Skip to main content

Newidiadau i Ddiwrnodau Casglu dros y Nadolig

ELF-Christmas-Recycling-1700x198
Bydd eich casgliadau wythnosol ar gyfer gwastraff ailgylchu, bwyd, cewynnau a bagiau du YN NEWID dros gyfnod y Nadolig. 

Fydd gwastraff gwyrdd DDIM yn cael ei gasglu yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 26 Rhagfyr, er mwyn i ni allu defnyddio cymaint o adnoddau â phosibl i gasglu'r llwyth mawr o wastraff ailgylchu rydyn ni'n ei ddisgwyl eleni. Bydd gwasanaethau arferol yn ailddechrau ddydd Llun 16 Ionawr.

TREFNWCH AMSER i gasglu coed Nadolig go iawn 

Casgliadau'r wythnos sy'n dechrau Dydd Llun 26 Rhagfyr  

Bydd casgliadau dydd Llun 26Rhagfyr yn symud i ddydd Mawrth 27 Rhagfyr. Bydd pob casgliad ddiwrnod yn hwyr na'r arfer. Hynny yw bydd casgliad dydd Mawrth ar ddydd Mercher, dydd Mercher ar ddydd Iau, dydd Iau ar ddydd Gwener, a dydd Gwener ar ddydd Sadwrn.

Bydd eisiau i wastraff a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd a chewynnau) gael eu gosod yn y man arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu dros dro isod.

Diwrnod Casglu Arferol

Diwrnod casglu newydd 

Dydd Llun 26 Rhagfyr

Dydd Mawrth 27 Rhagfyr (Gŵyl y Banc)

Dydd Llun 26 Rhagfyr

Dydd Mercher 28 Rhagfyr

Dydd Mawrth 27 Rhagfyr

Dydd Mercher 28 Rhagfyr

Dydd Iau 29 Rhagfyr 

Dydd Gwener 30 Rhagfyr

Dydd Gwener 30 Rhagfyr

Dydd Sadwrn 31 Rhagfyr

Casgliadau'r wythnos yn dechrau Dydd Llun 2 Ionawr 2023 

Fydd eich casgliadau deunydd i'w ailgylchu, bwyd, cewynnau a gwastraff bagiau du wythnosol DDIM YN NEWID yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 2 Ionawr (wythnos y flwyddyn newydd).

Bydd eisiau i wastraff a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd a chewynnau) gael eu gosod yn y man arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu arferol.

Diwrnod casglu arferol 

Diwrnod casglu newydd 

Dydd Llun 2 Ionawr

Dim newid (Gŵyl y Banc)

Dydd Mawrth 3 Ionawr

Dim newid

Dydd Mercher 4 Ionawr

Dim newid

Dydd Iau 5 Ionawr 

Dim newid

Dydd Gwener 6 Ionawr

Dim newid

Os nad yw'ch gwastraff / eitemau ailgylchu wedi cael eu casglu yn ôl y disgwyl, gadewch yr eitemau ar y pafin. Mae'n bosibl bod ein gweithwyr yn gweithio oriau ychwanegol er mwyn ateb y galw. Bydd ein gweithwyr yn gweithio gyda'r nos ar adegau prysur.

Awgrymiadau ar gyfer Casgliadau

  • Golchwch gynwysyddion bwyd a photeli diodydd yn y dŵr sy'n weddill ar ôl i chi olchi'ch llestri cyn eu rhoi nhw yn eich bagiau ailgylchu.
  • Sicrhewch fod digon o fagiau ailgylchu gyda chi cyn cyfnod y Nadolig. Mae modd casglu bagiau o'r mannau casglu ledled RhCT, neu ofyn am fagiau drwy fynd ar-lein.
  • Fydd bagiau ailgylchu ddim yn cael eu dosbarthu rhwng 23 Rhagfyr a 9 Ionawr 2022.
  • Cofiwch roi'r sbwriel a'r deunyddiau i'w hailgylchu allan erbyn 7am ar eich diwrnod casglu arferol, neu'r diwrnod casglu dros dro. Peidiwch â'u rhoi allan cyn hynny rhag ofn y byddan nhw'n gorlifo ac yn peri trafferthion i gerddwyr sy'n defnyddio'r palmant.
  • Rhowch yr holl bapur lapio a bagiau anrheg mewn bag clir ar wahân gan gynnwys ffoil a phapur lapio sy'n cynnwys cynnyrch glityr.
  • Trefnwch gasglu'ch coeden Nadolig go iawn ar-lein o 5 Rhagfyr.

Casgliadau Gwastraff Mawr a Gwastraff Gwyrdd.

Fydd dim gwasanaethau casglu eitemau mawr na chwaith gwasanaeth dosbarthu biniau ag olwynion/biniau gwastraff bwyd yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 26 Rhagfyr. Mae hyn er mwyn i ni ddefnyddio cymaint o adnoddau â phosibl i gasglu'r holl wastraff ailgylchu rydyn ni'n ei ddisgwyl eleni. Bydd gwasanaethau arferol yn ailddechrau ddydd Llun 9 Ionawr.

Bydd y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd bob pythefnos (gan gynnwys casglu coed Nadolig 'go iawn' heb gasgliad wedi'i drefnu ar eu cyfer) yn cael ei ohirio rhwng 26 Rhagfyr a dydd Llun 16 Ionawr. Serch hynny, bydd modd i chi fynd â'ch gwastraff gwyrdd, gan gynnwys coed Nadolig go iawn (heb fag), i'ch canolfan ailgylchu leol yn y gymuned drwy gydol cyfnod yr ŵyl.

Noder: Mae modd mynd â choed Nadolig artiffisial naill ai i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned neu drefnu iddyn nhw gael eu casglu'n rhan o gasgliad Gwastraff Swmpus.

Hysbysiad Mynediad:

Gofynnwn i chi ystyried ein cerbydau casglu gwastraff a deunyddiau i'w hailgylchu wrth barcio ar y strydoedd. Sicrhewch eich bod chi'n gadael digon o le ar gyfer ein cerbydau, yn enwedig yn y strydoedd cul.