Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gwella ei gasgliadau gwastraff gwyrdd / o'r ardd cyfredol trwy gyflwyno sach NEWYDD y mae modd ei hailddefnyddio i gasglu'ch holl wastraff gwyrdd / o'r ardd.
Fydd y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd bob pythefnos (gan gynnwys y gwasanaeth casglu coed Nadolig 'go iawn') DDIM AR GAEL yn ystod yr wythnos sy'n dechrau dydd Llun 26 Rhagfyr. Bydd y gwasanaeth arferol yn ailgychwyn ddydd Llun 16 Ionawr 2023.
Serch hynny, bydd modd i chi fynd â'ch gwastraff gwyrdd, gan gynnwys coed Nadolig go iawn (heb fag), i'ch canolfan ailgylchu leol yn y gymuned drwy gydol cyfnod yr ŵyl.
Mae angen i drigolion gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd / o'r ardd gan y Cyngor a byddan nhw'n cael DWY sach werdd AM DDIM.
Bydd cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn sicrhau bydd y carfanau yn gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol a gwneud y gwasanaeth yn gwbl awtomataidd gan leihau ein hôl troed carbon trwy osgoi teithiau diangen.
Bydd cyflwyno'r sachau gwyrdd cynaliadwy newydd y mae modd eu hailddefnyddio yn golygu y bydd y Cyngor yn lleihau ei ddefnydd o blastig yn gyffredinol ac yn sicrhau bod y cynnyrch gwastraff gwyrdd terfynol mor bur â phosibl. Bydd hyn yn creu compost gradd uwch a fydd yn arwain at economi wirioneddol gylchol yn y dyfodol.
Gwyrdd a Cofrestru ar gyfer Casgliadau Gwastraff Gwyrdd
Dysgu rhagor ynglŷn â'r hyn y mae modd ei roi yn eich sachau gwastraff gwyrdd.
Yr atebion i'ch cwestiynau casglu gwastraff gwyrdd
Archebu mwy o sachau gwastraff gwyrdd ar-lein