Skip to main content

Hel achau chwilio

Ydych chi’n dechrau edrych ar hanes eich teulu chi? Dyma wybodaeth am sut mae mynd ati. Mae sawl lle i ddechrau chwilio am eich hynafiaid. Ymhlith y rhain mae’r Cofrestrau Genedigaethau, Marwolaethau, a Phriodasau, ffurflenni’r Cyfrifiadau, a chofnodion plwyfi.

Ym 1837, dechreuodd y Llywodraeth Ganolog gofnodi Genedigaethau, Marwolaethau, a Phriodasau. ‘Cofrestru Sifil’ yw enw’r drefn yma. Ydych chi’n chwilio am aelodau o’ch teulu cyn 1837? Bydd rhaid i chi edrych ar gofnodion plwyfi ac ar ffurflenni Cyfrifiad.

Sut mae olrhain eich achau

Mae sawl ffordd i ddechrau chwilio am hanes eich teulu chi. Beth am holi’ch perthnasau hŷn? Mae’’r hen do’n gwybod hanes pawb weithiau. Mae’n werth edrych ar gofnodion y teulu hefyd. Beth am y Beibl teuluol, yr albwm ffotograffau, dyddiaduron, neu erthyglau wedi’u torri o’r papur?

Tystysgrifau geni, marwolaeth a phriodas

Tystysgrifau geni

Mae’n syniad da i ddechrau chwilio drwy edrych ar dystysgrifau geni. Os ydych chi heb lawer o wybodaeth am eich rhieni chi, beth am ddechrau gyda’ch tystysgrif geni chi?

Tystysgrifau priodas

Weithiau, bydd tystysgrif priodas yn well na thystysgrif geni. Bydd hi’n dangos enwau’r pâr, ac enwau a gwaith eu tadau hefyd.

Pa wybodaeth fydd ar y dystysgrif?

Mae pob tystysgrif geni, marwolaeth neu briodas safonol (copi llawn o’r cofnod sydd yn y Gofrestr) yn dangos yr union fanylion sydd ar y gofrestr.

Dyma’r manylion ddylai fod ar Dystysgrif Geni Safonol

  • Dyddiad a lle geni’r plentyn
  • Enw llawn a rhyw’r plentyn
  • Enwau’r ddau riant (os ydyn nhw wedi’u cofnodi yn y Gofrestr)
  • Y trefi a’r siroedd lle cafodd rhieni’r plentyn eu geni (ar ôl 1969)
  • Enw morwynol mam y plentyn (os oedd hi’n briod)

Gyda’r wybodaeth yma, bydd modd i chi chwilio am dystysgrif y rhieni.

Dyma’r manylion ddylai fod ar Dystysgrif Priodas

  • Dyddiad a lle’r briodas
  • Enwau llawn y briodferch a’r priodfab
  • Oedran a gwaith y briodferch a’r priodfab
  • Eu cyfeiriadau adeg y briodas
  • Enwau, cyfenwau, a gwaith eu tadau (os ydyn nhw yn y Gofrestr)

Bydd yr wybodaeth yma’n eich helpu i weithio allan tua pha flwyddyn cafodd y briodferch a’r priodfab eu geni.

Dyma’r manylion ddylai fod ar Dystysgrif Marwolaeth:

  • Dyddiad a lle’r farwolaeth
  • Enw morwynol (os oedd merch yn briod)
  • Oedran adeg y farwolaeth, neu ddyddiad a lle geni
  • Gwaith diwethaf a chyfeiriad y sawl sydd wedi marw (ac, i ferch oedd yn briod neu’n weddw, enw a chyfenw’i gŵr)
  • Enw a chyfenw’r sawl gofnododd y farwolaeth, a’i berthynas â’r sawl sydd wedi marw
  • Achos marwolaeth

Cofnodion sydd ar gael yn Swyddfa Gofrestru Pontypridd

Mae Swyddfa Gofrestru Pontypridd yn cadw cofnod o bob genedigaeth, marwolaeth a phriodas yn yr ardal yma o 1837 ymlaen.

Mae’r Swyddfa yma’n cadw cofnodion o lawer iawn o’r digwyddiadau uchod y tu mewn i ffiniau presennol Rhondda Cynon Taf.

