Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gofal plant fforddiadwy a hygyrch yn rhoi'r cyfle i rieni weithio ac astudio. Mae hynny'n ategu ymgyrch Llywodraeth Cymru i hybu twf economaidd, trechu tlodi a lleihau anghydraddoldebau.
Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn cynnig hyd at 30 awr yr wythnos o Addysg y Cyfnod Sylfaen a gofal plant wedi'i ariannu'n ychwanegol ar gyfer rhieni cymwys sydd â phlant sy'n dair neu bedair oed, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Rhagor o wybodaeth I rieni - a ydych chi'n gymwys?
Rhagor o wybodaeth i ddarparwyr gofal plant, a sut i gymryd rhan.
Gweld rhestr lawn o ddarparwyr
CoI gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd Rhondda Cynon Taf yn prosesu data personol mewn perthynas â'r Cynnig Gofal Plant, darllenwch ein
polisi preifatrwydd.
Carfan Cynnig Gofal Plant
Rhif Ffon: 03000 628628
E-bost: CynnigGofalPlantCymruRhCT@rctcbc.gov.uk.
O ble caf i ragor o wybodaeth am y Cynnig Gofal Plant?
Ewch i dudalen we Llywodraeth Cymru lle bydd modd i chi gael rhagor o wybodaeth am y cynnig gofal plant a'r atebion i rai cwestiynau syml: Cynnig Gofal Plant Cymru | Help Gyda Chostau Gofal Plant yng Nghymru | LLYW.CYMRU a dewis 'Cymraeg' ar frig y dudalen.
Fe gewch chi gysylltu â Llywodraeth Cymru ar unrhyw adeg er mwyn rhoi sylwadau:
E-bost: TalkChildCare@gov.wales
Post:
Carfan Cynnig Gofal Plant
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays - 2il Lawr y Gogledd
Caerdydd, CF10 3NQ
Ffyrdd eraill o roi'ch barn:
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yw'r ddolen gyswllt gyntaf ar gyfer cyngor a gwybodaeth am wasanaethau lleol i deuluoedd a chynhalwyr.Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ym mhob awdurdod lleol. Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn cynnig cymorth a chyngor am ddim sy'n ymwneud â materion teuluol gan gynnwys gofal plant, help gyda chostau gofal plant, a gwasanaethau hamdden www.rctcbc.gov.uk/fis a dewis 'Cymraeg' ar frig y dudalen.