Skip to main content

RhCT Rhwydwaith Staff

Cynghreiriaid – Torri Ffiniau

Allies

Mae ein rhwydwaith Cynghreiriaid yn cefnogi pob rhwydwaith staff arall. Rydyn ni o'r farn bod pobl yn cyflawni'n well wrth ddangos pwy ydyn nhw. Mae'r Cynghreiriaid yn defnyddio eu rôl nhw o fewn y Cyngor i greu diwylliant lle mae modd i hyn ddigwydd. 

Egwyddorion ein Rhwydwaith yw:

Datblygu triniaeth deg

  • Sicrhau bod pawb yn cael cydraddoldeb llawn yn y gweithle
  • Herio diwylliannau lle nad oes modd i bobl ddangos pwy ydyn nhw

Bod yn Gynghreiriad

Does dim ffordd gywir neu anghywir o fod yn gynghreiriad. Y cyfan sydd ei angen yw i chi ddangos eich bod chi o'r farn bod tegwch a chydraddoldeb yn bwysig trwy'r hyn rydych chi'n ei wneud a'i ddweud. 

Dyma rai ffyrdd i chi ddangos eich cefnogaeth a bod yn gynghreiriad gweithredol:

Bod yn weladwy – rhowch wybod i bobl eich bod chi'n gynghreiriad

  • Siarad yn gadarnhaol am y rhesymau eich bod chi'n ymrwymo i gydraddoldeb
  • Herio iaith ac ymddygiad annerbyniol yn y gweithle
  • Cefnogi a dangos y ffordd i gydweithwyr sy'n methu â dangos pwy ydyn nhw yn y gweithle
  • Cefnogi rhwydweithiau staff eraill
  • Cefnogi a hyrwyddo ymgyrchoedd cydraddoldeb trwy godi ymwybyddiaeth
  • Annog pobl eraill i fod yn gynghreiriaid
  • Bod yn rhan o ddiwrnodau ymwybyddiaeth, boreau coffi ac achlysuron cydraddoldeb
  • Gwrando ar straeon a'u rhannu.

Am ragor o wybodaeth, neu pe hoffech chi ymuno, e-bostiwch Cynghreiriaid@rctcbc.gov.uk.

Anabledd a Chynhalwyr

Disability and Carers

Ydych chi'n gofalu am rywun boed yn rhiant, plentyn, partner neu aelod o'r teulu? 

A oes gyda chi anabledd, megis iechyd meddwl gwael, anhawster dysgu, neu anabledd corfforol neu gudd?

Ydych chi eisiau bod yn rhan o rwydwaith cefnogol o gyfoedion gyda'r nod o gynhwysiant, cymorth a chydraddoldeb i bob aelod o staff?

Mae'r Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr yn gyfle i wneud gwahaniaeth a chael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr eraill sydd ag anabledd neu gyfrifoldebau gofalu. Mae croeso i unrhyw un sydd ag anabledd, gan gynnwys cyflwr iechyd meddwl, neu sydd â chyfrifoldebau gofalu, ymuno.

Yn rhan o'r rhwydwaith, byddwch chi'n cael cymorth gan aelodau staff eraill, cael gwybod am y cymorth sydd ar gael i chi, ac yn helpu i gynghori'r Cyngor ar sut i wella ansawdd bywyd gwaith cynhalwyr ac unigolion anabl.

Am ragor o wybodaeth, neu pe hoffech chi ymuno, e-bostiwch RhwydwaithAnableddaChynhalwyrStaff@rctcbc.gov.uk

Rhwydwaith Staff Niwroamrywiol Rhondda Cynon Taf.

ND Network

Mae'r rhwydwaith yn cael ei arwain gan staff niwroamrywiol y Cyngor ac wedi'i gymeradwyo gan Uwch Arweinwyr y Cyngor. Mae wedi cael ei sefydlu er mwyn helpu'r Cyngor ar y daith i dderbyn, amddiffyn a dathlu niwroamrywiaeth yn ei gweithlu. Bydd y Rhwydwaith yn cynnwys 3 prif ran:
  • Gwybodaeth, codi ymwybyddiaeth ac ymgyrchoedd - mae'r rhan yma ar gyfer helpu a chodi ymwybyddiaeth i bob aelod o staff (niwroamrywiol a niwrodebygol). Bydd y grŵp yma'n darparu cyngor a gwybodaeth ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn niwroamrywiaeth, ond hefyd ar gyfer y rheiny sy'n chwilio am wybodaeth ar lwybrau cael diagnosis a.y.b. Byddwn ni hefyd yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd er mwyn mynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu a gwella'r profiad o weithio i'r Cyngor i bawb
  • Grŵp Cymorth Cyfoedion ar gyfer staff niwroamrywiol - bydd croeso i unrhyw un o weithwyr y Cyngor sydd wedi derbyn diagnosis ffurfiol o niwroamrywiaeth neu ar y llwybr diagnostig (mae hyn yn golygu eu bod wedi cael eu hatgyfeirio ar gyfer asesiad / ar restr aros derbyn diagnosis) ddod i ran yma'r rhwydwaith. Mae'n grŵp caeedig er mwyn darparu amgylchedd unigryw sy'n ddiogel a chyfrinachol i aelodau.
  • Cynorthwyo â busnes sefydliadol y Cyngor - bydd hyn yn golygu bod aelodau'r Rhwydwaith Staff Niwroamrywiol ar gael i eirioli dros staff niwroamrywiol a helpu rheolwyr wrth ddarparu addasiadau rhesymol.

