Skip to main content

Clybiau brecwast

Yn ôl traddodiad, mae clybiau brecwast yn cael eu cynnal mewn ysgolion. Maen nhw'n cael eu hystyried yn weithgareddau allgyrsiol sy'n cefnogi dysgu a phresenoldeb, nid yn ddarpariaeth gofal plant ffurfiol.

Mae'r Cyngor yn cynnal menter brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd. Mae'n cydnabod ei bod hi'n bwysig bod plant yn dechrau'r diwrnod â brecwast iachus, maethlon a digonol er mwyn canolbwyntio'n well yn ystod gwersi.

Mae clybiau brecwast yn tueddu i gael eu cynnal rhwng 8am a dechrau'r diwrnod ysgol. Maen nhw'n helpu i wella presenoldeb a phrydlondeb ac yn galluogi'r plant i gymdeithasu ag eraill cyn dechrau gwersi. Mae'r clybiau brecwast hefyd o fudd mawr i rieni sy'n mynd i'r gwaith yn gynnar.

Mae llawer o warchodwyr plant a meithrinfeydd hefyd yn darparu gofal cyn ac ar ôl oriau'r ysgol.

Chwiliwch am glybiau brecwast a darpariaeth gofal cofleidiol sy'n addas i chi.

Clybiau brecwast

Gweld clybiau brecwast lleol drwy wefan DEWIS

 

Can’t find what you are looking for? Need more information or advice?
Contact the Family Information Service now on 
- Freephone: 0800 180 4151
- Freephone from mobiles: 0300 111 4151