Skip to main content
 

Beth yw'r adolygiad?

Pan fyddwch chi mewn gofal, bydd angen i bobl gyfarfod yn rheolaidd i wneud yn siŵr bod y cynlluniau sy'n eich cynnwys chi yn gweithio. Dyma'r hyn mae cyfarfod adolygu ar ei gyfer. Mae'r adolygiad hefyd yn gyfle i wneud newidiadau a rhagor o gynlluniau am eich gofal neu'ch anghenion.

Beth yw gwaith y Swyddog Adolygu Annibynnol?

Mae'r Swyddog Adolygu Annibynnol yn cynnal cyfarfodydd adolygu yn rheolaidd i wneud yn siŵr bod pawb yn gwrando arnoch chi ac yn edrych ar eich ôl chi. Y Swyddog Adolygu Annibynnol sy'n cynnal eich cyfarfodydd adolygu i gyd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n deg a bod pawb yn cael cyfle i fynegi ei deimladau.

Pa mor aml mae'r cyfarfodydd adolygu?

Dylai'ch adolygiad cyntaf gael ei gynnal o fewn pedair wythnos i chi ddod i mewn i'r system gofal. Dylai'ch ail adolygiad gael ei gynnal dri mis yn ddiweddarach, yna, o leiaf unwaith bob chwe mis. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr eich bod chi'n derbyn gofal ac yn cael y cyfleoedd gorau. Bydd croeso i chi ofyn i ni gynnal eich cyfarfod adolygu yn fwy aml.

Pwy fydd yn bresennol yn fy nghyfarfodydd adolygu?

Mae'n amrywio, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Dyma rai pobl fydd efallai yn eich cyfarfod adolygu:

  • Swyddog Adolygu Annibynnol (sy'n cadeirio'r cyfarfod)
  • Eich gweithiwr cymdeithasol / gweithiwr ôl-ofal
  • Eich rhieni (os yw'n ddiogel)
  • Eich rhiant maeth / Aelod o'ch teulu / Eich gweithwyr allweddol
  • Rhywun o'r ysgol neu'r coleg
  • Rhywun o faes iechyd
  • Eiriolwr sy'n mynd i'r cyfarfod ar eich rhan
  • Gwarcheidwad

Os byddwch chi eisiau i rywun penodol fod yn bresennol yn y cyfarfod, neu beidio â bod yn bresennol, dywedwch wrth eich gweithiwr cymdeithasol neu'ch rhiant maeth.

Fydd rhaid i mi fynd i'r cyfarfodydd adolygu?

Bydd eich cyfarfodydd adolygu i gyd yn canolbwyntio arnoch chi a sut mae pethau i chi. Mae'n bwysig iawn, felly, eich bod chi'n cyfrannu at eich adolygiad er mwyn i'ch gweithiwr cymdeithasol a'ch Swyddog Adolygu Annibynnol gael gwybod sut rydych chi'n teimlo.

Ond, os fyddwch chi ddim eisiau mynd i'r cyfarfodydd, fydd neb yn gallu'ch gorfodi chi. Bydd croeso i chi ddewis bod yn bresennol am y cyfarfod cyfan, neu am ran ohono. 

Sut bydda i'n gallu dweud fy nweud am beth sy'n digwydd yn fy mywyd?

Dydy pawb ddim yn hoffi siarad o flaen grwpiau o bobl, felly, efallai bydd cymryd rhan yn eich adolygiad yn codi ofn arnoch chi. Mae sawl ffordd wahanol o fynegi'ch teimladau i'ch Swyddog Adolygu Annibynnol a'ch gweithiwr cymdeithasol. Bydd croeso i chi…

  • dod i'ch cyfarfod adolygu;
  • llenwi ein ffurflen ymgynghori newydd (naill ai ar-lein neu ar bapur);
  • ffonio'ch Swyddog Adolygu Annibynnol cyn y cyfarfod;
  • cwrdd â'ch Swyddog Adolygu Annibynnol yn breifat cyn yr adolygiad;
  • gwahodd eiriolwr i fod yn bresennol yn y cyfarfod adolygu i fynegi'ch barn.

Llyfryn ymgynghori

Un o'r ffyrdd hawsaf i chi gael dweud eich dweud yw trwy lenwi'r llyfryn ymgynghori ar gyfer yr adolygiad. Bydd croeso i chi lenwi hwn ar-lein trwy glicio yma neu ofyn i ni anfon copi ohono atoch chi drwy'r post. Mae'r ffurflen yn cynnwys ychydig o gwestiynau am beth sy'n digwydd yn eich bywyd, eich barn, eich dymuniadau a'ch teimladau. Ar ôl llenwi'r ffurflen ar-lein, bydd hi'n cael ei hanfon yn syth at eich Swyddog Adolygu Annibynnol trwy system ar-lein, ddiogel, wrth bwyso'r botwm! 

My Review Form Ages 12-17

My Review Form - Ages 5 - 11

Beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfarfod adolygu?

Ar ôl eich cyfarfod adolygu, dylai'ch Swyddog Adolygu Annibynnol anfon copi o beth gafodd ei drafod ac unrhyw benderfyniad atoch chi a phawb arall oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Os fyddwch chi ddim yn deall yr hyn sydd wedi'i nodi, neu os byddwch chi eisiau siarad am y cyfarfod, siaradwch â'ch gweithiwr cymdeithasol neu'ch Swyddog Adolygu Annibynnol.

Pwy yw fy Swyddog Adolygu Annibynnol?

If you would like to have a chat with your Independent Reviewing Officer before your next meeting or would like a Review Consultation Booklet sent to you in the post, please send an email to LookedAfterChildrenReviewingTeam@rctcbc.gov.uk.

Please put your name and date of birth and your Independent Reviewing Officer will get in touch.