Skip to main content

Gwasanaethau 16+ - Gwybodaeth a chyngor

 

Beth yw ystyr ‘Gadael Gofal’?

Mae rhywun sy'n gadael gofal yn berson ifanc sydd wedi derbyn gofal gan Gyngor Rhondda Cynon Taf am o leiaf 13 wythnos ers iddo/iddi fod yn 14 oed, ac sydd wedi bod mewn gofal ar ei ben-blwydd yn 16 oed.

Beth yw'r gwasanaeth 16+?    

Gall dod o hyd i'ch ffordd mewn bywyd fod yn anodd, yn enwedig os ydych yn berson ifanc sy'n ceisio bod yn annibynnol. Gall fod yn gyfnod cyffrous a brawychus, felly, mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf wasanaeth '16+'. Bydd y gwasanaeth yn eich cefnogi chi i wneud yn siŵr bod y newid yma mor rhwydd â phosibl.

Mae'r gwasanaeth 16+ yn gweithio gyda phobl ifainc rhwng 16 a 21 oed (neu hyd at 24 oed, mewn rhai achosion) sy'n derbyn gofal, neu sydd wedi bod yn derbyn gofal, gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

Diben eu gwaith yw eich cefnogi chi a'ch helpu chi i feddwl am yr hyn gallwch chi ei wneud wrth baratoi ar gyfer byw ar eich pen eich hun, pan fyddwch chi'n peidio â derbyn gofal gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

Pa gefnogaeth y gallant ei chynnig?

Gall y gwasanaeth 16+ gynnig cefnogaeth ynglŷn ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys materion tai, arian, hyfforddiant, perthnasau, iechyd a lles. Gall y Gwasanaeth eich helpu i:

  • paratoi ar gyfer byw'n annibynnol;
  • dod o hyd i waith neu ddechrau ar gwrs hyfforddi;
  • pontio o fyd gofal i'ch cartref eich hun (pan fyddwch chi'n barod);
  • cynllunio ar gyfer yr annisgwyl;
  • cyflawni eich nodau a'ch uchelgeisiau;
  • rhoi trefn ar eich sefyllfa ariannol.

Beth yw ystyr ‘Ymgynghorydd Personol’?

Mae Ymgynghorydd Personol yn rhywun sy'n helpu pobl ifainc i gynllunio ar gyfer eu dyfodol ac sy'n eu cefnogi nhw o ran cyflawni eu nodau. Ar ôl eich pen-blwydd yn 16 oed, bydd eich Ymgynghorydd Personol yn gweithio'n agos gyda chi, gan wneud yn siŵr bod eich Cynllun Llwybr yn realistig ac yn parhau i ddiwallu eich anghenion. Dylai'r Cynghorydd Personol sicrhau bod y cynllun llwybr yn cael ei adolygu'n rheolaidd, sicrhau eich bod yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch ac yn aros mewn cysylltiad gyda chi ar eich taith i fod yn oedolion.   

Beth yw ystyr ‘Cynllun Llwybr’?

Pan fyddwch yn cael eich cyfeirio at y Gwasanaeth 16+, bydd asesiad o'ch anghenion yn cael ei gynnal. Bydd yr asesiad yn cynnwys ymweliad a thrafodaeth gyda chi am eich syniadau ar gyfer eich dyfodol, yr hyn yr ydych ei weld yn digwydd, eich cryfderau, anghenion, dymuniadau a theimladau. Bydd yr asesiad anghenion yn amlinellu'r hyn sydd ei angen arnoch a sut y byddwch yn cael cymorth i gwrdd â'ch anghenion. Gall hyn gynnwys gwybodaeth, cyngor neu gymorth. Gall hyn fod yn gymorth ymarferol, ariannol ac emosiynol. Bydd yr wybodaeth a gasglwn yn helpu i lunio cynllun llwybr. Mae'r asesiad anghenion yn cynnwys gwybodaeth ynghylch:

  • Eich anghenion
  • Eich cryfderau
  • Eich canlyniadau neu dargedau

Byddwch chi a'ch Gweithiwr Cymdeithasol yn cydweithio i gasglu'r wybodaeth am eich asesiad anghenion a fydd wedyn yn cael ei defnyddio i ffurfio eich Cynllun Llwybr. Byddwch yn derbyn copi o'r cynllun, a bydd y cynllun yma gennych chi tan eich pen-blwydd yn 21 oed (neu'n 25 oed, os byddwch chi mewn addysg bellach neu hyfforddiant).

