Skip to main content
 

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ddogfen ryngwladol sy’n nodi pob un o’r hawliau sydd gyda phlant. 

Mae’r Confensiwn yn diffinio plentyn fel unrhyw berson sy’n iau na 18 oed.  Yn ôl y gyfraith dydy plant ddim bob amser yn gallu dod i benderfyniadau drostyn nhw eu hunain ac mae gyda’r oedolion sy’n gofalu amdanyn nhw, gan gynnwys rhieni, gweithiwr cymdeithasol ac athrawon, yr awdurdod i wneud hynny gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau. Wrth i blant dyfu, bydd gyda nhw fwy o gyfrifoldeb i wneud dewisiadau ac arfer eu hawliau.

Mae hawliau dynol yn bodoli fel ein bod yn cael ein trin yn briodol, ac yn cael y rhyddid i ddatblygu ein potensial llawn, ac er ein lles. Mae’r Confensiwn yn nodi beth y mae rhaid i wledydd ei wneud er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn tyfu yn y modd mwyaf iach â phosibl, yn gallu dysgu yn yr ysgol, yn cael eu diogelu, bod eu barn yn cael ei chlywed, ac yn cael eu trin yn deg.

Nid dim ond bod yn iach yw ystyr y gair ‘Lles’; ymhlith pethau eraill, mae’n golygu:

  • bod yn iawn o ran eich emosiynau
  • teimlo’n ddiogel yn yr ardal lle rydych yn byw
  • cael cyfle i lwyddo yn yr ysgol
  • cael ffrindiau
  • bod yn rhan o gymunedau da a chadarn
  • bod yn ddiogel rhag trais

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau chi’n blentyn, yma:


http://www.childrensrights.wales/index.php/leaflets-posters-2

http://www.hawliauplant.cymru/index.php/taflenni-a-phosteri