Skip to main content

Cymhwyso Gwaith Cymdeithasol, ôl-gymhwyso a DPP

Mae Awdurdodau Lleol Rhondda Cynon Taf a Merthyr yn cynnig cyfle i staff gael eu noddi i ymgymryd â Gradd Gofal Cymdeithasol BA gyda'r Brifysgol Agored. Mae'r Awdurdod Lleol yn talu am y radd ac yn caniatáu dau ddiwrnod astudio'r mis yn ystod pob blwyddyn academaidd.

Dysgu o bell yw'r radd yn bennaf, felly byddwch chi'n parhau i weithio yn eich swydd barhaol drwy gydol y cwrs. Serch hynny, yn eich ail a thrydedd flwyddyn, byddwch chi'n mynd ar leoliad am gyfnod o 90 diwrnod (ynghyd â 10 diwrnod astudio). Mae hyn yn golygu y byddwch chi i ffwrdd o'ch swydd barhaol am bron i chwe mis, ac felly RHAID i'ch rheolwr llinell a rheolwr y gwasanaeth gefnogi eich cais.

Meini prawf

  • Llwyddo yng nghymwyster TGAU Saesneg A Mathemateg (neu gyfwerth) – mae hyn ar gyfer pob gradd Gofal Cymdeithasol a chaiff hyn ei benderfynu gan Gofal Cymdeithasol Cymru
  • 360 awr o brofiad mewn "lleoliad gofal cymdeithasol perthnasol"
  • Wedi gweithio i Rondda Cynon Taf neu Ferthyr Tudful (gwasanaeth di-dor) am 18 mis ar adeg cyflwyno'r ffurflen gais
  • Bod mewn swydd barhaol (neu swydd a fydd yn parhau am dair blynedd – sef hyd y radd)
  • Cael cefnogaeth/ cymeradwyaeth rheolwr eich carfan a rheolwr y gwasanaeth
  • Y gallu i weithio ar lefel radd
  • Barod i ymrwymo i weithio i Rondda Cynon Taf neu Ferthyr Tudful am 3 blynedd ar ôl cymhwyso

Y broses

  • Anfon e-bost at yr holl staff gofal cymdeithasol ym mis Mawrth (gan gynnwys dolenni i gael rhagor o wybodaeth)
  • Sesiwn codi ymwybyddiaeth (mis Ebrill)
  • Cyhoeddi a dychwelyd Ffurflen Cefnogaeth gan Reolwyr Llinell a Mynegiant o Ddiddordeb (erbyn 21 Ebrill)
  • Cyhoeddi a dychwelyd ffurflenni cais (gyda thystysgrifau mathemateg a Saesneg) (diwedd mis Mai/dechrau mis Mehefin)
  • Tynnu Rhestr Fer
  • Cyfweliad banel (diwedd mis Mehefin/dechrau mis Gorffennaf)
  • Cadarnhau Ymgeiswyr Dethol a Chwblhau prosesau'r Brifysgol
  • Dechrau'r Rhaglen Radd (mis Hydref)

I ofyn cwestiwn neu gael sgwrs am nawdd yn Rhondda Cynon Taf, e-bostiwch Lindsey Haggar (Cydlynydd Datblygu Gweithlu Myfyrwyr) Lindsey.haggar@rctcbc.gov.uk

I ofyn cwestiwn neu gael sgwrs am nawdd ym Merthyr Tudful, e-bostiwch Samantha Lee (Cydlynydd Datblygu Gweithlu Myfyrwyr) samantha.c.lee@rctcbc.gov.uk

Cyfleoedd ar ôl cymhwyso a DPP

Bydd gan bob Gweithiwr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso yng Nghwm Taf ‘Gynllun 3 Blynedd Gyntaf o Ymarfer’ a gaiff ei lunio gyda Chydlynydd Datblygu’r Gweithlu, eu Rheolwr Carfan a nhw eu hunan i dynnu sylw at unrhyw anghenion cymorth a hyfforddiant. Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar oruchwylio, rheoli llwyth gwaith, adborth a hyfforddiant. Bydd y cynllun yma'n cael ei adolygu ymhen 6 mis ac unwaith eto ar ôl blwyddyn, gan drafod cynnydd y gweithiwr sydd newydd gymhwyso yn eu Hawdurdod Lleol ac amlygu’r holl anghenion Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus (DAPP) a sut i’w cyflawni.

Bydd gan bob Gweithiwr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso fynediad at galendr hyfforddi llawn Cwm Taf lle gallan nhw nodi a mynychu hyfforddiant a fydd yn cefnogi eu datblygiad yn eu rôl. Bydd hyn yn cynnwys y 4 cwrs gorfodol sydd eu hangen i gwblhau'r Rhaglen Gryfhau. Mae modd iddyn nhw gael eu mentora gan Gydlynydd Datblygu'r Gweithlu i ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth, yn ôl yr angen.

Yn ogystal â hyn, bydd Cydlynydd Datblygu'r Gweithlu yn hwyluso gweithdai ar les a datblygiad i gefnogi gweithwyr cymdeithasol yn eu rôl newydd. Mae’r pynciau hyd yma wedi cynnwys Cadw’n Ddiogel, Moesau’r Llys, Gweithio gyda theuluoedd nad ydyn nhw'n Cydymffurfio a ‘We Are Not Robots’. Mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd gyda’r Gwasanaethau i Blant i greu model cymorth ar gyfer gweithwyr cymdeithasol yn eu blwyddyn gyntaf a fydd yn cael ei gyflwyno ledled Cwm Taf.

Ar ôl blwyddyn o ymarfer, mae modd ystyried gweithwyr sydd newydd gymhwyso sydd wedi cwblhau’r 4 cwrs gorfodol ar gyfer Rhaglen Gryfhau'r brifysgol, sy’n ofynnol gan Gofal Cymdeithasol Cymru er mwyn ailgofrestru. Bydd cydlynydd Datblygu'r Gweithlu yn ariannu ac yn cynnig cymorth ar gyfer y rhaglen, yn ôl yr angen.

I ofyn cwestiwn neu gael sgwrs am nawdd yn Rhondda Cynon Taf, e-bostiwch Lindsey Haggar (Cydlynydd Datblygu Gweithlu Myfyrwyr) Lindsey.haggar@rctcbc.gov.uk

I ofyn cwestiwn neu gael sgwrs am nawdd ym Merthyr Tudful, e-bostiwch Samantha Leer (Cydlynydd Datblygu Gweithlu Myfyrwyr) samantha.c.lee@rctcbc.gov.uk