Mae eich Cynllun Llwybr yn ddogfen sy'n nodi camau gwahanol y mae angen i chi eu cyflawni a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi i'ch helpu chi i fod yn annibynnol. Dylai'ch dymuniadau a'ch nodau ar gyfer y dyfodol – er enghraifft ble hoffech chi fyw, eich awydd i barhau mewn addysg neu ddod o hyd i swydd – fod wrth wraidd eich Cynllun Llwybr. Mae'r Cynllun hefyd yn cynnwys gwybodaeth am:

  • mathau gwahanol o lety addas;
  • cymorth ariannol gallwch chi ei gael;
  • cefnogaeth bersonol fydd yn cael ei chynnig i chi;
  • rhaglenni i ddatblygu sgiliau ar gyfer byw'n annibynnol;
  • pwy ydych chi;
  • eich cyfleoedd gwaith, addysg neu hyfforddiant;
  • cyswllt gyda'ch teulu;
  • eich anghenion iechyd;
  • cynllun wrth gefn os bydd pethau'n mynd o le.

Byddwch chi a'ch Gweithiwr Cymdeithasol yn diweddaru'ch Cynllun Llwybr, a byddwch chi'n derbyn copi ohono. Bydd y Cynllun yma gennych chi tan eich pen-blwydd yn 21 oed (neu'n 25 oed, os byddwch chi mewn addysg bellach neu hyfforddiant).

Ble bydda i'n byw?

Pan fyddwch chi'n 16 oed, mae'n debygol byddwch chi'n dechrau meddwl am ble byddwch chi eisiau byw yn y dyfodol. Bydd y gwasanaeth 16+ yn eich annog chi i ddechrau rheoli'ch bywyd eich hun trwy flaengynllunio a gosod nodau ar gyfer eich annibyniaeth. 

Fflat hyfforddi

Os ydych chi'n ystyried symud allan a byw'n annibynnol, mae'r gwasanaeth 16+ wedi sefydlu fflat dechreuol. Cewch chi fyw yn y fflat ar eich pen eich hun am hyd at bedair wythnos er mwyn i chi gael ystyried eich opsiynau ar gyfer y dyfodol. Byddech chi'n cael lwfans wythnosol i brynu'ch bwyd eich hun ac i dalu am nwy a thrydan. Byddai disgwyl i chi goginio eich bwyd eich hun, cadw'r fflat yn lân, golchi, a neilltuo arian ar gyfer teithio, y ffôn ac ati.

Os hoffech chi wneud hyn, siaradwch â'ch gweithiwr Ôl-ofal neu ffoniwch y Tîm Ôl-ofal ar 01443 486731.

Llety â chymorth

Mae rhai pobl ifainc rhwng 16 a 18 oed yn symud i lety â chymorth. Mae'n golygu bod ganddyn nhw ragor o gyfrifoldebau ac mae'n eu paratoi nhw ar gyfer byw'n annibynnol. Mae'n wahanol i ofal maeth oherwydd mae'r bobl ifainc yn rhentu'r ystafelloedd, yn cael eu harian eu hunain, ac yn dysgu sgiliau i'w helpu nhw i ymdopi'n well wrth fyw'n annibynnol.  Serch hynny, byddai pob pryd a'ch bwyd yn cael ei ddarparu gan y person yr ydych yn byw gyda nhw.  Mae'r rhan fwyaf o'r bobl ifainc yn aros rhwng 6-12 mis cyn symud ymlaen, ond, mae'r cyfan yn dibynnu ar eu hamgylchiadau personol. Os dydy'r mathau hyn o lety ddim yn addas i chi, mae mathau eraill o lety ar gael, gan gynnwys:

  • Fflat – byddwch chi'n byw'n annibynnol 
  • Fflat â chymorth – byddwch chi'n byw ar eich pen eich hun, ond, byddwch chi'n cael cymorth i wneud yn siŵr eich bod chi'n iawn 
  • Tai â chymorth – mae'n golygu byddwch chi'n rhannu tŷ, ond, bydd lefelau gwahanol o gymorth ar gael, yn dibynnu ar eich anghenion.

