Skip to main content

Diwrnod Hawliau Cynhalwyr - Cefnogi cynhalwyr di-dâl RhCT

Carers Support Project Newsroom

Mae'r Cyngor yn cefnofi Diwrnod Hawliau Cynhalwyr (Dydd Iau, 24 Tachwedd). Byddwn ni'n cydnabod y cyfraniad sylweddol mae ein cynhalwyr di-dâl yn ei wneud i'n cymunedau, wrth i ni geisio sicrhau bod gyda nhw'r wybodaeth a’r cyngor maen nhw eu hangen.

I nodi'r diwrnod arbennig yma, rydyn ni'n cyhoeddi bod un o'n hachlysuron wyneb-yn-wyneb mwyaf poblogaidd ymysg cynhalwyr di-dâl yn dychwelyd i Rondda Cynon Taf.  

Bydd ein hachlysur arbennig yn digwydd yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant, Parc Southgate, Llantrisant, CF72 8DJ, ddydd Gwener, 25 Tachwedd rhwng 10:30am a 2:30pm.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae nifer o gynhalwyr di-dâl yn byw yn Rhondda Cynon Taf ac yn cyflawni eu cyfrifoldebau ychwanegol trwy gariad a thosturi tuag at eraill.

"Gall ceisio cydbwyso cyfrifoldebau gofalu a bywyd gwaith prysur brofi'n anodd, felly mae'r Cyngor yn edrych ymlaen at gynnal gweithdy yn ystod y dydd i gynhalwyr sy'n gweithio.

"Dyma ein cyfle i ddiolch i'r cynhalwyr di-dâl yn ein cymunedau a rhoi cymorth a gwybodaeth ychwanegol."

Cynllun Cynnal y Cynhalwyr Cyngor RhCT sydd wedi trefnu'r achlysur yma. Bydd nifer o wasanaethau lleol yn mynychu'r achlysur i gynnig gwybodaeth a chyngor i'r bobl sydd eu hangen. 

Dyma rai o'r gwasanaethau a fydd yn cymryd rhan:

  • ASD Rainbows
  • Age Connects Morgannwg
  • Gofalwyr Cymru (Carers Wales)
  • Cymorth ag Ymddygiad Heriol
  • Cyngor ar Bopeth, Gwasanaeth Gofal a Thrwsio Cwm Taf
  • PALS Cwm Cynon, Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cwm Taf
  • Interlink
  • Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth
  • Elusen Ray of Light
  • Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth RhCT
  • Camau'r Cymoedd, Vision Products
  • SNAP Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
  • Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS)
  • Cymorth i Gynhalwyr sy'n Oedolion Ifainc
  • Gwasanaethau Hamdden

Bydd triniaethau therapiwtig a gweithgareddau hwyl hefyd ar gael drwy gydol y diwrnod, gan roi cyfle i ymwelwyr ymlacio. Bydd gweithdy'n trafod hawliau cynhalwyr hefyd yn cael ei gynnal rhwng 1pm a 2pm er mwyn rhoi’r grym yn nwylo cynhalwyr di-dâl a’u hannog i ofyn am y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, a hynny'n gyfrinachol.

Ydych chi'n gynhaliwr yn Rhondda Cynon Taf? 

Mae'r achlysur yma i ddathlu Diwrnod Hawliau Cynhalwyr 2022 am ddim ac ar agor i bob cynhaliwr di-dâl yn Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys staff y Cyngor sy'n gofalu am rywun. Oherwydd maint y lleoliad rhaid i chi anfon e-bost i cynnalycynhalwyr@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 281463 i gadw lle.

Cefnogi staff sy'n gynhalwyr di-dâl

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i gefnogi gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu yn ogystal â'u swyddi. Bydd y Cyngor, sy'n aelod o Employers for Carers, hefyd yn cynnal sesiwn rithiol i aelodau staff sy'n gynhalwyr di-dâl ddydd Mercher, 23 Tachwedd (1-2pm). 

I gadw lle, e-bostiwch CynhalwyrSynGweithio@rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 18/11/2022