 Mae croeso i staff fyddai'n hoffi ymuno â’n Grŵp Cymorth Cyfoedion wneud hynny ar hyn o bryd. Os hoffech chi ymuno â rhan Cymorth Cyfoedion y Rhwydwaith Niwroamrywiol, neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, e-bostiwch RhwydwaithNA@rctcbc.gov.uk. Rydyn ni'n cwrdd bob mis ar hyn o bryd, ac mae modd i staff fynychu'r cyfarfodydd yma'n rhan o'u horiau gwaith.

 Byddwn ni'n lansio rhannau eraill y rhwydwaith ddechrau 2024.

 Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth yn ymwneud ag ymuno â'r Rhwydwaith Staff Niwroamrywiol, e-bostiwch RhwydwaithNA@rctcbc.gov.uk

Perthyn – Dyheu i berthyn

Perthyn

Ydych chi'n arddel hunaniaeth lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu draws? Oes gyda chi ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth i gydweithwyr LGBTQIA+? Hoffech chi fod yn rhan o rwydwaith staff cyffrous?

Perthyn yw ein rhwydwaith staff LGBTQIA+ ac mae croeso i unrhyw aelod o staff sy'n gweithio i'r Cyngor neu ar ran y Cyngor ac sy'n perthyn i'r gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Cwiar (queer)/Cwestiynu, Rhyngrywiol ac Anrhywiol. Nodwch fod traws, cwiar/cwestiynu a'r symbol '+' yn dermau cyffredinol i ddisgrifio'r bobl hynny nad yw eu rhywedd yr un peth â’r rhyw a gafodd ei neilltuo iddyn nhw adeg eu geni, neu bobl sydd â hunaniaeth rhywedd neu rhywiol gwahanol. 

Nod Perthyn yw:

Cefnogi gwaith parhaus y Cyngor i greu gweithle amrywiol a chynhwysol lle mae modd i aelodau o staff LGBTQIA+ fod yn weladwy heb ofni cael eu cosbi, ac yn rhydd rhag achosion o wahaniaethu neu ragfarn yn eu bywydau gwaith

  • Cynnal lle diogel lle mae aelodaeth yn wirfoddol ac yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Mae'r grŵp yn derbyn efallai fydd aelodau ddim yn dymuno “dod allan” yn y gweithle ac rydyn ni'n parchu eu dymuniad i aros yn ddienw wrth gymryd rhan yn achlysuron y rhwydwaith
  • Cynghori'r Cyngor ynghylch datblygu ei bolisïau amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Gweithredu'n wasanaeth cyfeirio ar gyfer staff a gwirfoddolwyr i roi gwybod am unrhyw achosion o wahaniaethu neu ragfarn y maen nhw wedi eu dioddef ac/neu wedi bod yn dyst iddyn nhw yn y gweithle. Bydd y rhwydwaith yn gweithio'n agos gyda'r Garfan Amrywiaeth a Chynhwysiant yn unol â'r Polisi Urddas yn y Gwaith i fynd i'r afael â'r materion yma os bydd y rhwydwaith neu ei aelodau yn cael gwybod am achosion o'r fath.

Am ragor o wybodaeth, neu pe hoffech chi ymuno, e-bostiwch Perthyn@rctcbc.gov.uk.

Spotlight

Spotlight

Spotlight yw'r rhwydwaith staff i bobl o bob cefndir diwylliannol a hiliol sy'n angerddol dros wneud newid sefydliadol. Mae'r rhwydwaith yn rhoi cyfle i drafod, cwestiynu, herio a gweithredu lle bo angen, i hyrwyddo cydraddoldeb i bob hil ac amrywiaeth. Rydyn ni'n croesawu pobl o bob cefndir ethnig i gyfrannu tuag at sgwrs ehangach ynglŷn â chynnydd.  

Ein bwriad ni yw bod yn eiriolwyr dros gydraddoldeb i bobl o bob hil ac amrywiaeth. Ein bwriad yw cynnig safbwyntiau a syniadau newydd trwy rannu ein profiadau er mwyn sicrhau bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn groesawgar i bawb.

Egwyddorion ein Rhwydwaith yw:

  • Bod yn lle diogel i rannu ein profiadau
  • Ysgogi newid sefydliadol
  • Trafod materion cymdeithasol megis hiliaeth
  • Canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion i'r problemau rydyn ni'n eu hwynebu
  • Croesawu cefndiroedd a diwylliannau amrywiol

Am ragor o wybodaeth, neu pe hoffech chi ymuno, e-bostiwch Spotlight@rctcbc.gov.uk.