Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod mwy na £90 miliwn ar gael trwy Gynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf, sydd ar gael tan 28ain Chwefror 2023.
Mae modd i aelwydydd cymwys hawlio un taliad gwerth £200. Pwrpas yr arian yw helpu i dalu am filiau tanwydd y gaeaf, a chaiff ei dalu'n uniongyrchol i'ch cyfrif banc.
Mae'r taliad yma yn ychwanegol i'r taliad tanwydd y gaeaf gan Lywodraeth San Steffan. Bydd y taliad ar gael i bob cartref cymwys, sut bynnag y maen nhw'n talu am eu tanwydd, boed hynny, er enghraifft, ar fesurydd blaendal, trwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bil yn chwarterol ni waeth a ydyn nhw'n defnyddio tanwydd ar, neu oddi ar, y grid.
Pwy sy'n gymwys i wneud cais?
Bydd y cynllun ar gael i aelwydydd ble mae'r sawl sy'n gwneud cais, neu ei bartner, yn derbyn un o'r budd-daliadau cymwys ar unrhyw adeg rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023. Mae modd gweld canllawiau Llywodraeth Cymru yn llawn, yma.
Budd-daliadau cymwys:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant
- Credyd Pensiynau
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)
- Lwfans Gweini
- Lwfans Gofalwr*
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau/newydd
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau/newydd
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Lwfans Gweini Cyson
- Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
*Mae derbyn Lwfans Gofalwr yn cynnwys y rheiny sy'n derbyn taliad Lwfans Gofalwr a phobl sydd wedi hawlio Lwfans Gofalwr, ond oherwydd y rheolau gorgyffwrdd budd-dal, nid ydyn nhw'n ei dderbyn fel budd-dal mewn arian parod, er enghraifft, mae gyda nhw hawl sylfaenol i dderbyn Lwfans Gofalwr.
Cofrestrwch am Gymorth Tanwydd y Gaeaf
Sut a phryd y dylwn i ddisgwyl cael fy nhaliad?
Diweddariad: 27 Hydref 2022
Fis ers rhoi'r cynllun yma ar waith, mae'r Cyngor wedi talu mwy na £4.5 miliwn i drigolion, a hynny ar ffurf taliad o £200 i bron 23,000 o aelwydydd yn Rhondda Cynon Taf. Cafodd y taliadau diweddaraf eu gwneud ar 26 Hydref a byddan nhw'n cyrraedd cyfrifon banc y trigolion dan sylw erbyn dydd Gwener 28Hydref. Os ydych chi wedi cael taliad o £200, byddwch chi hefyd wedi derbyn e-bost yn cadarnhau hynny.
Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio trwy 3,500 o geisiadau pellach sydd wedi dod i law dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais, PEIDIWCH Â CHYSYLLTU Â'R CYNGOR I HOLI AM EICH ACHOS. Mae'r Cyngor yn gweithio i adolygu pob achos cyn gynted â phosib, ac fe gewch chi e-bost unwaith y bydd penderfyniad wedi'i wneud. Os oes nifer fawr o bobl yn cysylltu â'r Cyngor i holi am eu cais, mae modd i hyn beri rhagor o oedi o ran gwneud y taliadau.
Bydd aelwydydd sy'n derbyn cymorth i dalu Treth y Cyngor drwy Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor (CTRS) ar 1 Medi 2022 yn derbyn llythyr gyda chyfarwyddiadau ar sut i gofrestru'n ddiogel i er mwyn cael taliad.
Gall aelwydydd eraill sy'n derbyn cymorth drwy fudd-daliadau cymwys eraill, ond sydd ddim yn cael cymorth i dalu am eu Treth Cyngor drwy Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor, wneud cais drwy'r ffurflen ar-lein.