Skip to main content

Cwestiynau cyffredin

Parhad Darpariaeth Clwb Brecwast am ddim mewn Ysgolion Cynradd ac Arbennig a Chyflwyno Tâl am yr Elfen Gofal Plant Ychwanegol. 

Mae pob un o'r 92 ysgol yn Rhondda Cynon Taf a 3 ysgol arbennig yn darparu clybiau brecwast am ddim, ac mae pob disgybl, o'r dosbarth meithrin hyd at flwyddyn 6, yn gymwys i'w mynychu. Mae Gwasanaethau Arlwyo Addysg y Cyngor yn cyflenwi'r staff a'r bwyd i ysgolion cynradd ac arbennig er mwyn hwyluso mynediad at glybiau brecwast am ddim. Mae ysgolion hefyd yn darparu sesiwn gofal plant hanner awr am ddim cyn i'r clwb brecwast ddechrau. Mae'r rhan fwyaf o'r sesiynau yma ar gael rhwng 8am a 9am.

Mae Cabinet y Cyngor wedi cymeradwyo cynnig i barhau i ddarparu sesiwn brecwast hanner awr am ddim mewn ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig, ond bydd y Cyngor yn cyflwyno tâl ar gyfer y gofal plant ychwanegol sydd ar gael cyn y clybiau brecwast.

Pam bod y Cabinet yn trafod y cynnig yma, a sut fyddai unrhyw arbedion yn cael eu defnyddio?

Mae'r Cyngor yn wynebu bylchau ariannol gwerth £35 miliwn ar gyfer 2024/25 a bwlch amcangyfrifiedig gwerth £85 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Felly, rhaid i'r Cyngor ystyried nifer o opsiynau er mwyn cyflawni'r arbedion angenrheidiol er mwyn darparu cyllid cyfreithiol gytbwys ar gyfer 2024/25.

O ganlyniad i'r amgylchiadau yma, mae'r Cyngor wrthi'n adolygu'r gwasanaethau sy'n mynd y tu hwnt i ofynion cyfreithiol statudol presennol, gan gynnwys adolygu elfen ddewisol o ofal plant yn ystod y clybiau brecwast.

Byddai'r incwm yn sgil y cynnig yn cael ei ail-fuddsoddi yn ôl i mewn cyllid ysgolion, er mwyn gwrthbwyso pwysau o ran costau.

Beth yw'r newid arfaethedig ar gyfer darparu'r gwasanaeth? (wedi'i grynhoi i £60 y tymor)

Rydyn ni'n cynnig cyflwyno tâl gwerth £1 y dydd (wedi'i dalgrynnu i £60 y tymor) i rieni/cynhalwyr sy'n manteisio ar yr hanner awr ychwanegol o ofal plant sydd ar gael i blant yn yr ysgolion trwy'r gwasanaeth clybiau brecwast, sydd fel arfer yn gweithredu rhwng 8am a 8.30am.

Pryd fyddai’r polisi yma'n dod i rym?

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet o’r argymhellion a wnaed yn ystod ei gyfarfod ar 20 Tachwedd, byddwn ni'n cynnal ymgynghoriad chwe wythnos yn gyntaf er mwyn llywio adroddiad pellach i'r Cabinet mewn perthynas â'r cynigion. Os bydd y Cabinet yn cymeradwyo'r cynigion yn dilyn y cyfnod yma, mae'n bosibl y byddan nhw'n dod i rym o fis Ebrill 2024.

Sut fyddai rhieni'n talu am y gwasanaeth gofal plant?

Yn unol â threfniadau talu ar gyfer prydau ysgol, dim ond ar-lein y byddai modd i rieni/cynhalwyr wneud taliadau ar gyfer y costau gofal plant.

Byddai'r costau ar gyfer elfen gofal plant clybiau brecwast yn seiliedig ar gost gwerth £60 fesul tymor. Byddai hyn yn daladwy ar ddechrau pob tymor ac ni ellir ei ad-dalu.

Y gost flynyddol arfaethedig i rieni/cynhalwyr fyddai £180.

Fydd dim angen i blant wedi'u hasesu'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim dalu.

Sut fydd hyn yn effeithio ar frecwast am ddim?

Fydd y cynnig yma ddim yn effeithio ar gyfle plant i fanteisio ar frecwast iach am ddim yn yr ysgol.

Bydd modd i bob disgybl o'r dosbarth meithrin hyd at flwyddyn 6 barhau i fanteisio ar frecwast am ddim, sydd ar gael rhwng 8.30am a 9am.

Beth os yw fy mhlentyn yn cyrraedd yr ysgol am 8.15am / 8.2am / 8.25am (Enghraifft yn seiliedig ar leoliad sy'n gweithredu rhwng 8am a 9am fel arfer)?

Mae'r cynnig yn nodi y byddai disgyblion sy'n manteisio ar y sesiwn gofal plant ychwanegol yn cyrraedd rhwng 8am a 8.15am, ac yn mynychu'r sesiwn.

Am 8.15am, byddai'r drysau i'r sesiwn gofal plant yn cau a fyddai dim disgyblion pellach yn cael eu derbyn i'r sesiwn.

Byddai'r drysau'n agor am 8.25am er mwyn paratoi ar gyfer dechrau'r sesiwn brecwast am ddim.

Byddai'r sesiwn gofal plant ychwanegol â thâl yn dod i ben am 8.30am, sef yr un amser â dechrau'r clwb brecwast.

Os oes gen i fwy nag un plentyn yn mynychu'r sesiwn gofal plant, oes rhaid i fi wneud mwy nag un taliad?

Byddai'r ymgynghoriad yn ceisio barn mewn perthynas â chonsesiynau posibl eraill i'r tâl o £1 - fel tâl wedi'i gyfyngu i ar gyfer rhieni/cynhalwyr gyda mwy nag un plentyn yn manteisio ar y ddarpariaeth.

Fydd unrhyw eithriadau ar gyfer plant sy'n gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim?

Fydd dim angen i blant wedi'u hasesu'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim dalu.

(Nodwch: mae hyn yn ymwneud â chymhwysedd gwaelodol ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim, ac nid y disgyblion hynny sy'n derbyn darpariaeth Prydau Ysgol am Ddim Cynradd Cyffredinol).

Beth am blant sy'n cyrraedd yr ysgol trwy gludiant ysgol am ddim?

Mae'r cynnig yn yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd ar gyfer trefniadau disgyblion sy'n cael eu cludo am ddim rhwng yr ysgol a'u cartref.

Sut galla i gymryd rhan yn y broses ymgynghori?

Yn dilyn penderfyniad y Cabinet i gynnal ymgynghoriad ar gyfer y cynnig, mae'r Cyngor yn cynnig cynnal ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos gyda defnyddwyr y gwasanaeth, rhieni, cynhalwyr, darparwyr a rhanddeiliaid sy'n debygol o gael eu heffeithio gan y cynnig.

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 27 Tachwedd 2023 ac 8 Ionawr 2024.

Mae'r ymgynghoriad yn cynnwys holiadur ar-lein ar wefan y Cyngor.

Bydd llythyron yn cael eu dosbarthu i rieni/cynhalwyr trwy system negeseuon yr ysgol, a bydd ymgynghoriad addas yn cael ei gynnal gyda staff (a chynrychiolwyr o'u Hundebau Llafur) a fydd, o bosibl, yn cael eu heffeithio gan y cynnig.

Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu bwydo'n ôl i'r Cabinet yn y flwyddyn newydd.