Skip to main content

Ailgylchu gwastraff anymataliaeth

Sut i gofrestru ar gyfer y cynllun Ailgylchu Gwastraff Anymataliaeth      

Dyma gynllun ailgylchu gwastraff anymataliaeth AM DDIM sy’n cael ei gynnig i drigolion Rhondda Cynon Taf.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Cyn pen 2 wythnos o gofrestru, byddwch chi’n cael set o fagiau porffor ar gyfer ailgylchu cewynnau. Mae’n bosibl na fydd eich bagiau porffor yn cael eu casglu ar yr un diwrnod â gweddill eich sbwriel / deunydd i’w ailgylchu

Sut i ailgylchu gwastraff anymataliaeth

Rhowch y pad sydd wedi’i ddefnyddio yn y bag porffor. Ar eich diwrnod casglu, clymwch y bag a’i roi yn yr un lle â mae’ch sbwriel / deunydd i’w ailgylchu yn cael eu casglu fel arfer.

Cofiwch -  

  • Chewch chi ddim rhoi gwastraff anymataliaeth yn y bagiau ailgylchu clir a rhaid i chi gofrestru ar gyfer y cynllun cyn y bydd unrhyw gasgliadau yn cael eu gwneud.
  • Os nad yw’ch bag/bagiau wedi cael ei gasglu / eu casglu, mae’n debygol nad ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y cynllun a bydd angen i chi ymuno â’r cynllun.
  • Wrth i ragor o bobl gofrestru, gall y diwrnodau casglu newid ond byddwn ni’n rhoi gwybod i chi os digwydd hyn.
  • Peidiwch â gorlenwi’ch bagiau porffor. Cewch chi ddefnyddio dau fag os yw’r llall yn llawn.
  • Clymwch y bag ar y diwrnod casglu.
  • Dim ond padiau anymataliaeth a chlytiau papur gwlyb a ddylai gael eu rhoi yn y bagiau porffor - os oes unrhyw wastraff arall ynddyn nhw, fyddan nhw ddim yn cael eu casglu.
  • Os yw cyfnod o dros 4 wythnos yn mynd heibio a dydych chi ddim wedi rhoi unrhyw fagiau porffor yn y man casglu, byddwn ni’n tybio nad ydych chi angen y gwasanaeth mwyach.  
  • Os ydych chi’n symud tŷ, ewch â’ch bagiau porffor gyda chi a rhoi gwybod i ni beth yw’ch cyfeiriad newydd trwy e-bostio ailgylchu@rctcbc.gov.uk

  • Peidiwch â defnyddio bagiau mae’ch cymdogion neu ffrindiau wedi’u rhoi i chi achos fydd y rhain ddim yn cael eu casglu. Byddwn ni dim ond yn casglu o’r teuluoedd sydd wedi cofrestru.
  • Dylech chi roi’ch bagiau yn y man casglu erbyn 7am ar y diwrnod casglu.       
  • Ar ôl 3 blynedd, byddwn ni’n dileu’ch cyfeiriad oddi ar ein rhestr ni, a bydd rhaid i gwsmeriaid ailgofrestru i barhau i fod yn rhan o’r cynllun ar ôl 3 blynedd. 

Angen rhagor o fagiau?

 

Gofyn i ni anfon bagiau ailgylchu i'ch cartref

Neu, croeso i chi ffonio 425001

 

Rhoi gwybod am newid i gyfeiriad

Rhowch wybod i ni os ydych chi’n symud i eiddo newydd yn Rhondda Cynon Taf trwy e-bostio: ailgylchu@rctcbc.gov.uk

Ceisiwch roi gwybod i ni o leiaf wythnos cyn i chi symud oherwydd ei bod hi’n bosibl y bydd eich diwrnod casglu’n newid hefyd.

Sut i adael y cynllun ailgylchu cewynnau.

Rhoi gwybod i ni os ydych chi am adael y cynllun ailgylchu cewynnau trwy e-bostio: ailgylchu@rctcbc.gov.uk

Nodwch: os yw cyfnod o dros 4 wythnos yn mynd heibio a dydych chi ddim wedi rhoi unrhyw fagiau porffor yn y man casglu, byddwn ni’n tybio nad ydych chi angen y gwasanaeth mwyach.  

Bagiau heb eu casglu

O fis Hydref 2019, bydd angen i chi ailgofrestru’ch manylion os ydych chi eisiau parhau i fod yn rhan o’r cynllun. Mae’n bosibl na fydd eich bagiau yn cael eu casglu os na fyddwch chi’n gwneud hyn. Mae modd ailgofrestru ar-lein neu drwy ffonio 01443 425001.

Os ydych chi wedi ailgofrestru’ch manylion a dydy’ch bag porffor ddim wedi cael ei gasglu, sicrhewch nad yw’ch diwrnod casglu wedi newid.  

 

Chwilio am eich diwrnod casglu gwastraff anymataliaeth

Os ydych chi wedi ailgofrestru ac wedi gwirio’ch diwrnod casglu, a dydy’ch bagiau porffor ddim wedi cael eu casglu erbyn 3pm ar y diwrnod casglu, rhowch wybod i ni ar-lein