Skip to main content

Cyhoeddi enillydd Her y Nadolig Byddwch yn WYRDD fel gwisg y corachod

Mae ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf wedi bod yn cymryd rhan mewn her arbennig i wneud yn siŵr ein bod ni gyd yn cael Nadolig GWYRDD.

Fe wnaeth y Cyngor dderbyn dros 260 o gynigion ar gyfer cystadleuaeth "Her y Nadolig: Byddwch yn WYRDD fel gwisg y corachod", ac mae pob un ohonyn nhw'n anhygoel.

Cafodd yr her ei rhannu â phob ysgol gynradd ledled y Fwrdeistref Sirol, ac roedd gofyn i ddisgyblion greu eu corrach GWYRDD eu hunain (i ddisgyblion rhwng 3 a 7 oed) neu ysgrifennu stori am anturiaethau eco-gyfeillgar ein Corrach Gwyrdd (i ddisgyblion rhwng 8 ac 11 oed).

Ar ôl llawer o drafod, dyma enillwyr y ddau gategori;

  • Austin Lewis, Dosbarth Derbyn, Ysgol Gynradd Pontrhondda
  • Maya Islam, Blwyddyn 5, Ysgol Gynradd Tonysguboriau 

Bydd yr ysgol fuddugol ar gyfer pob her nawr yn derbyn gwobr ariannol o £100 a bydd Austin a Maya hefyd yn derbyn taleb gwerth £20 yr un am eu hymdrechion gwyrdd.

Cyrhaeddodd y Corrach GWYRDD Rondda Cynon Taf yn gynharach ym mis Rhagfyr yn rhan o'r ymgyrch ailgylchu a gwastraff diweddaraf i helpu trigolion i fod yn fwy gwyrdd ac ailgylchu cymaint â phosibl dros gyfnod y Nadolig. Mae'r Corrach GWYRDD hefyd wedi bod yn rhoi cyngor i drigolion drwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor ar yr hyn y mae modd eu hailgylchu a'r hyn nad oes modd eu hailgylchu, yn ogystal â thynnu sylw at y newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu dros y gwyliau.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, a gafodd y fraint o ddewis enillydd:

"Mae pob ymgais sydd wedi dod i law wedi bod yn arbennig o dda ac mae wedi bod yn anodd iawn dewis enillwyr ar gyfer y cystadlaethau. Roedden nhw i gyd yn anhygoel ac rydw i wedi mwynhau darllen am holl anturiaethau'r corrach Gwyrdd yn ei ymgais i ailgylchu rhagor a helpu i leihau Newid yn yr Hinsawdd. Hoffwn i ddiolch i bawb a gymerodd rhan yn yr her a llongyfarchiadau i'n henillwyr, Austin a Maya! Rydw i wir yn gobeithio y bydd ein trigolion gwyrdd yn parhau â'r gwaith gwych ac yn ein helpu ni i gael y gwyliau Nadolig mwyaf gwyrdd a di-wastraff ERIOED. 

"Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn annog trigolion i ddal ati gyda'r gwaith da drwy gydol y flwyddyn. Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaeth ailgylchu hygyrch ac arloesol, ac mae hyn yn mynd law yn llaw â'r gwaith parhaus o addysgu'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth yn eu plith.

“Mae ein trigolion wedi gwneud ymdrech wych i ailgylchu'u gwastraff bwyd yn wythnosol hyd yma.

“Daliwch ati gyda’r gwaith gwych a gadewch i ni i gyd gymryd y camau bach i helpu i frwydro yn erbyn y Newid yn yr Hinsawdd a gwneud 2023 yn Flwyddyn Newydd Wyrddach.”

Newidiadau i'r trefniadau casglu dros gyfnod y Nadolig:

Bydd eich casgliadau wythnosol ar gyfer deunyddiau i'w hailgylchu, bwyd, cewynnau a gwastraff bagiau du yn newid yn ystod wythnos y Nadolig.

Bydd casgliadau dydd Llun 26 Rhagfyr yn cael eu casglu ddydd Mawrth 27 Rhagfyr a bydd gweddill y casgliadau ddiwrnod yn hwyr drwy'r wythnos - dydd Mawrth yn symud i ddydd Mercher, dydd Mercher i ddydd Iau, dydd Iau i ddydd Gwener, dydd Gwener i ddydd Sadwrn. 

Bydd eisiau i wastraff a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd a chewynnau) gael eu gosod yn y man arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu dros dro.

