Skip to main content

#ArwyryGymdogaethRhCT - Canolfan Pentre

Rheswm dros enwebu: Er gwaethaf y bwriad i gau'r ganolfan, roedd y tywydd garw ym mis Chwefror yn golygu bod y staff a'r gwirfoddolwyr yn penderfynu cadw Canolfan Pentre ar agor i ddarparu gwasanaethau hanfodol a chynnig cymorth i'r rhai cafodd eu heffeithio gan ddifrod yn eu tai oherwydd y llifogydd.

Gan gydlynu rhoddion gan fusnesau, trigolion a sefydliadau eraill yn rhan y Rhondda, roedd y staff a'r gwirfoddolwyr yn allweddol gan ddarparu bwyd, nwyddau glanhau a dillad i'r rheiny cafodd eu heffeithio gan ddifrod yn ystod cyfnod y llifogydd.  Parhaodd y ganolfan i weithredu fel canolfan hanfodol i drigolion y Pentre a thu hwnt drwy ddarparu mynediad i systemau cyfathrebu dros y ffôn a ThGCh a chynorthwyo gyda cheisiadau am grant adfer cymunedau yn dilyn llifogydd gan y Cyngor – y Taliad Caledi a chynllun rhyddhad ariannol Llywodraeth Cymru.

Pentre

Mae'r cymorth yma wedi parhau drwy argyfwng cenedlaethol y Coronafeirws, gyda gwirfoddolwyr a staff yn darparu rhwyd ddiogelwch hanfodol ar gyfer y gymuned. O ddosbarthu dros 2,000 o becynnau crefftau a gweithgareddau i blant a thros 2,000 o becynnau te prynhawn a gofal i drigolion hŷn yr ardal, mae'r rheiny sy'n ymwneud â Chanolfan Pentre wedi mynd i’r filltir eithaf er mwyn sicrhau bod trigolion y gymuned yn cadw'n ddiogel ac yn iach.  Mae pobl wedi casglu meddyginiaethau presgripsiwn ac wedi siopa bwyd ar ran pobl sy'n agored i niwed a grwpiau sy'n cael eu gwarchod, tra bod y rhai a ddioddefodd yn ystod y llifogydd hefyd wedi derbyn basged o nwyddau defnyddiol er mwyn iddyn nhw wybod nad ydyn nhw wedi cael eu hanghofio.