Skip to main content

Cymorth i Drigolion

RCTTogether
Mae'r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid allweddol er mwyn darparu cymorth i drigolion. Mae modd i drigolion Rhondda Cynon Taf ofyn am gymorth unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen isod a chwblhau'r ffurflen gais am gymorth, neu drwy ffonio 01443 425003.  Bydd cymorth naill ai'n cael ei ddarparu gan staff y Cyngor, grŵp cymunedol neu bartner allweddol

Gofyn am gymorth

Mae modd i chi ofyn am gymorth trwy drwy lenwi'r ffurflen ar-lein

Cefnogaeth a Chymorth

Mae modd i chi ofyn am gymorth ar unrhyw bryd os dydych chi ddim yn derbyn cefnogaeth gan eich teulu, ffrindiau neu'ch cymuned.

Mae modd i'ch carfan ymateb cymunedol lleol roi cymorth gyda'r canlynol:

  • Cymorth wrth siopa - mae'r gwasanaeth yma'n cael ei gynnal gan bartner allweddol neu grŵp cymunedol. Efallai bod cost i'r gwasanaeth yma.
  • Cymorth i ddod o hyd i waith neu dderbyn hyfforddiant - bydd y garfan Cymunedau am Waith a Mwy yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.
  • Gwybodaeth ac arweiniad ynglŷn ag arian neu fudd-daliadau - bydd carfan Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf neu eich Landlord Tai Cymdeithasol Cofrestredig yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.
  • Cymorth i fynd i'r afael â'ch gamblo chi, neu gamblo rhywun arall - bydd Asiantaeth Adfer Dibyniaeth (ARA) yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.
  • Gwybodaeth yn ymwneud â gwasanaeth y llyfrgell yn eich cartref - bydd Gwasanaeth y Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.
  • Gwybodaeth yn ymwneud â'r Gwasanaeth 'Lifeline Plus' - bydd carfan Gwasanaethau i Oedolion Rhondda Cynon Taf yn anfon taflen wybodaeth i gyfeiriad eich cartref.
  • Cymorth lles os ydych chi'n teimlo'n unig neu'n ynysig neu pe hoffech chi gysylltu â grŵp cymunedol yn eich ardal leol - bydd Cydlynwyr Lles Interlink Rhondda Cynon Taf yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.
  • Asesiad Lles - efallai bydd yr asesiad yma'n cynnwys ymweliad cartref i drafod a chofnodi sefyllfa’r teulu cyfan, gan gynnwys pethau sy’n mynd yn dda a phethau efallai bod angen cymorth arnoch chi gyda nhw - bydd Cydlynwyr Cymunedol o garfan RhCT Gyda'n Gilydd yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.
  •  Taliad fesul Taleb Tanwydd Dewisol a/neu Daleb Archfarchnad Ddewisol ar gyfer trigolion sy'n wynebu anawsterau ariannol sylweddol (mae'r Talebau Tanwydd ar gyfer trigolion sydd eisoes yn talu ar gyfer eu tanwydd fesul cynllun talu, does dim modd defnyddio'r talebau os ydych chi'n defnyddio mesurydd talu ymlaen llaw) - rhaid i drigolion gwrdd â meini prawf er mwyn derbyn y ddwy daleb yma. Bydd Cydlynnwyr Cymunedol o garfan RhCT Gyda'n Gilydd yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Bydd unigolyn o bob carfan ymateb lleol yn cysylltu â chi er mwyn rhannu gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud â'r meysydd penodol sydd wedi'u nodi uchod.

Yn dibynnu ar eich anghenion, bydd y Cyngor yn rhannu eich manylion ag adrannau/sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol i ddarparu unrhyw gymorth arbenigol yr ydych wedi gofyn amdano. 

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut mae'r Cyngor yn prosesu a gwarchod eich gwybodaeth, darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd. Dilynwch y ddolen isod i fwrw golwg arno: www.rctcbc.gov.uk/diogeludata.

Cychwyn Iach – Talebau Bwyd a Fitaminau

Mae 71% o deuluoedd cymwys sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf wedi hawlio'r talebau Cychwyn Iach y mae gyda nhw hawl i'w derbyn.

Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod pawb sy'n gymwys yn hawlio'r talebau, ac i gynyddu'r ganran yma.

Cliciwch ar y ddolen Cael cymorth i brynu bwyd a llaeth (Cychwyn Iach) neu'r poster isod i gael gwybod a ydych chi'n gymwys a hawlio NAWR!!!!

Os ydych chi'n sefydliad neu'n berson sy'n rhoi cymorth i deuluoedd neu unigolion beichiog, mae croeso i chi rannu'r wybodaeth a'r poster. 

AF Wales logo