Skip to main content

Urddas Mislif ac Ymwybyddiaeth Ynghylch y Menopos

Yn y gweithdy Urddas Mislif ac Ymwybyddiaeth Ynghylch y Menopos, fe gewch chi'r cyfle i gael gwybod rhagor am y cynhyrchion cynaliadwy ac amldro ar gyfer y mislif sydd ar gael i grwpiau cymunedol yn RhCT.

Mae'r gweithdai wedi bod o gymorth i bobl ddod yn fwy hyderus o ran cael sgyrsiau am urddas mislif a chynaliadwyedd. Mae gwybodaeth am y Menopos yn cael ei thrin a'i thrafod hefyd.

Hyd: Awr a hanner

Dull cyflwyno: Wyneb yn wyneb neu ar Microsoft Teams

Os hoffech chi drefnu sesiwn hyfforddiant, neu fod yn bresennol yn un ohonynt, mynnwch air ag aelod o Garfan RhCT Gyda'n Gilydd. Gallwch wneud hynny yn ystod cyfarfodydd Rhwydweithiau Cymdogaeth, cyfarfodydd rhwydwaith Bwyd RhCT, ar e-bost rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 425 368.

Isod fe welwch fanylion ynghylch y gweithdai Urddas Mislif ar gyfer 2024 – 2025.

Aelod o'r Garfan / CydlynyddArdalLleoliad a Chyfeiriad y Gweithdy Urddas MislifDyddiad ac Amser

Lisa a Hannah

Cwm Rhondda

Gilfach Goch, Y Neuadd Gymunedol, 37-39, Y Stryd Fawr,

Gilfach Goch, CF39 8SR.

Dydd Gwener Ebrill 262024 rhwng 10.30am a 12.30pm.

Vicky & Ashlee

Cwm Cynon

YMCA Aberpennar, Heol y Dyffryn, Glynrhedynog, CF45 4DA.

Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2024 rhwng 

1.00 a 3.00pm.

Lucy

Cwm Taf

Adeilad YMa, Pontypridd.

Dydd Mawrth 11 Mehefin 2024 rhwng 2.00 a 4.00pm. 

Maria

Cwm Taf

Canolfan Hamdden Llantrisant

Dydd Mawrth 22 Hydref 2024 rhwng 2.00 a 4.00pm.

Amanda

 

 

Cwm Rhondda

Clwb Rygbi Pendyrus.

Dydd Mawrth 13 Awst 2024 rhwng 10.00am a 12.00pm.

Liz

Cwm Rhondda

Shed Fach Cymdeithas Tai Cwm Rhondda (RHA Little Red Shed), 97a Heol Dunraven, Tonypandy, CF40 1AR.

Mis Chwefror 2025 (dyddiad i'w gadarnhau)

Os hoffech chi fod yn bresennol yn un o'r sesiynau yma, mynnwch air ag aelod o Garfan Gyda'n Gilydd RhCT er mwyn cadw lle: rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk / 01443 425368.