Skip to main content

Chwiliadau a Thystysgrifau Copi - Geni, Marwolaeth a Phriodas

Dim ond ym 1837 y dechreuodd y llywodraeth gofnodi Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau - Cofrestru Sifil yw hyn. Mae cofnodion gyda ni o'r rhan fwyaf o enedigaethau sydd wedi digwydd yn Rhondda Cynon Taf ers yr adeg honno.

Rydyn ni'n gallu rhoi tystysgrifau geni copi dim ond os yw'r gofrestr gyda ni sy'n cynnwys y cofnod gwreiddiol. Os na, rhaid i chi wneud cais i'r swyddfa gofrestru sy'n cadw'r cofnod gwreiddiol.

Noder: Dydy pob mynegai ddim ar gael ar-lein eto.  Rydyn ni wrthi'n cyhoeddi ein mynegeion mor bell yn ôl â 1837. Os nad ydych chi'n gallu dod o hyd i'ch cofnod, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Chwilio trwy ein cofrestr a gofyn am dystysgrif copi.

Chwilio trwy ein cofrestr ar gyfer cofnodion Genedigaethau, Priodasau neu Farwolaethau, a gofyn am gopi o dystysgrif ar-lein.

Dewiswch fynegai, y flwyddyn a rhoi cyfenw.

Lawrlwytho ffurflen gais

Cost

Tystysgrif geni, priodas neu farwolaeth arferol - yn dangos yr holl fanylion a gofnodwyd yn y gofrestr.

  • Wedi'i awdurdodi gan: Cofrestrydd Arolygol - £11.00
  • Talu â cherdyn credyd neu gerdyn debyd: £11.00
  • Gwasanaeth blaenoriaeth un diwrnod: £35

Tystysgrif Geni Fer - yn dangos enw, rhyw a'r dyddiad geni yn unig.

  • Wedi'i awdurdodi gan: Cofrestrydd Arolygol - £11.00
  • Gwasanaeth blaenoriaeth un diwrnod: £35

Noder: Mae tystysgrifau llawn ar gael gan y Cofrestrydd am £11 y dystysgrif ar adeg y cofrestru, neu yn fuan wedyn am £11 y dystysgrif. Unwaith bod y gofrestr yn llawn, mae'n cael ei rhoi i'r Cofrestrydd Arolygol ac, erbyn hynny, fydd hi ddim yn bosibl cael tystysgrif gan y Cofrestrydd.

Ceisiadau drwy'r post

Dylid gwneud pob siec neu archeb bost yn daladwy i'r Cofrestrydd Arolygol.

Mae pob cais drwy'r post yn costio £11 fesul tystysgrif. Gweler y cyfeiriad isod:

Cysylltu â ni:

Swyddfa Gofrestru Pontypridd

Swyddfa Gofrestru Pontypridd

Adeiladau'r Cyngor
Heol Gelliwastad
Pontypridd
CF37 2DP

Ffôn: (01443) 494024
Ffacs (01443) 494040

Rhif ffôn mewn argyfwng y tu allan i oriau arferol: (01443) 425011

Gweld Swyddfa Gofrestru Pontypridd ar fap

Oriau agor y Cofrestrydd

 Dydd LlunDydd MawrthDydd MercherDydd IauDydd Gwener

 9:30 - 16:00

 9:30 - 16:00

 9:30 - 16:00

 9:30 - 16:00

 9:30 - 16:00

Nodwch: Mae'r swyddfa ar gau 12.15pm tan 1.15pm bob dydd er mwyn paratoi ceisiadau am dystysgrifau ac ar gyfer eu casglu.

Tudalennau Perthnasol