Ydych chi wedi rhoi eich gwastraff allan ar y diwrnod cywir?
Gwiriwch ddiwrnod casglu'ch gwastraff er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn rhoi'ch gwastraff y cartref a'ch gwastraff ailgylchu ar ochr y ffordd ar y diwrnod cywir.
Bagiau du a biniau ar olwynion
Os doedd y bin/bagiau du ddim yn y man casglu erbyn 7am neu os oeddech chi wedi rhoi gormod o fagiau du allan i'w casglu (cyfyngiad o 2 fag du / dim bagiau ychwanegol os oes gyda chi fin), yna gwnaethon ni adael eich gwastraff yno'n fwriadol. Fydd dim modd i ni ddychwelyd tan y casgliad nesaf yn ôl yr amserlen.
Os yw'ch gwastraff y cartref heb ei gasglu ar ôl 24 awr, fe gewch chi roi gwybod i ni amdano.
Ailgylchu
Os doedd y bagiau ailgylchu ddim yn y man casglu erbyn 7am neu os oedd y bag ailgylchu wedi'i lygru/yn cynnwys eitemau does dim modd eu hailgylchu, yna gwnaethon ni adael eich gwastraff yno'n fwriadol.
Os oedd y gwastraff ailgylchu wedi'i lygru, tynnwch y gwastraff o'r man casglu a'i ddidoli mewn bag ailgylchu priodol. Does dim modd i ni ddychwelyd i gasglu'ch bagiau wedi'u hail-ddidoli tan y casgliad nesaf yn ôl yr amserlen.
Os yw'ch gwastraff ailgylchu heb ei gasglu ar ôl 24 awr, fe gewch chi roi gwybod i ni amdano.