Skip to main content

Grant Hylendid Benywaidd mewn Cymunedau

Mae'r Grant Urddas Mislif mewn Cymunedau yn fenter i ddarparu cynhyrchion mislif i'r rheiny sy'n wynebu rhwystrau ariannol neu emosiynol.

Gwybodaeth Allweddol:

Mae grantiau ar gael i grwpiau cymunedol sydd â'r gallu i storio cynhyrchion ac sy'n rhoi cymorth uniongyrchol i'r rhai a fydd yn elwa ohonyn nhw.

Caiff Cynhyrchion Mislif eu darparu mewn bwndel. Mae 81% o'r cynhyrchion yma yn gyfeillgar i'r hinsawdd ac/neu'n eco-gyfeillgar.

Bydd gofyn i grwpiau sydd eisiau derbyn bwndel i'w rhannu yn y gymuned gytuno â thelerau ac amodau, gan nodi eu bod nhw’n:

  • Cytuno i ddarparu cynhyrchion am ddim i'w defnyddio.
  • Cytuno i fynychu Gweithdy Eitemau y mae modd eu Hailddefnyddio. Bydd hyn naill ai wyneb-yn-wyneb neu ar-lein.
  • Cytuno i hysbysebu eich lleoliad chi ar wefan y Cyngor.

Mae Cynhyrchion Urddas Mislif ar gael ledled Rhondda Cynon Taf.

I gael rhagor o wybodaeth am leoliad y cynhyrchion yma a sut i gael mynediad atyn nhw e-bostiwch Garfan Rhondda Cynon Taf Gyda'n Gilydd ar rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 425368.

Tudalennau Perthnasol