Mae modd i chi wneud cais am fin bwyd ar-lein.
Manteision Ailgylchu Gwastraff Bwyd
- Arbed arian! Drwy brynu'r bwyd sydd ei angen arnoch chi yn unig, byddwch chi'n gwario llai yn yr archfarchnad. Oherwydd bod eich gwastraff bwyd yn cael ei roi mewn un lle, mae modd i chi weld yn glir faint o fwyd rydych chi'n ei wastraffu a gallwch chi leihau faint rydych chi'n prynu yn sgil hynny.
- Anfonwch lai o wastraff sy'n cyrraedd claddfeydd yn y pen draw. Bydd hynny'n lleihau'r nwyon tirlenwi sy'n cael eu rhyddhau.
- Creu 'egni gwyrdd'. Mae modd troi gwastraff bwyd sydd wedi'i ailgylchu yn wrtaith ac yn ynni buddiol.
Byddwch cystal â pheidio â rhoi pecynnau bara yn eich bin gwastraff bwyd, a defnyddiwch fagiau'r Cyngor yn unig gan fod y rhain yn pydru’n naturiol.
Bydd gennych ddau gadi bwyd:
- Cadi bach (Cadi Cegin) i gadw yn eich cegin - Leiniwch eich cadi gyda'r bagiau gwastraff bwyd bach, sy wedi'u dosbarthu gan y Cyngor. Pan mae’n llawn, dylech chi wagio cynnwys y cadi bwyd mewn i'r bin gwastraff bwyd (cadi mawr).
- Cadi mawr (Bin Gwastraff Bwyd) Cadi mawr i'w gadw y tu allan - Dylai'r Bin Gwastraff Bwyd gael ei leinio â'r bagiau gwastraff bwyd mawr, sy wedi'u dosbarthu gan y Cyngor, yn helpu i'w cadw yn lân. Mae modd cloi'r bin er mwyn sicrhau nad oes unrhyw anifeiliaid yn ei agor.

Mae modd defnyddio’r bin(iau) yma i ailgylchu’r eitemau bwyd canlynol:
Sample Table
Ffrwyth |
Bones |
Llysiau
|
Dairy products |
Bara wedi llwydo neu hen fara |
Rice |
Bagiau te |
Pasta |
Plisg wy |
Leftover Food |
Cig a physgod |
Cereal |
Bwyd anifeiliaid |
|
Fel rheol, os ydych chi'n ei fwyta yna mae modd ei roi yn Bryn Bin - eich cadi ailgylchu gwastraff bwyd!
Nodwch fydd bwyd sy ddim mewn bag gwastraff bwyd ddim yn cael ei gasglu.
Bydd eich gwastraff bwyd yn cael ei gasglu ar eich diwrnod casglu gwastraff ac ailgylchu arferol.
Beth sy'n digwydd i'ch ailgylchu gwastraff bwyd?