- Caiff y gwastraff ei gasglu ar eich diwrnod casglu gwastraff.
- Mae'r casgliad yma ar gyfer gwastraff o'r cartref does dim modd i chi ei ailgylchu. PEIDIWCH â defnyddio bagiau ailgylchu fel bagiau du.
- Mae cyfyngiad ar nifer y bagiau du/gwastraff y mae modd i chi ei roi allan i'w gasglu.
Lwfans
Black Bag Allowance
Dim bin olwynion |
2 fag du o faint safonol |
Os oes bin olwynion gyda chi |
Dim bagiau ychwanegol, ac mae rhaid i'r bin fod ar gau |
Beth sy'n digwydd os ydw i'n mynd y tu hwnt i fy lwfans?
Fyddwn ni ddim yn casglu unrhyw fagiau du ychwanegol ac mae'n debygol y bydd Swyddogion Gorfodi'r Cyngor yn ymweld â chi.
Bydd y Cyngor yn cyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 – a fydd y cam olaf - i breswylwyr sy'n gwrthod ailgylchu byth a hefyd neu sy'n anwybyddu cyngor neu rybuddion y Swyddogion Gorfodi.
Mae modd i chi gysylltu â'r Cyngor i gael cyngor ar sut i leihau faint o wastraff bagiau du sydd gyda chi, a chynyddu faint rydych chi'n ei ailgylchu. Fel arall, defnyddiwch y porwr isod i wybod pa fag gwastraff dylech chi ei ddefnyddio.
Os yw eich amgylchiadau personol yn golygu eich bod chi'n meddwl NA fydd modd i chi gadw at y cyfyngiadau o ran bagiau du/bin, ffoniwch y Cyngor ar 01443 425001.