Skip to main content

Ceisiadau ar gyfer ffilmio

Tirluniau trawiadol, rhaeadrau iachusol, pentrefi cywrain, parciau gwledig, tir tonnog, treftadaeth ddiwydiannol gref, tirnodau, adeiladau a lleoliadau hanesyddol - mae gan Rondda Cynon Taf y rhain i gyd. Dyma'r lle perffaith ar gyfer eich anghenion ffilmio ac mae sawl lleoliad â statws awyr dywyll hyd yn oed.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae sawl cynhyrchiad gwobrwyol wedi cael eu ffilmio yn Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, 'The Crown' (Netflix), 'Stella' (Sky One), ac yn ddiweddar, 'The Light' (Sianel 4). Mae Rhondda Cynon Taf yn darparu lleoliadau ar gyfer rhaglenni BBC a ITV rhanbarthol a chenedlaethol yn rheolaidd gan gynnwys Casualty a Top Gear.  

Mae modd i Gyngor RhCT gynnig cyngor a chymorth i gwmnïau cynhyrchu i sicrhau eu bod nhw'n cael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i arddangos ein cymoedd prydferth ar y sgrin fawr. 

Hoffech chi ffilmio yn Rhondda Cynon Taf? Os felly, llenwch y ffurflen gais ar waelod y dudalen yma.

Mae canllawiau ar gael hefyd, ond os ydych chi eisiau gofyn cwestiwn, anfonwch e-bost: CysylltiadauCyhoeddus@rhondda-cynon-taf.gov.uk neu ffonio'r Garfan Cyfryngau ar 01443 424007.

Does dim hawl ffilmio heb ganiatâd ysgrifenedig.