Skip to main content

Bod Mewn Gofal

 
Mae bod mewn gofal yn golygu bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gyfrifol am benderfynu pwy sy'n gofalu amdanoch chi a ble rydych chi'n byw. Os ydych chi mewn gofal, bydd gennych chi weithiwr cymdeithasol ac efallai byddwch chi'n byw oddi cartref. 

Mae llawer o resymau posibl dros fod mewn gofal. Efallai doedd byw gyda'ch teulu eich hun ddim yn gweithio, neu roedd pobl yn poeni am eich diogelwch. Mae rhai plant yn mynd i mewn i'r system gofal pan maen nhw'n fabanod, neu pan maen nhw yn eu harddegau. Mae eraill yn dod i mewn i'r system gofal am amser byr, yna'n mynd yn ôl adref i fyw gyda'u rhieni. 

Sut des i mewn i'r system gofal?

Gall y system gofal fod yn eithaf cymhleth, ond, fel arfer, mae dwy ffordd mae plant yn dod i mewn i system gofal Cyngor Rhondda Cynon Taf:

 

  1. Trwy orchymyn gofal
  2. Trwy gael eu lletya'n wirfoddol 

Beth yw ystyr ‘gorchymyn gofal’?

Mae gorchymyn gofal yn golygu bod gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, yn ôl y gyfraith, gyfrifoldeb rhiant i'ch cadw chi'n ddiogel. Yn ystod proses y llys, bydd un o swyddogion y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (‘CAFCASS’) yn gwneud yn siŵr bod cyfle i chi ddweud eich dweud.

Bydd gennych weithiwr cymdeithasol. Bydd e/hi yn penderfynu ble byddwch chi'n byw ac i ba ysgol byddwch chi'n mynd. Bydd e/hi hefyd yn eich helpu chi i gadw mewn cysylltiad â'ch teulu (os yw'n briodol). Dylech chi gael eich cynnwys ym mhob penderfyniad am eich bywyd. Os ydych chi'n teimlo does neb yn gwrando arnoch chi, gallwch chi siarad â'ch Swyddog Adolygu Annibynnol neu oedolyn rydych chi'n ymddiried ynddo. Os bydd hyn yn parhau, gallwch chi ffonio'r adran cwynion ar 0800 587 7324.  

Beth yw ystyr 'lletya'?

Mae ‘lletya’ yn ffordd arall mae plant a phobl ifainc yn dechrau derbyn gofal. Yn yr achosion hyn, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cytuno â'ch rhieni mai derbyn gofal yw'r sefyllfa orau i chi tra byddwch chi yn cynllunio ar gyfer eich dyfodol. Yn debyg i'r Gorchymyn Gofal, gallech chi gael eich rhoi mewn lleoliad maeth neu gartref preswyl.

I gael rhagor o wybodaeth am ble byddwch chi'n byw pan fyddwch chi'n derbyn gofal, ewch i'r adran ‘Ble Bydda i'n Byw’ ar y wefan yma.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Gorchymyn Gofal a Lletya?

Pan fyddwch chi'n cael eich lletya, fydd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ddim cyfrifoldeb rhiant amdanoch chi. Mae'n rhaid i'ch gweithiwr cymdeithasol gael caniatâd eich rhieni ar lawer o bethau ac mae gan eich rhieni'r hawl i allu gwneud penderfyniadau amdanoch chi a'ch bywyd.

Os dydych chi ddim yn siŵr a ydych chi'n rhan o orchymyn gofal neu'n cael eich lletya, gofynnwch i'ch rhiant maeth neu'ch gweithiwr cymdeithasol.

Beth yw Cynllun Gofal a Chymorth?

Bydd gan bob plentyn neu berson ifanc sy'n derbyn gofal Cynllun Gofal a Chymorth. Mae'n ddogfen y bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn ei chwblhau a'i diweddaru gyda chi a'ch teulu. Bydd y ddogfen yn rhoi gwybod i bobl beth sydd orau ar eich cyfer fel y gallen nhw roi pethau yn eu lle i'ch helpu chi. Mae'n cynnwys gwybodaeth ynghylch eich lleoliad, eich iechyd, eich addysg, eich cyswllt a'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd eich Cynllun Gofal a Chymorth yn cael ei drafod yn eich cyfarfodydd adolygu er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu eich anghenion. Os ydych yn dymuno, gallwch gael copi o'ch Cynllun Gofal a Chymorth, ac efaollai bydd hyn yn eich helpu chi i ddeall yr hyn sy'n digwydd.

Pa mor aml ddylwn i dderbyn ymweliad?

Os ydych chi'n derbyn gofal maeth neu os ydych chi mewn cartref preswyl, dylai eich gweithiwr cymdeithasol ddod i ymweld â chi o fewn yr wythnos gyntaf ar ôl i chi symud i mewn. Yna fe ddylech dderbyn ymweliad o leiaf unwaith bob 6 wythnos am y flwyddyn gyntaf. Os bydd eich Cynllun Gofal a Chymorth yn nodi y dylech aros yn yr un lleoliad nes y byddwch chi'n cael toi'n 18 oed, yna dylai eich gweithiwr cymdeithasol ymweld â chi o leiaf unwaith bob 3 mis ar ôl y flwyddyn gyntaf.

Mae yna adegau pan fyddwch chi, eich teulu a  Gwasanaethau Cymdeithasol RhCT, wedi cytuno eich bod chi'n mynd i aros gydag aelod o'r teulu neu ffrind i'r teulu. Enw'r trefniadau yma yw Lleoliad Perthnasau. Os dyma fydd y dewis gorau, efallai bydd y gweithiwr cymdeithasol yn dod i'ch gweld chi bob wythnos o leiaf am y mis gyntaf. Ar ôl hynny fe ddylech chi gael ymweliad o leiaf unwaith bob 6 wythnos tra byddwch yn derbyn gofal.  Os bydd eich Cynllun Gofal a Chymorth yn nodi y dylech aros yn yr un lleoliad nes y byddwch chi'n cael toi'n 18 oed, yna dylai eich gweithiwr cymdeithasol ymweld â chi o leiaf unwaith bob 3 mis ar ôl y flwyddyn gyntaf.

Beth yw ystyr ‘gwaith hanes bywyd’?

Gall gwaith hanes bywyd helpu plant a phobl ifainc sy'n derbyn gofal oddi cartref i ddeall eu gorffennol a'u presennol. Gallai gwaith hanes bywyd fod ar ffurf llyfr, llyfr lloffion, albwm lluniau, cryno-ddisg neu sgyrsiau gyda'r bobl sy'n eich adnabod chi.