Sylwer: mae ffiniau trefi ac ardaloedd wedi newid dros y canrifoedd. O ganlyniad, bydd rhai digwyddiadau wedi cael eu cofrestru mewn gwahanol leoedd. Os ydych chi’n ansicr, ysgrifennwch aton ni neu ffonio.

 Rydyn ni’n cadw cofnodion:

  • Pontypridd (o 1863)
  • Llanwynno (o 1890)
  • Llantrisant ac Aberdâr (o 1837)

Croeso i chi brynu copi o un o’r cofnodion yma, ar ffurf tystysgrif. Llenwch ffurflen a dewch â hi, gyda’r tâl priodol, i’r Swyddfa Gofrestru ym Mhontypridd. Neu anfonwch y ffurflen a’r tâl drwy’r post.

Os byddwch chi’n gwneud cais trwy’r post, cofiwch gynnwys amlen â stamp arni hi a nodi’ch cyfeiriad. Ysgrifennwch eich siec neu’ch archeb bost yn daladwy i’r “Cofrestrydd Arolygol” yn Swyddfa Gofrestru Ardal Pontypridd.

Cofiwch – does dim modd inni dderbyn manylion neu wybodaeth ar gyfer talu dros y ffôn.

Os cawn ni’r wybodaeth lawn yn gywir, bydd modd inni ysgrifennu’r dystysgrif ichi yn y fan a’r lle, neu’i hanfon yn ôl gyda’r troad. Os yw’r wybodaeth yn anghyflawn, bydd rhaid inni chwilio drwy’r mynegeion, neu ofyn ichi am ragor o wybodaeth. Bydd hyn yn cymryd amser.

Os na fyddwn ni’n dod o hyd i’ch cofnod chi, byddwn ni’n anfon eich siec/archeb bost yn ôl.

Cost chwilio’r mynegeion lleol yn Swyddfa Gofrestru Pontypridd

Dydy’r Cofrestrau’u hunain ddim ar gael i’r cyhoedd. Ond mae croeso i chi ddod i mewn i wneud ‘Chwiliad Cyffredinol’ o’r mynegeion lleol yn ein swyddfa.

Rhaid ichi drefnu amser ar gyfer ‘Chwiliad Cyffredinol’ ymlaen llaw. Bydd hawl gyda chi i chwilio am 6 awr yn gyffredinol ar un diwrnod. Yn ôl y gyfraith, mae rhaid inni godi £18.00 am hyn. (Fe allai’r gost newid bob blwyddyn).

Ffurflenni cyfrifiad

Mae’r Ffurflenni Cyfrifiad yn cynnwys manylion am bobl oedd yn byw ym mhob tŷ ym mhob stryd. Bydd Cyfrifiad unwaith bob 10 mlynedd. Bydd yr wybodaeth yma’n helpu dangos pryd cafodd rhywun yn eich teulu’i eni. Os byddwch chi’n gwybod dyddiadau geni plant yn barod, bydd hyn yn rhoi syniad o ddyddiad priodas y rhieni.

Ar hyn o bryd, mae’r Ffurflenni Cyfrifiad ar gael ar gyfer Cyfrifiadau 1841, 1851, 1861, 1871, 1891, 1901 ac 1911. Mae ffurflenni ar gyfer hen Sir Forgannwg (a rhan fwyaf Sir Fynwy) ar gael yn Archifdy Morgannwg, Caerdydd. Mae Cyfrifiad 1901 ar gael ar y Rhyngrwyd. Os hoffech chi weld Cyfrifiad 1901, dechreuwch gyda http://www.1911census.co.uk

Archifdy Morgannwg
Ffôn: (029) 2078 2200

Hoffech chi wybod rhagor am Gyfrifiad 1901 ar-lein? Cysylltwch â:

Census Online Team
Public Record Office
Kew
Richmond
Surrey TW9 4DU

Ffôn: (020) 8392 5200
E-bost: 1901Census@pro.gov.uk

Cofrestrau’r Plwyfi

Mae Cofrestrau’r Plwy yn ffynhonnell wybodaeth dda arall. Ers 1538, mae rhaid i offeiriaid y plwyfi gofnodi pob bedydd, priodas ac angladd mewn cofrestrau plwyf. Mae rhai o’r cofrestrau hyn yn dal i fod.