Cynllun ‘Pan Fydda i'n Barod’

Llywodraeth Cymru sydd wedi datblygu'r cynllun ‘Pan Fydda i'n Barod’. Nod y cynllun yma yw cynnig rhagor o gefnogaeth i bobl ifainc sy'n gadael gofal fel bod hyder ganddyn nhw i symud i fyd oedolion a byw'n annibynnol.

Os ydw i'n byw gyda fy rhieni maeth ar hyn o bryd, beth fydd yn digwydd?

Pan fyddwch chi'n cyrraedd eich pen-blwydd yn 18 oed, dan y cynllun ‘Pan Fydda i'n Barod’, byddwch chi'n cael dewis aros gyda'ch rhieni maeth os:

  • byddwch chi eisiau byw gyda nhw a/neu os fyddwch chi ddim yn barod i fyw ar eich pen eich hun;
  • bydd eich rhieni maeth yn cytuno bod croeso i chi aros;
  • hynny fydd y dewis gorau.

Os bydda i eisiau aros mewn gofal ar ôl fy mhen-blwydd yn 18 oed, ond fydd dim modd i mi aros lle rydw i ar hyn o bryd, beth fydd yn digwydd?

Os ydych chi'n byw mewn gofal preswyl, neu os does dim modd i chi aros yn eich lleoliad presennol, mae'n bwysig iawn eich bod chi'n dweud wrth eich rhiant maeth, eich gweithiwr cymdeithasol, eich ymgynghorydd personol neu'ch Swyddog Adolygu Annibynnol fod y cynllun ‘Pan Fydda i'n Barod’ o ddiddordeb i chi o leiaf 6 mis cyn eich pen-blwydd yn 18 oed . Bydd rhaid eich bod chi'n byw yn eich lleoliad maeth newydd cyn eich pen-blwydd yn 18 oed, er mwyn i chi gael cyfle i feithrin perthynas gyda'ch rhieni maeth newydd.

Os bydda i mewn addysg bellach neu yn y brifysgol, beth fydd yn digwydd?

Os byddwch chi'n astudio oddi cartref, mae'n bosibl byddwch chi eisiau dod adref yn ystod y gwyliau. Dan y cynllun ‘Pan Fydda i'n Barod’, byddwch chi'n cael dod adref i'ch rhiant maeth yn ystod y gwyliau, ar yr amod bod hynny wedi'i nodi yn eich Cynllun Llwybr.

Faint o arian bydda i'n ei gael?

Os ydych chi dan 18 oed, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn talu lwfans wythnosol i chi. Ar ôl eich pen-blwydd yn 18 oed, efallai byddwch chi'n gymwys i gael budd-daliadau, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gall y system budd-daliadau fod yn gymhleth, felly, os dydych chi ddim yn siŵr am beth i'w wneud, gallwch chi siarad gyda'ch gweithiwr cymdeithasol neu'ch ymgynghorydd personol. Bydd e/hi'n gallu eich helpu chi gyda hyn.

Efallai bydd eich ymgynghorydd personol neu'ch gweithiwr cymdeithasol hefyd yn gallu eich helpu chi i gael y canlynol, yn dibynnu ar eich oedran a'ch anghenion:

  • Byw o wythnos i wythnos – cynhaliaeth
  • Llety – rhent
  • Gyrru – Trwydded Yrru, prawf gyrru/theori, hyn a hyn o wersi gyrru

Lwfans Sefydlu Cartref

Mae'r Lwfans Sefydlu Cartref yn arian sy'n cael ei dalu gan Gyngor Rhondda Cynon Taf. Mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer prynu eitemau/celfi ar gyfer eich cartref cyntaf. Pan fyddwch chi'n gadael gofal, byddai'r swm sy'n cael ei dalu i chi yn dibynnu ar eich anghenion a'ch risgiau. Byddai rhywun o Dîm Ôl-ofal Cyngor Rhondda Cynon Taf yn mynd gyda chi i brynu'r eitemau.