Skip to main content

Gofalu am eich iechyd meddwl

Mae argyfwng cenedlaethol y Coronafeirws wedi effeithio ar y ffordd mae llawer ohonon ni'n byw ein bywydau ac mae'n beth normal, ac i’w ddisgwyl, bod y cyfnod digynsail yma wedi effeithio ar iechyd meddwl a lles pobl.

Mae amrywiaeth enfawr o sefydliadau sydd wedi ymroi i helpu i'ch cefnogi chi gyda'ch trafferthion o ran iechyd meddwl a lles, ac mae gan lawer wybodaeth benodol am y ffyrdd i ofalu am eu hiechyd meddwl yn ystod argyfwng cenedlaethol y Coronafeirws.

Meddyg Teulu lleol

Efallai mai eich Meddyg Teulu yw'r person cyntaf y byddwch chi'n siarad ag ef am eich problemau iechyd meddwl.  Os oes gennych chi berthynas dda gyda'ch meddyg, efallai y byddwch chi'n ei chael yn ddefnyddiol i wybod bod rhywun ar gael i chi siarad ag ef am y teimladau sydd gyda chi. Gall eich meddyg teulu eich cyfeirio at wasanaethau arbenigol os bydd yn teimlo y byddai hynny o gymorth i chi.

Os ydych chi'n anhapus gyda'ch meddyg eich hun, mae modd i chi ofyn am weld meddyg arall yn yr un practis neu wneud apwyntiad gyda meddygfa wahanol yn eich ardal leol.

Mind

Elusen genedlaethol sy'n rhoi cyngor a chymorth i rymuso unrhyw un sy'n profi problem sy'n ymwneud ag iechyd meddwl. Mae'n darparu ystod eang o wybodaeth am gymorth a chyngor sy'n ymwneud ag iechyd meddwl.

Y Sefydliad Iechyd Meddwl

Elusen genedlaethol sy'n arbenigo mewn ymchwil a datblygu polisi, gyda ffocws ar atal problemau iechyd meddwl. Mae ganddi amrywiaeth o gynnwys wedi'i gynllunio i roi rhagor o wybodaeth i chi am iechyd meddwl ac i'ch helpu i ofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles

C.A.L.L.

Elusen Gymreig sy'n darparu gwasanaeth gwrando a chymorth cyfrinachol i unrhyw un sy'n cael trafferth gyda'i iechyd meddwl.  Mae eu llinell gymorth ar agor 24/7 ac mae cyfeiriadur ar eu gwefan â chysylltiadau i amrywiaeth enfawr o wasanaethau cymorth sy'n ymwneud ag iechyd meddwl.

Y Samariaid

Elusen genedlaethol sy'n rhoi cymorth i unrhyw un sydd mewn trallod emosiynol, sy'n ei chael yn anodd ymdopi, sydd agored i ladd ei hunan, a'r rhai sy'n poeni am les eraill.  Mae ganddi wasanaeth llinell gymorth sydd ar gael 24/7 sy'n ymwneud â gweithio gyda phobl i greu man diogel lle ma modd i bobl siarad am yr hyn sy'n digwydd, sut maen nhw'n teimlo a helpu pobl i ddod o hyd i ffyrdd er mwyn gwella tua'r dyfodol.

Ymgyrch yn erbyn Byw yn Druenus (CALM) 

Mae CALM yn ymgyrch sy'n arwain symudiad yn erbyn hunanladdiad, ac yn rhedeg llinell gymorth a sgwrs ar-lein gyfrinachol am ddim – 7 awr y dydd (5pm-hanner nos), 7 diwrnod yr wythnos i unrhyw un sydd angen siarad am broblemau bywyd.  Mae CALM hefyd yn cefnogi'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan rhywun arall yn cyflawni hunanladdiad.

Cymorth i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Mae'r Samariaid wedi lansio llinell cymorth lles newydd ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.  Os ydych chi’n cael trafferth i ymdopi neu eisiau siarad, mae'r Samariaid yno i chi yn ystod argyfwng y Coronafeirws yng Nghymru.  Mae modd i chi eu ffonio am ddim ar y rhifau isod:

  • 0800 484 0555 (llinell Saesneg - ar agor bob dydd rhwng 7am a 11pm)
  • 0808 164 2777 (llinell Gymraeg - ar agor bob nos rhwng 7pm a 11pm)

Canolfan Cymorth Cymunedol Cwm Taf Morgannwg

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi creu tudalen i'ch cyfeirio chi at y cymorth sydd ar gael yn ardal Cwm Taf Morgannwg, ac mae'n rhoi manylion am sefydliadau sydd â'r modd i roi cymorth i breswylwyr ar lefel fwy lleol.  

Interlink

Mae Interlink yn gweithio gyda Grwpiau Cymorth Cymunedol, Gwirfoddolwyr ac Unigolion i gynnig cymorth ar draws RhCT, ac wedi paratoi rhestr o wasanaethau iechyd a lles y mae modd i breswylwyr fanteisio arnyn nhw.

MentalHealthSupport.co.uk 

Gwefan sydd wedi ymroi i gefnogi eich iechyd meddwl a'ch lles.  Mae'r safle'n darparu cyfeiriadur helaeth o wasanaethau cymorth sydd ar gael i helpu preswylwyr gyda phopeth o ymwybyddiaeth ofalgar i gam-drin domestig, cefnogaeth cyn-filwyr i argyfyngau personol.