Skip to main content

Beth yw'r Lwfans Tai lleol

Os ydych chi'n gwneud cais am Fudd-dal tai ac rydych chi'n rhentu o landlord preifat, mae'n debygol y byddwch chi'n cael eich asesu fel hawliwr Lwfans Tai Lleol.

Yn unol â'r cynllun Lwfans Tai Lleol, mae'r mwyaf y gallwn ni ei dalu tuag at eich rhent yn cael ei bennu gan Wasanaeth y Swyddogion Rhenti. Mae'r swm ar sail nifer yr ystafelloedd sydd eu hangen ar eich teulu yn hytrach na sawl ystafell sydd yn yr adeilad, neu swm y rhent. Serch hynny, os yw'ch rhent yn llai na'r gyfradd Lwfans Tai Lleol sy'n cael ei phennu gan Wasanaeth y Swyddogion Rhenti, fydd dim modd i ni dalu swm sydd yn fwy na'r rhent.

Unwaith ein bod wedi pennu eich cyfradd Lwfans Tai Lleol, byddwn ni wedyn yn cyfrifo swm y Budd-dal byddwch chi'n ei gael. Fe wnawn ni hynny gan ystyried incwm a chyfalaf pob aelod o'ch teulu.

Sawl ystafell sydd ei angen arna i?

Mae nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen yn cael ei seilio ar sail nifer, oed a rhyw'r bobl sy'n byw yn eich cartref. Dyma sut mae cyfrifo sawl ystafell wely sydd ei hangen:

  • un ystafell wely i'r hawliwr a phartner (dros 16 oed, gan gynnwys partner o'r un rhyw)
  • un ystafell wely i berson arall 16 oed neu'n hŷn
  • un ystafell wely i unrhyw ddau o blant o'r un rhyw ac sydd dan 16 oed
  • un ystafell wely i unrhyw ddau o blant o ba bynnag rhyw sydd dan 10 oed
  • un ystafell wely i blentyn arall
  • cynhaliwr (gofalwr) dros nos sydd ddim yn byw yn y cartref
  • Os ydy'r hawliwr yn sengl ac o dan 35 oed, y categori addas ar gyfer yr adeilad ydy ystafell wely mewn llety wedi ei rannu. Mae hyn yn golygu adeilad lle mae gan yr hawliwr ei ystafell wely ei hun ond mae'n rhannu un neu ragor o ystafelloedd, er enghraifft, cegin, ystafell ymolchi, tŷ bach neu ystafell sy'n addas i fyw ynddi.

O'r 1 Ebrill 2013 bydd hawl gyda chi i gael un ystafell arall ar gyfer:

  • ystafell arall i rieni maeth, ar yr amod eu bod wedi maethu plentyn neu wedi cael eu hawdurdodi yn rhieni maeth o fewn y 52 wythnos diwethaf
  • bydd hawl gyda rhieni sydd â phlant sy'n oedolion yn y lluoedd arfog (neu'n filwyr wrth gefn) ac sy'n byw gyda nhw fel arfer (hynny yw, pan na fyddan nhw oddi cartref) i gael ystafell arall
  • bydd modd caniatáu ystafell arall os oes plentyn sy'n methu â rhannu ystafell wely oherwydd anabledd neu gyflwr meddygol, a lle mae'r Gwasanaeth Budd-daliadau yn cymeradwyo hynny
  • Myfyrwyr (Ddim yn ddibynnol) sydd i ffwrdd o'r cartref ond yn dychwelyd yn ystod y gwyliau

Cyfradd Lwfans Tai Lleol o fis Ebrill 2024

Yn anffodus, does dim modd i'r Lwfans Tai Lleol ystyried mwy na phedair ystafell wely, hyd yn oed os oes angen 5 ystafell wely, neu fwy na hynny, ar eich teulu.

Mae'r tabl isod yn dangos y Lwfans Tai Lleol wythnosol ar gyfer Rhondda Cynon Taf

Nifer yr YstafelloeddCategori: Merthyr CynonTaf Rhondda

Cyfradd Rhannu Ystafell

A

£69.04

£69.04

1 Ystafell wely

B

£100.00

£86.30

2 Ystafell wely

C

£115.07

£103.56

3 Ystafell wely

D

£126.58

£113.92

4 Ystafell wely

E

£166.85

£149.59

Os hoffech chi weld cyfradd Lwfans Tai Lleol ar gyfer blynyddoedd blaenorol, ewch i:https://lha-direct.voa.gov.uk/search.aspx

Ym mha ffordd bydda i'n derbyn y budd-dal os ydy'r Lwfans Tai Lleol yn berthnasol i mi?

Gan amlaf, bydd y budd-dal yn cael ei dalu'n uniongyrchol i chi. Bydd y budd-dal yn cael ei dalu i'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, os oes gennych chi gyfrif, neu drwy siec.

Os nad oes cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu gyda chi yn barod, byddai'n syniad da i gael un. O wneud hynny, gallwch chi drefnu talu'r rhent i'r landlord yn awtomatig drwy archeb sefydlog.

Bydd modd i chi gael cyngor ar agor a rheoli cyfrif banc gan unrhyw fanc neu gymdeithas adeiladu. Gallwch gael cyngor o sefydliadau lles, er enghraifft "Cyngor ar Bopeth."

Eich cyfrifoldeb chi ydy talu'r rhent i'r landlord. Os na fyddwch chi'n talu'ch rhent, mae'n bosibl y byddwch chi'n gorfod mynd o flaen y llys a chael eich troi allan o'r adeilad.

Oes modd talu'r budd-dal yn syth i'r landlord?

Mae eich budd-dal yn cael ei dalu i chi, ond, os ydych chi'n debygol o'i chael hi'n anodd talu'ch rhent, bydd raid i'r budd-dal gael ei dalu i'r landlord.

Os ydych chi'n poeni am reoli arian, gofynnwch i ni am gymorth. Mewn rhai achosion gallwn ni dalu'ch rhent i'r landlord.

Beth fyddai'n digwydd pe bawn i'n gwario'r budd-dal ar rywbeth gwahanol?

Mae'r budd-dal ar gyfer talu eich rhent. Pe byddech chi'n gwario'r budd-dal ar rywbeth arall, mae'n bosibl y byddai'ch landlord yn mynd â chi i'r llys, neu geisio'ch troi chi allan. Mae'n bosibl hefyd y byddech chi'n colli'ch cartref.