Skip to main content

Cau Ffordd Mynydd y Rhigos - Cwestiynau Cyffredin

Bydd yr A4061 Ffordd Mynydd y Rhigos yn cau o 22 Gorffennaf hyd ddiwedd Hydref 2024 er mwyn mynd ati i atgyweirio difrod ar ochr y mynydd a gafodd ei achosi gan dân mawr, a hynny mewn modd diogel. Gweler eitem newyddion y Cyngor sy'n esbonio rhagor o fanylion ar y ddolen yma, tra bod yr adran Cwestiynau Cyffredin yma'n rhoi rhai ymatebion allweddol i ymholiadau cyffredin.

Pam does dim modd i'r ffordd barhau i fod ar agor i draffig yn ystod y gwaith?

Rhaid cau'r ffordd o ganlyniad i natur gymhleth y gwaith ac i liniaru'r peryglon i ddefnyddwyr y ffordd yn ystod y gwaith. Mae'r ffordd o led cyfyngedig ac mae angen offer mynediad arbenigol a pheiriannau trwm ar y contractwr. Mae rhai o’r blociau a fydd yn cael eu hangori yn pwyso hyd at 50 tunnell, ac mae risg bosibl hefyd y bydd malurion yn disgyn ar y ffordd islaw.

Pam does dim modd i'r gwaith gael ei wneud dros nos?

Nid oes modd gwneud y gwaith dros nos, yn gyfan gwbl nac yn rhannol, o ganlyniad i natur gymhleth y gwaith i adfer y llethr creigiog. Rhaid cyflawni’r gwaith yn ystod oriau dydd i ddarparu amodau diogel ar gyfer y gweithlu i weithredu peirianneg drom a chael mynediad â rhaff at y wyneb creigiog eang a rhwydi ar y creigiau.

Rydw i wedi gweld mewn mannau eraill y bydd y ffordd ar gau tan fis Rhagfyr, ydy hyn yn wir?

Gallwn gadarnhau bod y cynllun i fod i gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Hydref 2024. Mae'r hysbysiad cau'r ffordd yn caniatáu cyfnod hirach o amser ar gyfer y gwaith (hyd at fis Rhagfyr 2024) rhag ofn y bydd unrhyw oedi, sy'n arfer cyffredin.

Beth am darfu ar deithiau i Ysbyty'r Tywysog Siarl?

Mae'r Cyngor yn deall pa mor aflonyddgar yw'r gwaith. Serch hynny, gallai methu â chyflawni'r mesurau yma yn awr olygu fydd y ffordd yma ddim ar gael am gyfnod hwy/amhenodol yn y pen draw. Bydd eich gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn eich cynghori chi ar sut i gael mynediad at y gwasanaethau sydd fwyaf priodol ar eich cyfer chi.

Beth am fynediad i wasanaethau brys?

Nid oes modd cynnal mynediad ar gyfer cerbydau argyfwng, ac mae'r Cyngor wedi ymgynghori â'r gwasanaethau perthnasol sydd wedi rhoi mesuriadau lliniarol ar waith. Gallai methu â chyflawni'r mesurau yma yn awr olygu na fydd y llwybr yma ar gael am gyfnod hwy/amhenodol yn y pen draw.

Pam fod y gwaith yn cael ei wneud yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Mhontypridd fis Awst eleni?

Oherwydd y lleoliad daearyddol a'r ffaith fod llwybrau eraill ar gael, nid yw'n cael ei ystyried yn debygol y bydd cau Ffordd Mynydd y Rhigos yn cael effaith sylweddol gan draffig yr Eisteddfod. Mae'r dyddiadau wedi'u cynllunio i gynnwys y lefelau traffig hanesyddol is sy'n digwydd yn ystod gwyliau haf yr ysgol ac i leihau'r amhariad ar y ddarpariaeth cludiant o'r cartref i'r ysgol cyn belled ag y bo modd.

Sut bydd cludiant o'r cartref i'r ysgol yn cael ei effeithio?

Ymgynghorwyd â charfan Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor ar gyfer y cyfnod gwaith y tu hwnt i fis Medi 2024, ac mae trefniadau amgen yn cael eu rhoi ar waith gydag ysgolion lleol. Mae'r Cyngor yn deall pa mor aflonyddgar yw'r gwaith. Serch hynny, gallai methu â chyflawni'r mesurau yma yn awr olygu fydd y ffordd yma ddim ar gael am gyfnod hwy/amhenodol yn y pen draw.

Sut byddwch chi'n mynd i'r afael â thraffig ychwanegol yn teithio drwy gymunedau cyfagos?

Mae llwybr y gwyriad yn defnyddio ffyrdd sydd o'r un dosbarthiad â'r A4061. Gan ddibynnu ar eu cyrchfan, rhagwelir y bydd modurwyr yn defnyddio amrywiaeth o'r llwybrau sydd ar gael. Mae'r llwybrau hyn eisoes yn briffyrdd prysur ac ni ragwelir y bydd y Cyngor yn cyflwyno cyfyngiadau ychwanegol a fyddai'n rhoi trigolion lleol yn y cymunedau eraill yma dan anfantais.

 

Pa waith sydd wedi'i wneud ers i'r tân ddigwydd yn haf 2022?

Bu llawer o weithgarwch ers y tân i wneud yr ardal yn ddiogel a pharatoi'r prif gynllun. Roedd y gwaith brys wedi golygu bod modd i’r ffordd agor gyda goleuadau traffig dros dro - gan atgyfeirio cerbydau i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf peryglus lle mae rhwydi'n atal creigiau rhag cwympo. Cynhaliwyd archwiliad mawr yn haf 2023, ynghyd â gwaith atgyweirio brys ychwanegol i’r rhwydi creigiau yn hydref 2023 i gael gwared ar groniad o gerrig mawr a oedd wedi cwympo o wyneb y graig. Mae'r prif gynllun wedi cael ei baratoi, gan ddefnyddio data arolwg i greu model o'r llethrau, ac efelychiad o gwympiadau creigiau posibl i ddylunio datrysiad sy'n lliniaru'r risg i ddefnyddwyr y ffordd.

Pam does dim modd gadael y rhwydi dros dro yn eu lle a gosod rhwydi parhaol drostyn nhw – i leihau’r cyfnod pan mae angen cau'r ffordd?

Mae'r gwaith yma'n cynnwys ardaloedd o fewn y rhwydi dros dro presennol, a hefyd ardaloedd eraill o risg uchel ar lethr y graig. Fyddai gadael y rhwydi yn eu lle ddim yn newid hyd y rhaglen yn sylweddol.

A fydd mynediad i gerddwyr a/neu feicwyr?

Bydd yr hawl tramwy cyhoeddus o dan yr A4061 Ffordd Mynydd y Rhigos yn parhau i fod ar agor i gerddwyr profiadol, ond nid yw'r llwybr yma'n addas i feicwyr.

Rhigos Mountain Road Damage

Rhigos Mountain Road Repair