Skip to main content

Canolfan Pennar

Nod Canolfan Cydnerthedd y Gymuned Canolfan Pennar yw dwyn ynghyd ystod eang o wasanaethau, gwybodaeth a chymorth o dan un to yng nghanol ardal De Cwm Cynon.

Mountain Ash Hub logo 1
Communitioes at work
Untitled
Customer Contact Centre - Porth - January 2019-1 (00000002)

Cyfleusterau

Cydlynydd Cymuned Cyngor Rhondda Cynon Taf

Vicky Hughes - Victoria.L.Hughes@rctcbc.gov.uk

Ffôn Symudol 07747 485757

 

Llyfrgell                                                                        

Mae'r llyfrgell bellach ar agor i bori trwy lyfrau ac mae'r gwasanaeth clicio a chasglu yn parhau i fod ar waith.

Diwrnod yr wythnos

Amser

Dydd Llun

9.00am–5.00pm

Dydd Mawrth

9.00am–6:30pm

Dydd Mercher

9:00 - 1:00pm AR GAU PM

Dydd Iau

AR GAU

Dydd Gwener

9.00am–6:00pm

Dydd Sadwrn

9.00am–1:00pm

Ystafell i'r Gymuned sydd ar gael i'w llogi 

Mae grwpiau cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a sefydliadau di-elw yn cael defnyddio'r ystafelloedd cyfarfod a'r ystafelloedd hyfforddi am ddim.
Mae modd i sefydliadau masnachol logi'r ystafelloedd am gyfradd resymol.
Am fanylion pellach neu i gadw ystafell, ffoniwch ni ar 01443 570016 neu e-bostiwch: Llyfrgell.Aberpennar@rctcbc.gov.uk

Cyfrifiaduron i'r Cyhoedd

Os ydych chi'n aelod o'r llyfrgell cewch chi ddefnyddio'r cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus am ddim yn unrhyw un o lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf. Edrych ar fanylion pellach ar raglenni cyfrifiadurol a sut i gadw lle.

Wifi am ddim

Wifi ar gael gyda chyfrif Cloud

Gwasanaeth IBobUn y Cyngor 

I wneud cais am Ostyngiad Treth y Cyngor, Budd-dal Tai, Bathodyn Glas neu Docyn Bws am Ddim, gwnewch apwyntiad gydag un o'n hymgynghorwyr yn  www.rctcbc.gov.uk/ibobun 

Caffi  

Mae 'Little Rose Café' yn gweini bwyd, diodydd a phrydau poeth ac oer ac mae ar agor rhwng 7am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener gyda chynnig arbennig am brydau bwyd - pryd a phwdin am £4 rhwng 12pm a 2pm. Dilynwch nhw ar Facebook

Toiledau

Mae gan y Ganolfan doiledau i ddynion a menywod, yn ogystal â chyfleuster newid babanod, gwely newid trydanol addasadwy a theclyn codi Oxford. 

Gwasanaethau

 

Cyngor a chymorth cyflogaeth   

Mae Cymunedau am Waith a Mwy (CfW+) yn cynnig cymorth i drigolion yn RhCT sy'n gobeithio dechrau gweithio, hyfforddineu wirfoddoli a gallwch chi drefnu apwyntiad trwy e-bostio gwaithasgiliau@rctcbc.gov.uk, trwy ddefnyddio’r eicon ar Facebook neu drwy ffonio 01443 425 761                        

Addysg yn y gymuned,
diwylliant a'r celfyddydau         

Bydd amrywiaeth o ddosbarthiadau dysgu cymunedol yn ogystal â chynlluniau celfyddydol a diwylliannol yn cael eu cynnig yn y ganolfan. Bydd y rhain yn cael eu hysbysebu yn y Ganolfan a byddan nhw'n cael eu hyrwyddo ar y dudalen we yma'n fuan.

Man Talu Lleol 

Mae modd defnyddio'r man talu yma i dalu am ystod o wasanaethau'r cyngor, gan gynnwys biliau treth y Cyngor, cyfraddau busnes a mwy.

Canolfan Pennar Stryd Rhydychen

Stryd Rhydychen,

Aberpennar

CF45 3HD 

E-bost: Llyfrgell.Aberpennar@rctcbc.gov.uk

Rhif Ffôn: 07747 485757

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n cael ei gynnig yn y ganolfan, ewch i'w tudalen Facebook www.facebook.com/CanolfanPennar