Skip to main content

Moderneiddio Gofal Preswyl a Gofal Oriau Dydd

Yr wythnos nesaf, bydd Cabinet y Cyngor yn trafod argymhellion ar gyfer darparu gwasanaethau preswyl a gofal oriau dydd yn y dyfodol.

Bydd y Cabinet yn trafod yr adborth mae wedi'i dderbyn drwy’r ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos a gafodd ei gynnal yn gynharach eleni ac ystyriaethau diweddar Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor.

Mae adroddiad i'r Cabinet ddydd Mercher, 11 Medi, yn argymell pa gartrefi Gofal y dylai'r Cyngor eu cadw a buddsoddi ynddyn nhw, ochr yn ochr â buddsoddiad mewn darpariaeth Gofal Ychwanegol. Os bydd hyn yn cael ei gytuno, bydd y Cyngor yn cychwyn ymgynghoriad 12 wythnos arall yr hydref yma.

Cynigion Allweddol:

Mae argymhellion Swyddogion i'w hystyried gan y Cabinet yn cynnwys:

  • Bod yr awdurdod lleol yn parhau i arwain wrth ddarparu gofal preswyl yn RhCT.
  • Er bod y cynigion yma'n cynnwys cynlluniau i ddadgomisiynu rhai cartrefi gofal, mae'r mwyafrif o'r cartrefi sy'n dod o dan arweinyddiaeth awdurdodau lleol yn cael eu cadw. Mae cyfle hefyd i sicrhau bod cyfleusterau gofal ychwanegol mwy yn cael eu rheoli gan weithlu profiadol a gwerthfawr yr awdurdod lleol.
  • Mae'r argymhellion yn sicrhau bod mynediad lleol at ddarpariaeth fewnol ar gael i bawb sy'n ei ddewis ledled y Fwrdeistref Sirol.
  • Mae'r ymgynghoriad yn dangos bod cefnogaeth glir i'r Cyngor ganolbwyntio ar ddarparu ystod well o wasanaethau i'r trigolion hynny ag anghenion mwy cymhleth.
  • Mae'r adroddiad hefyd yn argymell bod yr Aelodau'n cytuno i ddatblygu model gwasanaethau oriau dydd newydd.
  • Mae darparu gwell cyfleusterau gofal ar gyfer cenhedlaeth newydd o bobl hŷn, trwy gymryd camau rhagweithiol nawr i ymateb i anghenion y dyfodol, yn hanfodol ar gyfer y cynigion.
  • Mae gan y cynigion yma'r potensial i wneud y mwyaf o'r cyfle i genedlaethau hŷn fyw'n annibynnol cyhyd ag y bo modd.
  • Os bydd y Cabinet yn cytuno ar argymhellion y Swyddogion, bydd y Cyngor yn cychwyn ymgynghoriad 12 wythnos arall yr hydref yma, gan roi cyfle arall i staff a thrigolion roi eu barn.
  • Mae'r adroddiad yn nodi'n glir dydy hi ddim yn bosibl i'r Cyngor ymateb i heriau'r dyfodol na diwallu anghenion a disgwyliadau cenedlaethau hŷn y dyfodol gyda'n trefniadau presenol ar gyfer gofal preswyl.
  • Mae'n cael ei gynnig, pe bai unrhyw gartref / cartrefi yn cael eu digomisiynu, byddai hyn yn cael ei wneud fesul cam, yn dibynnu ar amgylchiadau unigol. Bydd yr amgylchiadau yma'n cynnwys os oes llety amgen ar gael neu os bydd cyfleusterau gofal ychwanegol newydd yn agor.
  • Mae modd gweld manylion llawn y cynigion sy'n cael eu hystyried gan Gabinet y Cyngor yn www.rctcbc.gov.uk o 5pm ddydd Mawrth 3 Medi.

Y Cabinet yn cytuno ar ymgynghoriad pellach ar yr opsiynau ar gyfer gofal preswyl (Medi 11, 2019)

Moderneiddio Gofal Preswyl A Gofal Oriau Dydd Ar Gyfer Pobl Hŷn (PDF - 1.64 mb)

Hysbysiad o’r Penderfyniadau

Moderneiddio Gofal Preswyl A Gofal Oriau Dydd Ar Gyfer Pobl Hŷn (PDF - 76kb)

Map-WELSH