Sut i gofrestru ar gyfer y cynllun Ailgylchu Cewynnau
Dyma gynllun ailgylchu cewynnau AM DDIM sy’n cael ei gynnig i drigolion Rhondda Cynon Taf.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Cyn pen 2 wythnos o gofrestru, byddwch chi’n cael set o fagiau porffor ar gyfer ailgylchu cewynnau. Mae’n bosibl na fydd eich bagiau porffor yn cael eu casglu ar yr un diwrnod â gweddill eich sbwriel / deunydd i’w ailgylchu.
Sut i ailgylchu cewynnau
Rhowch y cewynnau sydd wedi’u ddefnyddio yn y bag porffor. Ar eich diwrnod casglu, clymwch y bag a’i roi yn yr un lle â mae’ch sbwriel / deunydd i’w ailgylchu yn cael eu casglu fel arfer.
Cofiwch:
- Chewch chi ddim rhoi cewynnau yn y bagiau ailgylchu clir a rhaid i chi gofrestru ar gyfer y cynllun cyn y bydd unrhyw gasgliadau yn cael eu gwneud.
- Os nad yw’ch bag/bagiau wedi cael ei gasglu / eu casglu, mae’n debygol nad ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y cynllun a bydd angen i chi ymuno â’r cynllun.
-
Wrth i ragor o bobl gofrestru, gall y diwrnodau casglu newid ond byddwn ni’n rhoi gwybod i chi os digwydd hyn.
-
Peidiwch â gorlenwi’ch bagiau porffor. Cewch chi ddefnyddio dau fag os yw’r llall yn llawn.
-
Clymwch y bag ar y diwrnod casglu.
-
Dim ond cewynnau a chlytiau papur gwlyb a ddylai gael eu rhoi yn y bagiau porffor - os oes unrhyw wastraff arall ynddyn nhw, fyddan nhw ddim yn cael eu casglu.
-
Os yw cyfnod o dros 4 wythnos yn mynd heibio a dydych chi ddim wedi rhoi unrhyw fagiau porffor yn y man casglu, byddwn ni’n tybio nad ydych chi angen y gwasanaeth mwyach.
-
Os ydych chi’n symud tŷ, ewch â’ch bagiau porffor gyda chi a rhoi gwybod i ni beth yw’ch cyfeiriad newydd trwy e-bostio ailgylchu@rctcbc.gov.uk
-
Peidiwch â defnyddio bagiau mae’ch cymdogion neu ffrindiau wedi’u rhoi i chi achos fydd y rhain ddim yn cael eu casglu. Byddwn ni dim ond yn casglu o’r teuluoedd sydd wedi cofrestru.
-
Dylech chi roi’ch bagiau yn y man casglu erbyn 7am ar y diwrnod casglu. Ar ôl 3 blynedd, byddwn ni’n dileu’ch cyfeiriad oddi ar ein rhestr ni, a bydd rhaid i gwsmeriaid ailgofrestru i barhau i fod yn rhan o’r cynllun ar ôl 3 blynedd.
Angen rhagor o fagiau?
Gwneud cais am anfon bagiau ailgylchu i'ch tŷ
Neu, croeso i chi ffonio 425001
Rhoi gwybod am newid i gyfeiriad
Rhowch wybod i ni os ydych chi’n symud i eiddo newydd yn Rhondda Cynon Taf trwy e-bostio: ailgylchu@rctcbc.gov.uk
Ceisiwch roi gwybod i ni o leiaf wythnos cyn i chi symud oherwydd ei bod hi’n bosibl y bydd eich diwrnod casglu’n newid hefyd.
Sut i adael y cynllun ailgylchu cewynnau.
Rhoi gwybod i ni os ydych chi am adael y cynllun ailgylchu cewynnau trwy e-bostio: ailgylchu@rctcbc.gov.uk
Nodwch: os yw cyfnod o dros 4 wythnos yn mynd heibio a dydych chi ddim wedi rhoi unrhyw fagiau porffor yn y man casglu, byddwn ni’n tybio nad ydych chi angen y gwasanaeth mwyach.
Bagiau heb eu casglu
O fis Hydref 2019, bydd angen i chi ailgofrestru’ch manylion os ydych chi eisiau parhau i fod yn rhan o’r cynllun. Mae’n bosibl na fydd eich bagiau yn cael eu casglu os na fyddwch chi’n gwneud hyn. Mae modd ailgofrestru ar-lein neu drwy ffonio 01443 425001.
Os ydych chi wedi ailgofrestru’ch manylion a dydy’ch bag porffor ddim wedi cael ei gasglu, sicrhewch nad yw’ch diwrnod casglu wedi newid.
Os ydych chi wedi ailgofrestru ac wedi gwirio’ch diwrnod casglu, a dydy’ch bagiau porffor ddim wedi cael eu casglu erbyn 3pm ar y diwrnod casglu, rhowch wybod i ni ar-lein.