Skip to main content

Taliad Ychwanegol Gofal Cymdeithasol

Mae'r taliad ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yn cydfynd â chyflwyniad cyflog byw gwirioneddol ac yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau gwelliannau i ddatblygiad proffesiynol gweithwyr gofal cofrestredig mewn cartrefi gofal a gweithwyr sy'n darparu gofal yng nghartrefi'r cleifion.

Ar 10 Chwefror 2022 cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn derbyn taliad ychwanegol gwerth £1,498: Datganiad Ysgrifenedig: Taliad ychwanegol i staff gofal cymdeithasol ynghyd â'r Cyflog Byw Gwirioneddol | LLYW.CYMRU

Bydd y swm yma'n ddigon i dalu cyfradd sylfaenol o drethi a chyfraniadau yswiriant gwladol wedi didyniadau. Bydd y rhan fwyaf o weithwyr yn derbyn £1,000.

Bydd gweithwyr gofal cymdeithasol sydd wedi'u cyflogi mewn swydd gymwys* ar 31 Mawrth 2022 a'r rheini sydd wedi dechrau mewn swydd gymwys rhwng 1 Ebrill 2022 a 30 Mehefin 2022* yn derbyn taliad. Mae Telerau ac Amodau'n berthnasol.

Os ydych chi wedi'ch cyflogi'n rhan o'r Sector Gofal Cymdeithasol ac yn credu eich bod chi'n gymwys i hawlio'r taliad yma, cysylltwch â'ch cyflogwr. Bydd eich cyflogwr yn penderfynu a ydych chi'n gymwys neu beidio. Mae'n rhaid ichi lenwi ffurflen gais a'i chyflwyno i'ch cyflogwr.

Os ydych chi wedi'ch cyflogi'n Gynorthwyydd Personol trwy Gynllun Taliadau Uniongyrchol, mae'n RHAID i chi lenwi ffurflen gais a'i chyflwyno i'ch cyflogwr er mwyn iddyn nhw wneud cais i'r Awdurdod Lleol.

Sut mae'r cynllun yn gweithio

Bydd Awdurdodau Lleol yn rhannu ffurflenni cais â chyflogwyr gofal cymdeithasol. Bydd cyflogwyr yn nodi'r gweithwyr cymwys ac yn rhannu'r ffurflenni cais. Fydd ffurflenni cais ddim ar gael unrhyw ffordd arall. Dylai unigolion ddweud wrth eu cyflogwyr/cyn-gyflogwr am bryderon ynglŷn ag unrhyw agwedd o'r broses yma er mwyn i'r cyflogwr gysylltu â'r Awdurdod Lleol.                           

Darllenwch holl fanylion y cynllun ar-lein er mwyn deall sut bydd y cynllun yn gweithio, gan gynnwys cymhwysedd, effaith ar unrhyw fuddion lles rydych chi'n eu derbyn ac unrhyw eithriadau.

Gweithdrefn Cyflwyno Apêl

Os ydych chi wedi clywed nad ydych chi'n gymwys i dderbyn y taliad ond rydych chi o'r farn eich bod yn bodloni'r meini prawf, mae modd i chi apelio drwy broses apelio. Darllenwch ganllaw y broses apelio sy'n esbonio sut i ddechrau'r broses apelio trwy'r Cyngor.

Ydych chi o'r farn eich bod yn bodloni’r meini prawf ond mae'ch cyflogwr wedi nodi dydych chi ddim yn gymwys i gael y taliad? Cewch ofyn i'r Cyngor ailystyried eich hawl gan ddefnyddio Ffurflen Apelio – Cynllun Taliadau Ychwanegol Llywodraeth Cymru

E-bostiwch unrhyw geisiadau i'w hailystyried i RLWSCP@rctcbc.gov.uk neu postiwch nhw i; Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyllid a Gwasanaethau Digidol, Oldway House, Stryd y Porth, Porth, Cwm Rhondda, CF39 9ST.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau penodol o ran cymhwysedd ar gyfer y cynllun, cysylltwch â'ch cyflogwr.

Os ydych chi'n gyflogwr yn Rhondda Cynon Taf ac yn dymuno gwneud cais neu eisiau rhagor o wybodaeth am y cynllun, e-bostiwch RLWSCWP@rctcbc.gov.uk. Dyma gyfeiriad e-bost i weithwyr yn unig.