Skip to main content

Cynllun atgyweirio cwlfer i gychwyn yn Ynys-y-bwl

Mill Road culvert

Mae angen cau'r ffordd yn lleol yn Heol y Felin, Ynys-y-bwl, i wneud gwelliannau i'r cwlferi dros y pedair wythnos nesaf.

Bydd y gwaith yn cychwyn o ddydd Llun 5 Awst, i adeiladu rhaeadr carreg rwystr er mwyn cludo dŵr glaw o gwlfer uwch sydd ar arglawdd i'r sianel ddŵr islaw.

Mae'r cynllun wedi'i ddylunio i atal difrod erydu rhag digwydd yn ystod cyfnodau o law trwm.

Dyma ail gam y gwaith yn y lleoliad yma, yn dilyn leinin cwlfer ac atgyweiriadau i'r waliau a gwblhawyd y llynedd.

Mae angen cau'r ffordd yn Heol y Felin rhwng ei chyffordd â Heol y Mynach a rhif 1 Aberffrwd er mwyn cwblhau'r gwaith. Bydd llwybr amgen ar gael ar hyd Heol y Felin, Trem Hyfryd a Heol-y-Mynach.

Bydd y ffordd ar gau rhwng 9.00am a 5.00pm Dydd Llun i Ddydd Gwener - rhwng 5 Awst a 2 Medi.

Bydd mynediad i gerddwyr, ond fydd dim mynediad i gerbydau'r gwasanaethau brys.  Dylai beicwyr ddod oddi ar eu beic a defnyddio'r llwybr i gerddwyr.

Mae'r Cyngor wedi penodi Hammonds (ECS) Limited yn gontractwr i gwblhau'r gwaith.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan ddefnyddio cyllid dynodedig gan Lywodraeth Cymru i atgyweirio difrod gan Storm Dennis yn ystod 2024/25.

Diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 02/08/24