Diwrnodau Gwaith Arferol

Diwrnodau Gwaith Dros Dro

Dydd Llun 26 Rhagfyr

Dydd Mawrth (27 Rhagfyr - Gŵyl y Banc)

Dydd Mawrth 27 Rhagfyr

Dydd Mercher 28 Rhagfyr

Dydd Mercher 28 Rhagfyr

Dydd Iau 29 Rhagfyr

Dydd Iau 29 Rhagfyr

Dydd Gwener 30 Rhagfyr

Dydd Gwener 30 Rhagfyr

Dydd Sadwrn 31 Rhagfyr

Fydd eich casgliadau deunydd i'w ailgylchu, bwyd, cewynnau a gwastraff bagiau du wythnosol DDIM YN NEWID yn ystod yr wythnos ganlynol - wythnos yn dechrau dydd Llun 2 Ionawr (wythnos gynta'r Flwyddyn Newydd).

Bydd eisiau i wastraff a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd a chewynnau) gael eu gosod yn y man arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu arferol.

Diwrnodau Gwaith Arferol

Diwrnodau Gwaith Dros Dro

Dydd Llun 2 Ionawr

Dim newid (Gŵyl y Banc)

Dydd Mawrth 3 Ionawr

Dim newid

Dydd Mercher 4 Ionawr

Dim newid

Dydd Iau 5 Ionawr

Dim newid

Dydd Gwener 6 Ionawr

Dim newid

Bydd gwasanaethau eraill, fel casglu gwastraff mawr a danfon biniau ag olwynion / biniau gwastraff bwyd yn cael eu hatal dros dro o'r wythnos yn dechrau 26 Rhagfyr. Fydd hyn yn ein galluogi ni i ddefnyddio cynifer o adnoddau â phosibl i gasglu'r llwyth mawr o wastraff ailgylchu rydyn ni'n ei ddisgwyl eleni. 

Bydd y gwasanaethau arferol yn ailddechrau ddydd Llun 9 Ionawr.

Casgliadau Coed Nadolig Go Iawn a Gwastraff Gwyrdd:

O 5 Rhagfyr, mae modd i chi drefnu i'ch coeden Nadolig go iawn i gael ei gasglu o ochr y ffordd rhwng 2 Ionawr a 16 Ionawr, 2023. 

Rhaid i drigolion drefnu amser ar gyfer casglu eu coeden o leiaf 24 awr cyn eu diwrnod casglu dros dro gan na fydd y goeden yn cael ei chasglu'n awtomatig: www.rctcbc.gov.uk/CoedNadolig

Yn ystod y cyfnod trefnu amser, mae modd i goed Nadolig cael eu gosod wrth ochr y ffordd yn gyfan. Ond, rhaid i goed sydd yn fwy na 4 troedfedd cael eu torri'n ddarnau llai fel bod modd i'r criwiau eu codi'n ddiogel. Tynnwch BOB golau ac addurn ymlaen llaw.

Bydd y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd bob pythefnos (gan gynnwys coed Nadolig sydd heb eu trefnu i gael eu casglu) yn cael ei ohirio rhwng dydd Sadwrn 22 Rhagfyr a dydd Sul 13 Ionawr. Bydd y trefniadau arferol ar gyfer casgliadau yn ailddechrau ddydd Llun 16 Ionawr 2021. Bydd modd i chi fynd â'ch gwastraff gwyrdd, gan gynnwys coed Nadolig go iawn (heb fag), i'ch canolfan ailgylchu yn y gymuned leol drwy gydol cyfnod yr ŵyl.

Nodwch: Mae modd mynd â choed Nadolig ffug i ganolfan ailgylchu yn y gymuned, neu mae modd i chi drefnu i'r goeden cael ei chasglu os ydych chi eisiau cael gwared arni.

Cofiwch roi'r sbwriel a'r deunyddiau i'w hailgylchu I GYD allan erbyn 7am ar eich diwrnod casglu neu ddiwrnod caglu dros dro. Peidiwch â'u rhoi allan cyn hynny rhag ofn y byddan nhw'n gorlifo ac yn peri trafferthion i gerddwyr sy'n defnyddio'r pafin.

Os nad ydyn ni wedi casglu'ch gwastraff / eitemau ailgylchu yn ôl y disgwyl, gadewch yr eitemau ar y pafin. Mae'n bosibl bod ein gweithwyr yn gweithio oriau ychwanegol er mwyn ateb y galw. Mae’n bosibl y bydd ein criwiau’n gweithio gyda'r nos yn ystod cyfnodau prysur, ac mae modd i staff ychwanegol cael eu galw i gael gwared ar yr eitemau'r diwrnod canlynol.

Mae modd i drigolion i ymweld ag un o'r nifer o fannau casglu ar draws Rhondda Cynon Taf cyn cyfnod yr ŵyl i gasglu digon o fagiau ailgylchu.

Hefyd, hoffai carfan Gofal y Strydoedd atgoffa trigolion i barcio'n synhwyrol er mwyn sicrhau bod modd i'r lorri ailgylchu ddod i lawr eich stryd.

Am ragor o wybodaeth ac awgrymiadau ynghylch ailgylchu eich gwastraff Nadolig, dilynwch ni ar Facebook a Twitter neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/AilgylchuAdegNadolig.

Wedi ei bostio ar 21/12/22