Skip to main content

Datganiad Cydgomisiynu ar gyfer Gwasanaethau i Bobl Hŷn 2015 – 2025

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol
Merthyr Tudful, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a'r Cynghorau Sir
Gwirfoddol, Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (GGMT) ac Interlink, hanes
cryf o weithio mewn partneriaeth ar draws ystod o feysydd gwasanaeth.  Pe
bydden ni'n cydlynu ac yn cyfuno ein gwasanaethau mewn modd effeithiol, gallen
ni sicrhau bod y gofal cywir yn cael ei ddarparu yn y lle iawn ac ar yr adeg
iawn.

Mae'r materion sy'n wynebu pobl hŷn yn gymhleth ac yn gydgysylltiedig. Maen nhw'n gofyn am ymateb cydgysylltiedig ar draws yr holl sefydliadau, sy'n cyfuno a chanolbwyntio ymdrechion amryw o ddarparwyr gwasanaeth, i osgoi bylchau neu ddyblygu, a sicrhau'r effaith fwyaf.

Yn 2015, cafodd aelodau o'r cyhoedd a'n rhanddeiliaid eu gwahodd i gyflwyno sylwadau ar y Datganiad Cydgomisiynu ar gyfer Gwasanaethau i Bobl Hŷn yng Nghwm Taf (drafft).  Mae'r Datganiad yn disgrifio ein model gwasanaeth arfaethedig ar gyfer pobl hŷn ac yn nodi sut y bydd y Bwrdd Iechyd a'r Cynghorau naill ai'n darparu neu'n caffael gwasanaethau gan y Trydydd Sector, y sector annibynnol neu fentrau cymdeithasol.

Mae'r Datganiad Cydgomisiynu yn disgrifio ymrwymiad cryf sydd wedi'i rannu gan y Bwrdd Iechyd a'r Cyngor i sicrhau gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig a di-dor ar gyfer ein poblogaeth hŷn. Mae'r sefydliadau comisiynu hefyd yn cydnabod rhan werthfawr iawn y Trydydd Sector ac maen nhw wedi datblygu ein datganiad comisiynu gyda'r ymdeimlad estynedig yma o bartneriaeth mewn cof.

Mae'r partneriaid yn rhannu gweledigaeth glir i drawsnewid y ffordd rydyn ni'n cefnogi pobl i fyw bywydau annibynnol, iach a chyflawn.  Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n:  

  • Integredig, yn gysylltiedig ac yn ddi-dor
  • Canolbwyntio ar atal, hunanreolaeth ac ail-alluogi
  • Ymatebol ac yn cael eu darparu’n lleol yn y llefydd iawn, ar yr adeg iawn, a gan y bobl iawn
  • Diogel, yn gynaliadwy ac yn effeithiol o ran cost 

Bydd hyn yn: 

  • Hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ac yn atal afiechyd
  • Hyrwyddo annibyniaeth ac yn amddiffyn pobl fregus
  • Gwella gwasanaethau a chydweithio