Skip to main content

Cynllun Grant 2021-2022 – Dyfais Monitro CO2

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyllid i gynorthwyo lleoliadau gofal plant sy'n gweithredu yn Rhondda Cynon Taf i brynu a gosod dyfeisiau monitro CO2 yn eu lleoliadau i gefnogi eu mesurau diogelwch COVID-19.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyllid i gynorthwyo lleoliadau gofal plant sy'n gweithredu yn Rhondda Cynon Taf i brynu a gosod dyfeisiau monitro CO2 yn eu lleoliadau i gefnogi eu mesurau diogelwch COVID-19.

Mae dyfeisiau monitro gwahanol ar gael ar gyfer ystafelloedd o wahanol faint a math. Dylai darparwyr geisio gwybodaeth a phenderfynu a yw dyfais o'r fath yn addas ar gyfer eu lleoliad/amgylchedd a sawl dyfais fydd ei hangen.

Efallai bydd y dolenni cyswllt canlynol yn ddefnyddiol hefyd:

Llywodraeth Cymru: Llywodraeth Cymru – Canllaw ar sut i ddefnyddio dyfeisiau monitro carbon deuocsid er mwyn helpu i reoli lefelau awyru mewn lleoliadau addysg:

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: Awyru ac aerdymheru yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19):

Er mwyn cyflwyno cais am y grant, rhaid i chi ddangos:

  • bod eich lleoliad yn Rhondda Cynon Taf
  • bod eich lleoliad wedi ei gofrestru'n llawn gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer y ddarpariaeth rydych chi'n ei chynnig (neu fod y cais yn cael ei brosesu a'ch bod chi'n gallu dangos cydymffurfiaeth â'r safonau gofynnol sydd wedi'u cytuno)
  • bod eich lleoliad wedi'i gofrestru gyda RhCT i ddarparu lleoedd Cynnig Gofal Plant i blant 3 a 4 oed
  • eich bod chi yn y broses o lenwi Cytundeb Darparwr Cynnig Gofal Plant RhCT y bydd yn cofrestru eich lleoliad gofal plant ar gyfer y Cynnig cyn gynted â phosibl.

Gweler isod gopi o CO2 a Nodai Chanllawiau i Ymgeiswyr:

Sut I Wneud Cais

Am gopi o'r Ffurflen Gais am Dyfais Monitro Carbon Deuocsid (CO2)
cysylltwch â Rachel Gunter yn:

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 11 Chwefror 2022.  Mae'n bosibl y bydd y dyddiad cau hwnnw'n gynt os byddwn ni wedi dyrannu'r holl gyllid sydd ar gael.