Dyma roi gwybod i'r rheiny sy'n defnyddio Gorsaf Drenau Ystrad Cwm Rhondda na fydd modd defnyddio pont Stryd y Nant, prif bont droed yr orsaf, o'r wythnos nesaf ymlaen er mwyn cwblhau gwaith contract. Bydd cyfres o fesurau dros dro ar waith er mwyn helpu cerddwyr i gael mynediad i blatfformau'r orsaf a gwasanaethau trên lleol.
Mae'r bont droed fawr sy'n cysylltu Clos Nantgwyddon a Stryd y Nant yn darparu cyswllt allweddol i'r gymuned, ond mae'r hen strwythur wedi cyrraedd diwedd ei oes. Yn dilyn cynllun sylweddol wedi'i ariannu gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru, cafodd y bont droed newydd ei hagor y llynedd.
Yn rhan o gam olaf y gwaith mewn perthynas â'r cynllun, ac yn dilyn cyfnod archwilio, mae'n ofynnol i gontractwr y Cyngor gynnal gwaith gosod wyneb pellach ar lawr y bont. Bydd y gwaith yma'n cael ei gynnal heb unrhyw gost ychwanegol i'r Cyngor, ac yn cael ei gwblhau cyn trosglwyddo'r strwythur yn ôl i'r Cyngor.
Bydd contractwr y Cyngor hefyd yn achub ar y cyfle i gwblhau gwaith arall dros yr wythnosau nesaf, a hynny yn ystod y cyfnod pan fo'r bont droed ar gau. Bydd hyn yn cynnwys gwaith ar blatiau'r dec a'r canllawiau, yn ogystal â gwaith paentio.
Er mwyn cynnal y gwaith hanfodol i osod wyneb newydd, bydd angen cau pont droed Stryd y Nant yn ei chyfanrwydd o ddydd Llun, 12 Awst, er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd. Bydd maes parcio Gorsaf Drenau Ystrad Cwm Rhondda ar gau dros dro er mwyn ei ddefnyddio'n fan i gadw offer gwaith y contractwr. Rydyn ni'n disgwyl i'r gwaith bara tua mis.
Bydd trefniadau dros dro i gerddwyr yn cael eu rhoi ar waith gan gontractwr y Cyngor yn ystod y gwaith. Yr unig ffordd o gael mynediad i blatfform yr orsaf drenau tua'r gogledd fydd ar hyd pont droed â grisiau. Bydd arwyddion yn nodi sut i'w chyrraedd. Bydd cyfres o drefniadau lleol yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y bobl hynny nad oes modd iddyn nhw ddefnyddio'r grisiau - gan gynnwys y rheiny sy'n defnyddio cadeiriau olwyn. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Gwasanaeth bws hygyrch AM DDIM rhwng Ystad Ddiwydiannol Gelli (o'r safle bysiau y tu allan i UPVC Windows) a Gorsaf Drenau Ystrad Cwm Rhondda (wrth gyffordd Stryd y Nant/Teras Trafalgar).
- Gwasanaeth bws hygyrch AM DDIM o Orsaf Drenau Tonpentre, gan gysylltu â Gorsaf Drenau Ystrad Cwm Rhondda a'r gwasanaeth bws dros dro yn Ystad Ddiwydiannol Gelli. Bydd hwn ar gyfer y rheiny sy'n teithio ar y trên (o gyfeiriad Caerdydd) sy'n dymuno dod oddi ar y trên yng Ngorsaf Drenau Ystrad Cwm Rhondda ond does dim modd iddyn nhw ddefnyddio llwybr mynediad â grisiau y platfform tua’r gogledd. Dylai teithwyr aros ar y trên hyd nes eu bod nhw'n cyrraedd Tonpentre ac yna defnyddio'r gwasanaeth bws am ddim yn ôl i Ystrad.
Nodwch – dim ond yn ystod oriau arferol y gwasanaethau trên lleol yng Ngorsaf Drenau Ystrad Cwm Rhondda y bydd y gwasanaethau bysiau dros dro yma ar gael.
Bydd amserlen y gwasanaeth bysiau dros dro i'w gweld ar wefan Trafnidiaeth Cymru, yma. Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau mewn perthynas â theithio neu'r rheilffyrdd, mae modd i deithwyr ffonio llinell gymorth i gwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru ar 0333 3211 202 neu ddefnyddio gwasanaeth WhatsApp ar 07790 952507. Mae modd ffonio Swyddog Cyswllt Cyhoeddus y contractwr ar 0300 041 4635 (8am - 5.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener).
Nodwch hefyd y bydd mynediad ar gael i gerddwyr i'r caeau pêl-droed cyfagos o 12 Awst ymlaen. Bydd arwyddion yn dangos y llwybr arall i'w ddefnyddio.
Bydd trigolion lleol yn derbyn llythyr sy'n nodi manylion pellach mewn perthynas â natur y gwaith, yn ogystal â'r trefniadau i gerddwyr a'r trefniadau teithio. Hoffen ni ddiolch i'r gymuned leol a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus am eu hamynedd a'u cydweithrediad wrth i'r gwaith angenrheidiol yma gael ei gwblhau dros yr wythnosau nesaf.
Wedi ei bostio ar 09/08/24