Lleoliad

Dyma ble rydych chi'n byw ar hyn o bryd.

Grant Amddifadedd Disgyblion (‘PDG’)

Dyma'r arian sy'n cael ei roi i ysgolion i gefnogi addysg plant a phobl ifainc sy'n derbyn gofal. I gael rhagor o wybodaeth am Grant Amddifadedd Disgyblion, ewch i'r adran ‘Fy addysg’ ar y wefan yma.

Cofnod o drafodaeth

Dyma'r nodiadau sy'n cael eu cymryd gan eich Swyddog Adolygu Annibynnol yn yr adolygiad plant sy'n derbyn gofal.

Adolygiad

Mae'r adolygiad yn gyfarfod rheolaidd sy'n cael ei gadeirio gan Swyddog Adolygu Annibynnol i wneud yn siŵr bod cynlluniau sy'n eich cynnwys eich yn digwydd a bod targedau wedi'u gosod. Gall llawer o bobl wahanol fod yn bresennol yn eich adolygiad, er enghraifft, gweithwyr cymdeithasol, rhieni, rhieni maeth, athrawon, gweithwyr iechyd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r adran ‘Fy adolygiad’ ar y wefan yma.

Llyfryn ymgynghori ar gyfer adolygiad 

Dylech chi gael llyfryn ymgynghori ar gyfer adolygiad cyn eich adolygiad plant sy'n derbyn gofal, neu gallwch chi lenwi'r llyfryn ar-lein drwy fynd i'r adran ‘Fy adolygiad’ ar y wefan yma. Dylech chi geisio llenwi'r llyfryn cyn pob adolygiad oherwydd mae'n helpu Cyngor Rhondda Cynon Taf i gael gwybod eich barn ar y ffordd byddwch chi'n derbyn gofal. Mae'r llyfryn hefyd yn helpu'ch gweithiwr cymdeithasol a'r Swyddog Adolygu Annibynnol i gael gwybod sut rydych chi'n teimlo am bethau. Os dydych chi ddim yn hoffi llenwi ffurflenni, gallwch chi ofyn i'ch gofalwr maeth neu rywun arall rydych chi'n ymddiried ynddo i'ch helpu chi i'w lenwi. Weithiau, mae'r llyfryn yn cael ei alw'n ‘ffurflen adolygu’.

Llety diogel

Mae llety diogel yn lleoliad sy'n sicrhau bod person ifanc yn cael ei fonitro'n ofalus. Yn aml, mae hyn am resymau diogelwch a dyma'r dewis olaf ar gyfer Cyngor Rhondda Cynon Taf bob tro.

Anghenion Addysgol Arbennig (‘SEN’)

Mae anghenion addysgol arbennig yn effeithio ar allu'r plentyn i ddysgu. Gall hyn gynnwys ei ymddygiad neu ei allu i wneud ffrindiau, ei sgiliau darllen ac ysgrifennu, ei allu i ddeall pethau, ei lefelau canolbwyntio, neu ei namau neu ei anghenion corfforol.

Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn wasanaeth cyhoeddus sy'n cael ei ddarparu gan bob awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig i helpu ac i gefnogi'r gymuned. Gall y Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd gael eu galw'n ‘Gwasanaethau i Blant’.

Gweithiwr Cymdeithasol

Mae gweithwyr cymdeithasol yn bobl sy'n gweithio yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Maen nhw'n helpu i gefnogi'r gymuned. Mae sawl math gwahanol o weithiwr cymdeithasol sy'n gweithio gyda mathau gwahanol o bobl. Mae plant sy'n derbyn gofal yn dod i gysylltiad â gweithwyr cymdeithasol gwahanol, yn dibynnu ar y sefyllfa. Gwaith y gweithiwr cymdeithasol yw gwneud yn siŵr eich bod chi'n ddiogel a bod eich anghenion yn cael eu diwallu. 

Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig (‘SGO’)

Mae barnwr yn rhoi gorchymyn gwarchodaeth arbennig os allwch chi ddim byw gyda'ch rhieni biolegol a byddai byw mewn lleoliad diogel dros y tymor hir yn dda i chi. Gall eich gofalwr, neu aelod o'ch teulu, wneud cais am warchodaeth arbennig. Os bydd y llys yn cytuno, byddwch chi'n peidio â bod mewn gofal ac yn dod yn rhan o'r teulu newydd. Wedyn, bydd eich gwarcheidwad newydd, a'ch rhieni, yn rhannu cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau am eich bywyd.

Datganiad

Mae datganiad anghenion addysgol arbennig (neu ‘datganiad’) yn ddogfen sy'n amlinellu'r anawsterau dysgu sydd gan blentyn a'r gefnogaeth bydd angen i'r ysgol ei rhoi i'r plentyn.

Cam i'r Cyfeiriad Cywir

Dyma raglen gwaith dan hyfforddiant sy'n ddwy flynedd o hyd. Byddwch chi'n cael eich cyflogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ac yn derbyn cyflog amser llawn. Mae'n gyfle i'r rhai sy'n gadael gofal ddatblygu eu sgiliau a chael profiad gwaith pwysig.  Os ydy'r rhaglen gwaith dan hyfforddiant o ddiddordeb i chi, ewch i'r adran ‘Cyflogaeth’ ar y wefan yma neu siaradwch â'ch gweithiwr ôl-ofal.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (‘UNCRC’)

Mae'r Confensiwn yn gytundeb rhyngwladol sy'n amddiffyn hawliau pob plentyn a pherson ifanc o dan 18 oed.

Troseddwr ifanc

Troseddwr ifanc yw rhywun dan 18 oed sy'n cyflawni trosedd neu sy'n parhau i gymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol.

Llety cadw ieuenctid

Mae rhai pobl ifainc yn cael eu rhoi mewn llety cadw ieuenctid os ydyn nhw ar remánd. Mae'n cynnwys: sefydliadau troseddwyr ifainc, unedau pobl ifainc yng Ngharchar Ei Mawrhydi, canolfannau hyfforddi diogel a chartrefi diogel i blant.

Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid (‘YOS’)

Mae'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn dîm sy'n gweithio gyda phobl ifainc sy'n mynd i drafferth gyda'r gyfraith, neu sy'n debygol o wneud hynny yn y dyfodol.