Os ydych chi eisiau gweld y cofrestrau ar gyfer plwyfi’r hen Sir Forgannwg, ewch i Archifdy Morgannwg yng Nghaerdydd:

Ffôn: (020) 2078 2200
E-bost: glamro@Cardiff.ac.uk

Mewn rhai ardaloedd, mae’r llyfrgell leol yn cadw cofrestrau plwyfi lleol.

Swyddfa Gofrestru Leol

Dechreuodd Cofrestru Sifil yng Nghymru a Lloegr 1 Gorffennaf 1837. Roedd y Swyddfa Gofrestru Leol yn St. Catherine’s House, Llundain, yn cadw cofnodion o bob genedigaeth, priodas, a marwolaeth o hynny ymlaen. Mae’r enwau yn nhrefn yr wyddor. Roedd pobl yn sôn am ‘Mynegeion y Santes Catrin’ gan fod y mynegeion yn cael eu cadw yn St. Catherine’s House.

Cafodd llawer o ddeiliaid Prydeinig (gan gynnwys aelodau o’r Lluoedd Arfog) eu geni neu’u priodi dramor, ac yno bu llawer ohonyn nhw farw hefyd. Mae St. Catherine’s House yn cynnwys cofnodion am hyn, o’r 18fed ganrif ymlaen. (Bydd hyn yn cynnwys pobl fuodd farw yn ystod y ddau Ryfel Byd).

Mae croeso i’r cyhoedd ddod i edrych yn y mynegeion hyn yn ystafell ymchwilio The National Archives, Kew, Richmond, Surrey, TW9 4DU.  Ffôn: 020 8876 3444

Mae Archifdy Morgannwg wedi prynu set gyflawn (ar ffurf microfiche) o’r mynegeion hyn ar gyfer y blynyddoedd 1837-2001.

Mae setiau eraill i’w cael yn Llyfrgell Gyfeirio Casnewydd, Llyfrgell Pen-y-bont, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn Abertawe, a Chanolfan Hanes Teuluol Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf (Mormoniaid) yn Rhiwbeina, Caerdydd.

Dyma wefannau eraill a allai’ch helpu chi i olrhain hanes eich teulu:

Chwilio Beddau

Bydd staff yn falch o’ch helpu i chwilio am hanes eich teulu. Er hyn, efallai na fydd hynny bob amser yn bosibl ar unwaith o ganlyniad i flaenoriaethau eraill. Y ffordd orau o gael yr wybodaeth yma yw trwy ysgrifennu at y Swyddfa Fynwentydd briodol. Anfonwch y tâl priodol a bydd staff yna’n chwilio’r cofnodion cyn gynted â phosibl. 

Cofiwch fod eisiau i chi gynnwys cynifer o fanylion ag sy'n bosibl, gan gynnwys:

  • Enw'r person sydd wedi marw – cyfenw ac enwau cyntaf os yw'n bosibl
  • Oedran
  • Cyfeiriad pan fu farw neu pan gafodd ei gladdu
  • Dyddiad marw neu gladdu
  • Enw'r fynwent
  • Unrhyw fanylion eraill a fyddai o gymorth wrth chwilio

Rydyn ni'n fodlon chwilio am enw un person am ddim ond bydd y gwaith o chwilio am enwau eraill yn costio £15 yr un.

Cysylltu â Swyddfeydd y Mynwentydd

Amlosgfa Glyn-taf /Mynwent Glyn-taf / Mynwent Tŷ Rhiw/ Mynwent Llanharan / Mynwent Cefn y Parc / Mynwent Trealaw / Mynwent Treorci / Mynwent Glynrhedynog / Mynwent Pen-rhys

Ar gyfer unrhyw un o'r uchod, cysylltwch â:

Amlosgfa Glyntaf

Cemetery Road

Glyn-taf
Pontypridd
CF37 4BE

Tel:Rhif Ffôn: 01443 402810
Rhif Ffacs: 01443 406052

 

Tudalennau Perthnasol