Mae modd gwneud cais am gyllid i dalu am 15 awr yr wythnos o ofal plant os:
- Ydych chi'n byw yn Rhondda Cynon Taf
- Yw eich plentyn chi'n 3 neu 4 mlwydd oed. Bydd y cyllid yn dod i ben ar ôl i'ch plentyn chi ddechrau mewn dosbarth derbyn mewn ysgol (fel arfer, y mis Medi ar ôl i'r plentyn droi'n 4 mlwydd oed).
- Yw'r ddau riant, neu bartner sy'n byw gydag un o'r rhieni yn gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant (mae rhai budd-daliadau eraill hefyd yn gymwys - gweler isod).
- Yw'r rhiant sengl yn gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant.
- Ydych chi'n ennill o leiaf:
- £152.00 yr wythnos os ydych chi'n 23 mlwydd oed neu hŷn
- £148.88 yr wythnos os ydych chi rhwng 21 a 22 mlwydd oed
- £109.28 yr wythnos os ydych chi rhwng 18 a 20 mlwydd oed
(Mae'r cyfraddau yma yn seiliedig ar berson sy'n gweithio 16 awr yr wythnos ac yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a'r Isafswm Cyflog Byw rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023).
- Ydych chi'n ennill llai na £100,000 y flwyddyn (fesul rhiant).
Rhieni mewn addysg neu hyfforddiant: O fis Medi 2022, gall rhieni sydd mewn addysg a hyfforddiant fod yn gymwys i fanteisio ar y cynnig. I fod yn gymwys ar gyfer y cynnig, mae'n rhaid bod rhiant naill ai:
- Wedi’i gofrestru ar gwrs israddedig neu ôl-raddedig (gan gynnwys y cyrsiau hynny sy'n cael eu cynnal o bell neu ar-lein) sydd o leiaf 10 wythnos o hyd
- Wedi’i gofrestru ar gyfer cwrs sy'n para o leiaf 10 wythnos sy'n cael ei ddarparu gan sefydliad Addysg Bellach (AB).
- Wedi'i dderbyn i astudio cwrs llawn amser neu ran amser wedi'i ariannu gan y GIG sy'n arwain at gofrestriad proffesiynol, e.e. nyrs dan hyfforddiant
Pa dystiolaeth sydd angen ei darparu?
I'r rheiny sydd wedi'u cyflogi:
- Cyfloglenni'r 3 mis diwethaf (os ydych chi'n cael eich talu'n fisol)
- Cyfloglenni'r 12 wythnos diwethaf (os ydych chi'n cael eich talu'n wythnosol)
- Copi o'ch ffurflen dreth SA302 fwyaf diweddar (os ydych chi’n hunangyflogedig)
- Ffurflen newydd ddod yn hunangyflogedig os ydych chi wedi dod yn hunangyflogedig yn y 12 mis diwethaf a heb gwblhau ffurflen dreth
I'r rheiny sydd mewn addysg neu hyfforddiant:
- Bydd rhaid i rieni ddarparu tystiolaeth eu bod nhw wedi'u cofrestru ar gwrs cymwys - mae modd darparu llythyr neu e-bost yn dweud eu bod nhw wedi'u cofrestru gan y coleg neu brifysgol (rhaid bod teitl a hyd y cwrs wedi'u nodi).
I'r rheiny sy'n derbyn budd-daliadau cymwys:
- Llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sy'n nodi eich bod chi'n derbyn budd-daliad cymwys
- Llythyr Credyd Cynhwysol sy'n nodi eich bod chi'n derbyn taliad gan nad oes modd i chi weithio
Eithriadau:
Os yw un rhiant yn bodloni'r meini prawf a bod y rhiant arall yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol, bydd y plentyn yn gymwys i dderbyn y Cynnig:
- Budd-dal Analluogrwydd
- Lwfans i Gynhalwyr (gofalwyr)
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Budd-dal Analluogrwydd Hir Dymor
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Credydau Yswiriant Gwladol o ran analluogrwydd i weithio neu allu cyfyngedig i weithio
- Credyd Cynhwysol pan fo asesiad wedi dod i'r casgliad bod yr unigolyn yn methu gweithio
Fydd teuluoedd lle mae'r ddau riant yn derbyn y budd-daliadau uchod ddim yn cael manteisio ar y Cynnig.
Cynhalwyr sy'n ffrindiau neu'n deulu:
Cynhalwyr sy'n ffrindiau neu'n deulu yw'r rhai sydd wedi cymryd cyfrifoldeb dros blentyn neu lysblentyn, sydd ddim yn fab/ferch iddyn nhw, oherwydd:
- Dyw rhieni'r plentyn ddim yn gallu gofalu am y plentyn, neu does gan y plentyn ddim rhieni.
- Fel arall, mae'n debygol byddai'r plentyn yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol oherwydd pryderon mewn perthynas â lles y plentyn.
Mae modd i gynhalwyr sy'n berthnasau elwa ar y Cynnig ar yr amod eu bod nhw'n bodloni'r meini prawf - byddan nhw'n gweithio, yn byw yn RhCT ac yn rhoi gofal i blentyn sy o'r oedran cywir i dderbyn y Cynnig.