Skip to main content

Beth yw'r Cynnig Gofal Plant?

 

Beth yw Cynnig Gofal Plant Cymru?
Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu cyfuniad o hyd at 30 awr yr wythnos o addysg feithrin a gofal plant ychwanegol wedi'i ariannu i rieni cymwys. Bydd y ddarpariaeth yma ar gael i blant 3 a 4 oed am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Bydd y Cynnig yn adeiladu ar hawl bresennol plant i addysg feithrin yn ystod y tymor, ac yn darparu hyd at 30 awr o ofal plant wedi’i ariannu am naw wythnos o’r gwyliau ysgol (mae wythnosau gwyliau ysgol ar sail pro-rata, 3 wythnos y tymor, yn dibynnu ar ba dymor caiff eich cymhwysedd ei gadarnhau).

Faint o oriau o ofal plant ydw i'n gymwys i'w cael?
Mae modd derbyn uchafswm o 30 awr o addysg feithrin a gofal plant ychwanegol wedi'i ariannu. Mae Cyngor RhCT yn cynnig 15 awr o addysg feithrin i blant o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed. Felly, bydd gan rieni cymwys hyd at 15 awr ychwanegol o ofal plant wedi'i ariannu yn ystod y tymor.

Does dim rhaid i rieni ddefnyddio eu hawl i addysg feithrin er mwyn derbyn elfen gofal plant y Cynnig. Serch hynny, bydd yr hyn mae hawl gyda nhw i'w dderbyn yn cynnwys yr oriau yma, p'un a ydyn nhw'n penderfynu eu defnyddio ai peidio.

Os yw ysgol eich plentyn yn cynnig addysg feithrin llawn amser, bydd yr hyn y mae gyda chi hawl i’w dderbyn trwy’r Cynnig Gofal Plant yn ystod tymor yr ysgol yn cynnwys y ddarpariaeth addysg feithrin yn unig a fyddwch chi ddim yn derbyn gofal plant ychwanegol wedi’i ariannu. Bydd hawl gyda chi o hyd i dderbyn hyd at 30 awr o ofal plant wedi'i ariannu am hyd at 9 wythnos o wyliau'r ysgol.

Nodwch – Mae plant sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf yn gymwys i gael lle addysg llawn amser o'r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 4 oed. Mae hyn yn golygu, o'r adeg honno, fydd dim modd i blant sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf fanteisio ar ofal plant wedi’i ariannu gan y Cynnig Gofal Plant yn ystod tymor yr ysgol. Bydd modd iddyn nhw fanteisio ar ofal plant wedi'i ariannu yn ystod y gwyliau hyd at ddiwedd gwyliau'r haf yn dilyn eu pen-blwydd yn 4 oed. Mae'r polisi yma'n berthnasol hyd yn oed os dyw rhieni ddim yn dymuno manteisio ar addysg feithrin neu os yw’r plentyn yn mynychu ysgol mewn awdurdod lleol gwahanol ac y bydd yn parhau i dderbyn lle addysg rhan amser yn ystod y tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn 4 oed.


Mae'r elfen addysg o'r cynnig yma'n amodol ar reolau arferol Derbyn Disgyblion RhCT. Rhaid i rieni wneud cais am le addysg feithrin i'w plentyn erbyn y dyddiadau sydd wedi'u nodi ar dudalen Derbyn Disgyblion RhCT. Dyma gais ar wahân i'r un ar gyfer yr elfen gofal plant wedi'i ariannu o'r Cynnig Gofal Plant. 

Yn ogystal ag ysgolion, mae'n bosibl bydd modd i blant gael addysg drwy Ddarparwr Addysg Cofrestredig (REP). Mae’r rhain yn lleoliadau gofal plant sydd wedi’u cofrestru ag AGC sydd hefyd yn cael eu harolygu gan Estyn i ddarparu addysg feithrin. Sylwer – dim ond lleoedd addysg mewn REPs ar gyfer plant sy'n troi'n 3 oed rhwng mis Medi a mis Mawrth bob blwyddyn rydyn ni'n eu hariannu. Bydd plant sy'n troi’n 3 oed rhwng mis Ebrill a mis Awst bob blwyddyn yn dechrau mewn lleoliad ysgol y mis Medi canlynol. 

Os yw ysgol yn cynnig amser dechrau gwahanol i’r tymor pan fydd eich plentyn yn dechrau am y tro cyntaf, nid yw’n bosibl hawlio oriau gofal plant wedi'u hariannu gan y Cynnig Gofal Plant ar gyfer yr oriau pan nad yw’ch plentyn yn yr ysgol.

Mae rhagor o fanylion am sut i wneud cais am le addysg feithrin ar gael yma:www.rctcbc.gov.uk/derbyndisgyblion

 

Pryd bydd fy mhlentyn yn gymwys?

 Mae'r siart isod yn esbonio pryd mae modd cyflwyno cais am y Cynnig Gofal Plan

Os   cafodd eich plentyn ei eni

Mae'n   gymwys o

Mae'n   gymwys hyd at

Cyfnod   cyflwyno cais yn dechrau

1 Medi 2019 - 31 Rhagfyr 2019

9 Ionawr 2022 (dechrau tymor y gwanwyn)

31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed 2024

Agor 

1 Ionawr 2020 – 31 Mawrth 2020

17 Ebrill 2023 (dechrau tymor yr haf)

31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed 2024

Agor

1 Ebrill 2020 – 31 Awst 2020

4 Medi 2023 (dechrau tymor yr hydref)

31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed 2024

Agor

1 Medi 2020 – 31 Rhagfyr 2020

8 Ionawr 2024 (dechrau tymor y gwanwyn)

31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed 2025

Agor

 

1 Ionawr 2021 – 31 Mawrth 2021

8 Ebrill 2024 (dechrau tymor yr haf)

31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed 2025

Agor

1 Ebrill 2021 - 31 Awst 2021

2 Medi 2023
(dechrau tymor yr hydref)

31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed 2025

19 Mehefin 2024

Nodwch: Yn RhCT, mae'r dyddiadau derbyn yma yn aros yr un fath bob blwyddyn a dydn nhw ddim yn newid yn ôl dyddiadau'r Pasg.  

Os byddwch chi'n cyflwyno cais cyn y dyddiadau yma, caiff eich cais ei wrthod yn awtomatig, a bydd raid i chi gyflwyno cais arall ar ôl y dyddiad 'cychwyn' ar gyfer cyflwyno ceisiadau.