Skip to main content

How can I access the funded childcare?

Bydd y Cynnig yn dechrau o'r tymor yn dilyn pen-blwydd eich plentyn yn dair oed tan y mis Medi sy'n dilyn pen-blwydd y plentyn yn bedair oed (wrth ddechrau yn y dosbarth derbyn).

Mae modd i rieni fanteisio ar y Cynnig ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod yma, cyn belled â'u bod nhw'n gymwys i wneud hynny. Dylai fod modd i rieni fanteisio ar y Cynnig ar unrhyw adeg yn ystod y tymor hwnnw, cyn belled â bod y plentyn yn gymwys ar ddechrau'r tymor hwnnw, neu'n gynharach. Mae hyn yn cynnwys rhieni sy'n symud i GBSRhCT, neu sy'n cael swydd newydd.

Nodwch - byddwch chi dim ond yn gymwys o'r dyddiad wedi'i nodi ar y llythyr sy'n cadarnhau'ch cais byddwch chi'n ei dderbyn gan Garfan y Cynnig Gofal Plant unwaith bod eich cais yn cael ei brosesu.

Ydw i'n gallu defnyddio mwy nag un darparwr gofal plant?
Mae hawl gennych chi ddefnyddio hyd at DDAU ddarparwr gofal plant cofrestredig fesul diwrnod, yn ogystal â'r lleoliad addysg feithrin ar unrhyw ddiwrnod penodol.

Ydw i'n gallu cronni fy oriau?
Nac ydych. Yn ystod y tymor, bydd rhieni yn cael uchafswm o 30 awr yr wythnos o addysg feithrin a gofal plant ychwanegol wedi'i ariannu. Gall rhieni ddewis faint o'r gofal plant ychwanegol wedi'i ariannu maen nhw am ei ddefnyddio. Byddwch chi'n colli unrhyw oriau sydd ddim yn cael eu defnyddio yn ystod yr wythnos. 

Ar gyfer wythnosau gwyliau'r ysgol, gall rhieni ddefnyddio hyd at uchafswm o 30 awr yr wythnos o ofal plant wedi'i ariannu. Byddwch chi'n colli unrhyw oriau sydd ddim yn cael eu defnyddio yn ystod wythnos wyliau.

Sut bydd y cynnig yma'n gweithio tu allan i dymor yr ysgol?
Bydd y cynnig gofal plant yn cyfrif am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae addysg feithrin ar gael am hyd at 39 wythnos y flwyddyn, felly bydd modd i rieni cymwys dderbyn hyd at 30 awr o ofal plant wedi’i ariannu yn ystod y 9 wythnos sy'n weddill. Mae hyn yn gadael 4 wythnos y flwyddyn heb unrhyw ddarpariaeth wedi'i hariannu. Yn dibynnu ar gontract y darparwr, efallai y bydd rhieni'n atebol i dalu'r darparwr am yr wythnosau hyn.

Mae plant cymwys yn cronni 3 wythnos o ddarpariaeth yn ystod gwyliau'r ysgol bob tymor o ddyddiad cadarnhau eu bod yn gymwys. Mae wythnosau gwyliau ysgol ar sail pro-rata, 3 wythnos y tymor, yn dibynnu ar ba dymor caiff eich cymhwysedd ei gadarnhau. Bydd modd i rieni ddewis pryd i ddefnyddio'r ddarpariaeth yn ystod gwyliau'r ysgol. Serch hynny, cyfrifoldeb y rhiant yw dewis y darparwr sy'n bodloni'i anghenion. Caiff wythnosau gwyliau'r ysgol eu defnyddio mewn blociau wythnos o hyd. Byddwch chi'n colli unrhyw oriau sydd ddim yn cael eu defnyddio yn ystod wythnos wyliau.

 

Sylwch - mae'n ofynnol i holl rieni cymwys ail-gadarnhau eu cymhwysedd bob tymor. Bydd cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn i’w gweld ar eich dangosfwrdd trwy'r system genedlaethol. Bydd hefyd yn ofynnol i rai o'r rhieni hyn gynnal ail-gadarnhad 'llawn' a lanlwytho'r dystiolaeth incwm ddiweddaraf a phrawf o gyfeiriad.

Proses Apeliadau
Os caiff eich cais am y Cynnig Gofal Plant ei wrthod ac rydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad hwn, mae modd gofyn am adolygiad. Cliciwch y ddolen yma i ddarllen yr hyn y mae angen i chi ei wneud, ac erbyn pryd.