Skip to main content

Cynigion i ddatblygu pedwaredd Ardal Gwella Busnes Rhondda Cynon Taf

Tonypandy Town Centre - Copy 2

Bydd cynigion i ddatblygu Ardal Gwella Busnes (AGB) yn Nhonypandy yn symud ymlaen i'r cam nesaf yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet. Byddai AGB yn sefydlu model ariannu i gefnogi buddsoddiad a chyfleoedd datblygu yn y dref, gyda’r holl waith wedi’i arwain gan fewnbwn busnesau lleol.

Ardal lle mae masnachwyr yn talu i mewn i ardoll sy’n gysylltiedig â’u trethi busnes yw AGB. Mae’r ardoll yma’n gweithredu fel cronfa a rennir y mae modd ei defnyddio ar gyfer prosiectau yng nghanol y dref Mae’r AGB hefyd yn manteisio ar lwybrau cyllid eraill i gefnogi'r gwaith yma. Mae yna 14 AGB yng Nghymru, mae tair ohonynt yn gweithredu'n llwyddiannus yn nhrefi Rhondda Cynon Taf - Your Pontypridd, Our Aberdare, a Love Treorchy.

Er bod Tonypandy, yn yr un modd â chanol trefi eraill, wedi'i heffeithio gan y pandemig a'r sefyllfa economaidd heriol, byddai defnyddio’r dull buddsoddi cywir yn cynnig cyfleoedd i sicrhau dyfodol cynaliadwy - byddai modd cefnogi hyn drwy sefydlu AGB.

Roedd adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Mercher 17 Gorffennaf yn cynnwys manylion am y cynnig i sefydlu AGB yn Nhonypandy, ac yn ceisio cymeradwyaeth i wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru, trwy'r Gronfa Trawsnewid Trefi er mwyn datblygu'r broses o'i sefydlu. Roedd hyn yn cynnwys gwaith cychwynnol megis y camau datblygu, ymgyrchu a’r broses bleidleisio.

Fel arfer, caiff camau pleidleisio AGB eu rheoli gan Gynghorau. Byddai’r cynnig yn llwyddiannus pe byddai mwy na 50% o fusnesau sy'n pleidleisio yn cefnogi'r AGB, a phe byddai mwy na 50% o'r gwerth ardrethol cyffredinol yn cael ei gyflawni. Bydd yr AGB yn cael ei weithredu gan gynrychiolwyr o'r sector breifat am hyd at bum mlynedd. Yna bydd modd ei weithredu am bum mlynedd arall. Byddai angen cynnal pleidlais newydd er mwyn gweithredu am gyfnod hirach. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi y bydd Tonypandy'n cael budd o ddatblygu model sy’n debyg i’r hyn sydd ar waith yn ardal Treorci, gan ystyried y swm y gallai ei godi.

Cynhaliwyd astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer AGB Tonypandy ar ddiwedd 2023, gan gynnal cyfweliadau â 56 o fusnesau yn yr ardal fanwerthu sylfaenol. Roedd 68% o'r cyfranogwyr yn credu y dylai'r cynnig symud ymlaen i'r cam pleidleisio, a dywedodd 22% y byddai ganddyn nhw ddiddordeb mewn ymgymryd â rôl arwain yn rhan o’r AGB. Cyflwynodd y busnesau awgrymiadau ar gyfer yr hyn y gallai rhaglen AGB bosibl ganolbwyntio arno - o wella'r ddarpariaeth TCC i gyflwyno gwasanaeth wardeiniaid stryd, lobïo ar gyfer gwasanaethau bws, ac ehangu rhaglen achlysuron y dref.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cydnabod y cyfraniad cadarnhaol y gall AGBau ei wneud wrth sefydlu canol trefi bywiog, ac maen nhw wedi gwahodd ceisiadau am gyllid ar gyfer y camau datblygu cychwynnol yn rhan o’i Chronfa Trawsnewid Trefi. Byddai angen arian cyfatebol gwerth 25% gan y Cyngor ar gyfer unrhyw gais llwyddiannus i'r Gronfa Trawsnewid Trefi - byddai hyn yn cael ei gyflawni gan ddefnyddio adnoddau presennol.

Diben yr amserlen arfaethedig yw profi bod y bleidlais sydd wedi'i chynnig yn cael ei chynnal yn ystod blwyddyn ariannol 2024/25. Os yw’r bleidlais yn llwyddiannus, bydd yr AGB yn weithredol o fis Ebrill 2025.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: "Mae Ardaloedd Gwella Busnes yn fecanweithiau cydnabyddedig sy’n cael eu defnyddio i ddod â busnesau lleol at ei gilydd gyda'r nod cyffredin o wella ardaloedd manwerthu a gwella eu cynaliadwyedd. Rydym wedi gweld pa mor effeithiol y mae modd iddyn nhw fod ar draws y tri AGB llwyddiannus sy'n gweithredu ar hyn o bryd yn Rhondda Cynon Taf - ym Mhontypridd, Aberdâr a Threorci.

"O edrych ar yr astudiaeth ddichonoldeb gyda 56 o fusnesau, mae swyddogion o'r farn bod awydd lleol i sefydlu AGB yn Nhonypandy, ac y byddai AGB yn bosibl  ac o fudd i'r ardal. Mae gan y dref Siambr Fasnach uchelgeisiol sy’n bwriadu sicrhau rhagor o arian a chyllid, ac ystyrir y byddai modd i AGB sefydlu model ar gyfer buddsoddi, datblygu a thwf yn y dyfodol.

"Ddydd Mercher, fe wnaeth Aelodau'r Cabinet gefnogi’r cynnig i symud ymlaen i gam nesaf y broses - sef datblygu'r AGB ymhellach a chyflwyno cais i'r Gronfa Trawsnewid Trefi i gefnogi camau datblygu cychwynnol y broses. Os bydd y cais am gyllid yn llwyddiannus, yna byddai tasg caffael yn cael ei datblygu er mwyn penodi ymgynghorwyr i gynnull grŵp llywio a threfnu pleidlais a chamau dilynol y broses ddatblygu. Bydd y Cyngor yn rhannu’r newyddion diweddaraf am y camau allweddol â thrigolion  maes o law."

Wedi ei bostio ar 23/07/2024