Skip to main content

Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU - Grant Cymunedol Cyngor Rhondda Cynon Taf

Mae'r cyfnod cyflwyno cais ar gyfer Rownd 3 bellach wedi dod i ben. Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar ôl 5:00pm ddydd Gwener 08 Mawrth 2024 ddim yn cael eu hystyried. Mae ceisiadau rownd 3 wrthi'n cael eu hasesu. Byddwn ni'n rhoi gwybod am benderfyniadau i ymgeiswyr cyn gynted â phosibl. 
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ganolog i agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Bydd y gronfa yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiadau lleol erbyn mis Mawrth 2025. Diben y gronfa yw annog trigolion i ymfalchïo yn eu cymunedau lleol a chynnig cyfleoedd bywyd gwell i bobl ledled y DU trwy fuddsoddi mewn cymunedau a chefnogi busnesau, pobl a sgiliau.

Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi ymrwymiad ehangach y Llywodraeth i ffyniant bro ledled y DU trwy gyfrannu at bob un o'r amcanion ffyniant bro:

  • Rhoi hwb i gynhyrchiant, tâl, swyddi a safonau byw trwy ehangu'r sector breifat, yn enwedig yn y llefydd sydd angen y cymorth yma
  • Creu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y llefydd ble mae diffygion o ran hyn
  • Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn y llefydd ble maen nhw wedi mynd ar goll
  • Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y llefydd sydd â diffyg cymorth lleol

Am ragor o wybodaeth bwriwch olwg yma: www.gov.uk

Yn Rhondda Cynon Taf

Mae Grant Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn gyfle i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fuddsoddi mewn adeiladau ac isadeiledd i adfer cymunedau a pherthnasau, a gosod seiliau ar gyfer datblygiadau cymunedol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol yn ein cymunedau.

Mae’r Cyngor wedi cyflwyno Grant Cymunedol er mwyn cyflawni'r canlynol:

  • Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn y llefydd ble maen nhw wedi mynd ar goll

Bydd £4.3 miliwn yn cael ei fuddsoddi'n lleol dros gyfnod o dair blynedd, gan ddod i ben ym mis Mawrth 2025.

Mae rhestr lawn o'r Grantiau Cymunedol SPF – RCTCBC a ddyfarnwyd hyd yma ar gyfer 2022-20232023-2024, a 2024-2025.

Mae'r cyfnod cyflwyno cais ar gyfer Rownd 3 bellach wedi dod i ben. Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar ôl 5:00pm ddydd Gwener 08 Mawrth 2024 ddim yn cael eu hystyried.


Funded by UK Government WelshWedi'i yrru gan ffyniant bro