Skip to main content

Astudiaeth Achos - Jonathan Spencer

JohnathanDechreuodd Jonathan wirfoddoli gyda rhaglen “Gwirfoddolwyr Eiddo a Chymunedau” Trivallis. Bu’n gwirfoddoli am bron i ddeufi s, cyn cael ei enwebu ar gyfer rhaglen hyfforddi Camu i’r Cyfeiriad Cywir. Llwyddodd i gael cytundeb dwy fl ynedd yn rhan o’r rhaglen hyfforddi.

Mynegodd Jonathan ddiddordeb mewn gweithio gydag oedolion ag anableddau gan fod ganddo brofi ad yn y maes yn barod, gan ei fod wedi cefnogi aelod o’i deulu.

Cafodd lleoliad gwaith ei drefnu iddo yng Nghanolfan Learning Curve Aberaman, ond roedd Jonathan mor awyddus i ddechrau, aeth yno i wirfoddoli cyn i’w gyfnod gwaith ddechrau.

Mae Jonathan wedi gosod enghraifft ddisglair o ran swyddi dan hyfforddiant, ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Mae wedi parhau gyda’r cytundeb llawn amser, a dyw e heb gymryd diwrnod o salwch ers dechrau yno. Dechreuodd ei gymhwyster Sefydlu ym maes Gofal Cymdeithasol drwy rannu ei swydd dan hyfforddiant rhwng tri lleoliad gwaith
gwahanol (Maesnewydd, Aberaman a’r Gadlys).

Mae Jonathan yn brydlon, yn frwdfrydig ac wedi meithrin perthnasau gwaith gwych â’i gyfoedion ac unigolion eraill. Mae ganddo enw da o fewn yr awdurdod ac mae pawb yn hoff iawn ohono fe.

Mae Jonathan yn awyddus i barhau i weithio gydag oedolion ag anableddau, a sicrhaodd swydd achlysurol yng nghanolfan Learning Curve y Gadlys.