Skip to main content

Gofal hosbis i Oedolion

Mae hosbisau'n darparu gofal yn arbennig ar gyfer pobl sydd â salwch terfynol, ac yn rhoi cymorth i'w cynhalwyr yn yr hosbis ac yn y cartref.

Mae mynediad yn cael ei drefnu drwy'ch meddyg neu ymgynghorydd ysbyty. Mae rhai cartrefi nyrsio preifat a chartrefi gorffwys yn arbenigo yn y gofal o bobl sydd â salwch terfynol. Gall eich meddyg neu'ch ymgynghorydd ysbyty roi gwybodaeth i chi am eich hosbisau lleol ac unedau arbenigol i gleifion mewnol.

Fel arall, mae'r adran gwasanaeth gwybodaeth am hosbisau, ar y wefan 'Help the Hospices' yn darparu gwybodaeth a gwasanaeth ymholiadau i helpu cleifion, eu teuluoedd a'u cynhalwyr i gael y gwasanaethau priodol.

http://www.togetherforshortlives.org.uk/Families