Rownd 2
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o hoelion wyth agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Bydd y gronfa yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiadau lleol erbyn mis Mawrth 2025. Diben y gronfa yw annog trigolion i ymfalchïo yn eu cymunedau lleol a chynnig cyfleoedd bywyd gwell i bobl ledled y DU trwy fuddsoddi mewn cymunedau a chefnogi busnesau, pobl a sgiliau.
Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi ymrwymiad ehangach y Llywodraeth i ffyniant bro ledled y DU trwy gyfrannu at bob un o'r amcanion ffyniant bro:
- Rhoi hwb i gynhyrchiant, tâl, swyddi a safonau byw trwy ehangu'r sector breifat, yn enwedig yn y llefydd sydd angen y cymorth yma.
- Creu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y llefydd ble mae diffygion o ran hyn.
- Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn y lleoedd hynny lle maen nhw wedi mynd ar goll.
- Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y llefydd sydd â diffyg cymorth lleol.
Nod cynllun Lluosi (Multiply) yw cynyddu lefelau rhifedd gweithredol ym mhoblogaeth oedolion ledled y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi adnabod y llwyddiant canlynol ar gyfer y rhaglen ar lefel cenedlaethol:
- Mwy o oedolion yn ennill cymwysterau mathemateg / cymryd rhan mewn cyrsiau rhifedd.
- Gwelliant yng nghanlyniadau'r farchnad llafur.
- Gwelliant yn rhifedd oedolion ar draws y boblogaeth.
Yn Rhondda Cynon Taf:
Mae Grant Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn gyfle i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fuddsoddi mewn adeiladau ac isadeiledd i adfer cymunedau a pherthnasau, a gosod seiliau ar gyfer datblygiadau cymunedol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol yn ein cymunedau.
Mae'r Cyngor RhCT wedi sicrhau bod Grant Cymunedol Lluosi ar gael gyda’r bwriad o:
- Gwella sgiliau rhifedd oedolion ledled y wlad
Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU - Grant Cymunedol Cyngor Rhondda Cynon Taf
Dyfarniad Lefel Is - £1,000 i £14,999
Mae'r grant Cymunedol ar gael i sefydliadau dielw personol, sefydliadau yn y Trydydd Sector a Grwpiau Cymunedol, gan gynnwys Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a Chwmnïau Cyfyngedig drwy Warant sy'n gallu dangos bod gyda nhw Gyfansoddiad neu Ddogfen Lywodraethol; a Chyfrif Banc yn enw'r sefydliad gydag o leiaf 2 lofnod ar wahân (sydd ddim yn perthyn i'w gilydd). Mae cyfanswm o £270,000 ar gael. Rhaid i'r prosiectau ofyn am gymorth refeniw yn unig.
Nodwch: Does dim hawl gan ddarparwyr y Gronfa sydd wedi'u comisiynu eisoes gwneud cais.
Y tro yma, bydd ceisiadau'n agor 09 Medi 2024 ac yn cau ar 27 Medi 2024 am 5pm.
Yr amserlen ar gyfer y gwariant/gweithgaredd cymwys yw 1 Hydref 2024 – 28 Chwefror 2025.
Rhaid i brosiectau gwblhau eu holl weithgarwch a gwerthiant ariannol erbyn 28 Chwefror 2025.
Mae ymgeiswyr llwyddiannus o Rownd 1 Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU – Grant Cymunedol Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gymwys i gyflwyno cais eto yn ystod Rownd 2 ar gyfer prosiect gwahanol.
Rhaid i chi arddangos sut bydd eich gweithgarwch yn ymgorffori rhifedd a/neu mathemateg.
Gall gweithgarwch cymunedol gynnwys amrywiaeth o weithgareddau cymunedol. Er enghraifft (ond ddim yn gyfyngedig):
- Dosbarthiadau Coginio: Mae addysgu sgiliau coginio sylfaenol yn cyfuno mesur, ffactorau, a chyfrannau, sy'n meddwl eu bod yn ffordd wych o ddysgu rhifedd wrth gael hwyl yn y gegin.
- Gweithdai garddio: Mae cynllunio a dylunio gardd yn cyfuno mesur a gofodi ar gyfer planhigion, cyfrif cyfaint pridd ac amcangyfrif cynnyrch sydd i gyd yn gofyn am fathemateg sylfaenol.
- Gweithdai Crefft: Mae crefftau fel gwau, cwiltio a gwaith pren yn cyfuno mesuriadau a siapiau geometrig, sy'n cynnig cyfle i ymarfer sgiliau mathemateg mewn amgylchfyd creadigol.
- Prosiectau Adnewyddu Cartrefi DIY: Mae gweithgareddau fel creu tai adar a gwelyau gardd uchel yn cyfuno sgiliau rhifedd, mesur a chyllido.
- Teithiau cerdded Archwilio a Natur awyr agored: Gall archwilio llwybrau natur a pharciau gyfuno amcangyfrif pellter, mesur taldra coed ac adnabod patrymau ym myd natur. Gyda phob un yn gofyn am gysyniadau rhifol.
Mae canllawiau a gwybodaeth ychwanegol ar ffurf dogfennau Word a PDF ar gael i'w lawrlwytho isod:
Gwneud cais ar-lein
Gwneud cais ar-lein ar gyfer y Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU - Grant Cymunedol Multiply
I ofyn am gyngor neu gymorth e-bostiwch - cffggrantcymunedolrhct@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 425368.