Skip to main content

Lles Gyda Cari

Mae Cari yn adnodd hunanofal pwysig ac mae modd iddo ddarparu adborth unigol, ymyraethau a mynediad i gymorth.

Sylfaen ein lles personol yw ni'n hunain, ac mae cyfrifoldeb ar bob un ohonon ni i ofalu ar ôl ein hunain. Mae hunanofal yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein lles ni'n cael ei gynnal, ac mae modd cael cymorth mewnol ac allanol ychwanegol i wneud hynny os oes angen. Ein nod ni yw bod CARI yn chwarae rhan allweddol yn y broses yma, drwy roi cymorth i chi i fod yn gyfrifol am eich lles chi eich hun ac i gael rheolaeth dros eich iechyd meddwl.

Rhowch gynnig ar Cari eich hun trwy glicio yma! https://www.cariwellbeing.co.uk/cari-rct/

Os ydych chi'n gweithio mewn ysgol, defnyddiwch y ddolen ganlynol: https://www.cariwellbeing.co.uk/rct-schools/

Beth yw Cari?

Adnodd gan RhCT yw Cari sy'n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i fesur lefelau eich lles unigol, a hynny ar ffurf ymgynghoriad cyflym a syml ar-lein. 

Mae Cari yn HOLLOL GYFRINACHOL. Fydd canlyniadau'ch ymgynghoriad personol chi ddim yn cael eu hadrodd yn ôl i'ch rheolwr nac i Gyngor Rhondda Cynon Taf.

Ar ôl i chi orffen eich ymgynghoriad, bydd Cari yn creu adroddiad lles personol a chynhwysfawr.

Caiff yr adroddiad ei dorri lawr i wahanol feysydd cyflawniad a meysydd rydych chi, o bosibl, yn eu cael yn anodd.

  • Cymorth
  • Ymdopi
  • Perthnasau
  • Swydd
  • Hapusrwydd/Iechyd

Yna, mae Cari yn awgrymu ymyriadau mewnol ac allanol sydd wedi'u teilwra i'ch anghenion lles unigol chi.

Mae modd i chi fewngofnodi i Cari gynifer o weithiau ag yr hoffech chi, er mwyn cael mynediad at gymorth a rhagor o wybodaeth.

Mae Cari yn gwbl gyfrinachol, ac oherwydd ein bod ni am roi hyder i staff i gwblhau eu hymgynghoriad, bydd Cari yn darparu data lles yn ôl i'r sefydliad a'r maes gwasanaeth. Serch hynny, os bydd llai nag 20 o bobl yn cwblhau ymgynghoriad, yna ni fydd unrhyw ddata ar gael. Bydd y data yma'n cael ei ddefnyddio i lywio ymyriadau cymorth ar gyfer lles staff.

I sefydlu'ch cyfrif, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw nodi'ch enw, cyfeiriad e-bost a'r garfan rydych chi'n rhan ohoni

Mae Cari wir yn gweithio!!! Mae'n gywir 92% o'r amser - rhowch gynnig arni!

YouTube – Gwyliwch y fideo yma i weld sut mae Cari'n gweithio!

Cymorth - Sut i gael mynediad at Cari?

Rydyn ni eisiau i Cari fod mor hygyrch â phosibl i bob aelod o staff. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i gael mynediad at Cari yn y gwaith, siaradwch â'ch Rheolwr Llinell, Hyrwyddwr Digidol neu'ch Cynrychiolydd Undeb.

Mae hefyd modd i chi gael mynediad at Cari trwy fynd i'ch Llyfrgell RhCT leol!
Gofynnwch i aelod o staff cyfeillgar y Llyfrgell am gymorth i ddechrau'ch ymgynghoriad Cari.
Bydd e/hi'n dangos i chi sut i wneud y canlynol:

  • Creu cyfrif Cari
  • Dechrau'ch ymgynghoriad Cari
  • Cyrchu'ch adroddiad lles.

Os ydych chi'n defnyddio Cari gartref ac mae angen cymorth technegol pellach arnoch chi, mae croeso i chi ffonio'r Llinell Gymorth Lles ar 01443 424 100 neu anfon e-bost at LlinellGymorth@rctcbc.gov.uk